Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi ymgyrchoedd Chwe Gwlad Cymru
Stephen Crabb: "Rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at wylio timau Cymru鈥檔 dod yn eu blaen ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda鈥檜 hymgyrchoedd"

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn annog timau rygbi dynion a merched Cymru i ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS eleni yn hyderus pan fyddant yn wynebu Iwerddon y penwythnos hwn. Mae鈥檙 twrnamaint yn dilyn yn dynn ar sodlau Cwpan Rygbi鈥檙 Byd 2015, ymgyrch lle cyrhaeddodd Cymru rownd yr wyth olaf, gyda Stadiwm Principality Caerdydd yn gartref i wyth g锚m, gan ddangos y ddinas i gynulleidfa fyd-eang.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd ymgyrch y Chwe Gwlad yn werth ei wylio, gyda miliynau o bobl o bob cwr o鈥檙 byd yn ei fwynhau dros y chwe wythnos nesaf.
Allan ar y cae, bydd pob t卯m am y gorau, yn cystadlu鈥檔 frwd. Oddi ar y cae, bydd y twrnamaint yn rhoi hwb pwysig arall i economi Cymru ac i fusnesau lleol.
Wrth i filoedd o bobl baratoi i deithio i Gaerdydd i fwynhau awyrgylch unigryw diwrnod y g锚m, bydd gwylwyr o bob cwr o鈥檙 byd yn gweld statws Cymru鈥檔 cynyddu unwaith eto fel lleoliad i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr.
Rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at wylio timau Cymru鈥檔 dod yn eu blaen ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda鈥檜 hymgyrchoedd.
Bydd t卯m Cymru鈥檔 wynebu鈥檙 Alban a Ffrainc yng Nghaerdydd ar 么l y g锚m yn erbyn Iwerddon, ac yna鈥檔 chwarae yn erbyn Lloegr yn Twickenham cyn y g锚m olaf yn erbyn yr Eidal gartref.