Ysgrifennydd Gwladol: Y Gyllideb yn sicrhau adferiad economaidd cynaliadwy
Stephen Crabb: 鈥淢ae'r gyllideb hon yn rhoi sicrwydd economaidd i bobl Cymru sy'n gweithio'n galed ac sydd eisiau symud ymlaen."

Budget 2015
Mae鈥檙 Gyllideb heddiw yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn y Senedd ddiwethaf i sicrhau adferiad parhaus yng Nghymru, meddai Stephen Crabb.
Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn siarad wrth i鈥檙 Canghellor ddatgelu mesurau a oedd yn cynnwys:
- Cynyddu鈥檙 lwfans personol a fydd o fantais i 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru ac yn golygu na fydd yn rhaid i 29,000 o unigolion dalu treth incwm o gwbl
- Cyflog byw cenedlaethol newydd
- Codi鈥檙 trothwy treth incwm 40c i helpu鈥檙 rheini sydd ar incwm canolig
- Lleihau鈥檙 bylchau mewn rheolau treth ar gyfer y rheini nad yw eu cartrefi yma a defnyddio arian o ddirwyon gan y banciau er budd elusennau a chyn filwyr sydd wedi bod mewn rhyfel
- Cap ar fudd-daliadau a newidiadau i gredydau treth i wneud y system les yn decach
- Rhewi treth tanwydd am flwyddyn
- Lleihau treth corfforaeth i 18 y cant erbyn 2020, gan helpu busnesau Cymru i ail-fuddsoddi mwy o鈥檜 helw
- Buddsoddi 拢3m yn yr hyb ymchwil Economi Ddigidol yn Abertawe*
- Cynyddu lefel barhaol y lwfans buddsoddi blynyddol a fydd o fantais i 5,000 o fusnesau yng Nghymru
- Ymestyn y Gronfa Cymunedau Arfordirol i 2017**
Dywedodd Stephen Crabb:
Mae鈥檙 Gyllideb heddiw yn golygu sicrhau adferiad cynaliadwy a fforddiadwy i鈥檙 tymor hir ar gyfer pobl Cymru.
Oherwydd y penderfyniadau anodd a gafodd eu gwneud yn y Senedd ddiwethaf i ddod 芒 chyllid y wlad yn 么l dan reolaeth, rydyn ni nawr yn gallu gwneud pethau鈥檔 haws ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu parhau i helpu鈥檙 rheini sydd angen help ar yr un pryd 芒 chefnogi pobl yn 么l i gyflogaeth drwy sicrhau bod gwaith yn talu.
Bydd y mesurau sydd wedi cael eu hamlinellu gan y Canghellor heddiw yn rhoi hwb i fusnesau Cymru ac yn gwobrwyo pobl sy鈥檔 gweithio gan sicrhau bod y rheini sydd ag ysgwyddau digon llydan yn wynebu鈥檙 baich mwyaf.
Nodiadau i olygyddion
-
*Mae hybiau ymchwil yr Economi Ddigidol wedi cael eu dylunio i weithio鈥檔 agos gyda diwydiant er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau sydd eisoes ar gael. Mae canolfan Abertawe yn un o chwech a fydd yn gweithio ar faterion a fydd yn cynnwys gofal iechyd a thechnegau newydd i gipio symudiadau ar gyfer y diwydiant effeithiau gweledol
-
**Ers dechrau鈥檙 CCF mae 拢6.84m wedi cael ei fuddsoddi yng Nghymru