Ysgrifennydd Cymru: Aston Martin yn creu etifeddiaeth barhaol yng Nghymru
Y brand ceir moethus yn dechrau addasu cyfleuster yn Sain Tathan cyn cynhyrchu SUV yn 2019

Aston Martin DBX concept car
Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyhoeddi y bydd buddsoddiad Aston Martin yn Sain Tathan yn creu etifeddiaeth barhaol i鈥檙 ardal, pan fydd yn mynychu seremoni arbennig i ddathlu dechrau鈥檙 gwaith o ailddatblygu safle鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn, sef cyfleuster gweithgynhyrchu diweddaraf y brand ceir. (6 Ebrill).
Mae鈥檙 gwaith ar y cyfleusterau i staff ar y safle eisoes wedi dechrau, a bydd yr ail gam yn dechrau o ddifrif pan fydd y cwmni heddiw (6 Ebrill) yn cael mynediad i dair sied awyrennau enfawr y Weinyddiaeth Amddiffyn, a fydd yn gartref i鈥檙 safle gweithgynhyrchu.
Ym mis Chwefror 2016, cyhoeddodd Aston Martin Lagonda y byddai鈥檙 DBX 鈥� cerbyd cyflym bob pwrpas 鈥� yn cael ei wneud yn Sain Tathan gan greu 750 o swyddi gyda 1,000 o swyddi eraill yn debygol ar draws y gadwyn gyflenwi ac mewn busnesau lleol yng Nghymru. Disgwylir i鈥檙 cerbyd cyntaf gael ei gynhyrchu yn 2020.
Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru wrth law yn y digwyddiad mawreddog ym Mro Morgannwg sy鈥檔 nodi dechrau鈥檙 gwaith o drawsnewid y siediau awyrennau yn un o鈥檙 safleoedd gweithgynhyrchu mwyaf newydd a blaenllaw yng Nghymru.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Diolch i鈥檙 bartneriaeth agos rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a brand clodwiw Aston Martin, mae safle Sain Tathan yn cael ei adfywio fel canolfan gyflogaeth arwyddocaol, gan ddod 芒 sgiliau gwerthfawr ac etifeddiaeth barhaol i鈥檙 rhanbarth cyfan.
Wrth i鈥檙 DU adael yr UE, rydym yn benderfynol bod ein gwlad yn parhau i fod yn lle gwych i fuddsoddi a chynnal busnes. Mae penderfyniad Aston Martin i fuddsoddi yng Nghymru yn dangos ein bod yn creu ac yn cefnogi鈥檙 amodau cywir ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant. Bydd strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr Llywodraeth y DU yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, gan sicrhau bod gennym y seilwaith, y sgiliau a鈥檙 cymorth priodol ar waith ar gyfer ein diwydiannau blaenllaw yn ogystal 芒鈥檙 cymorth sydd ei angen er mwyn i sectorau newydd ffynnu.
Y sector modurol yw鈥檙 sector allforio gweithgynhyrchu mwyaf yn y DU ac mae wedi鈥檌 wasgaru鈥檔 genedlaethol. Sain Tathan fydd yr unig safle cynhyrchu ar gyfer cerbyd newydd bob pwrpas Aston Martin. Gyda mwy a mwy o alw am y mathau hyn o gerbydau mewn marchnadoedd fel China a鈥檙 Unol Daleithiau, disgwylir y bydd dros 90% o鈥檙 ceir a gaiff eu cynhyrchu yn Sain Tathan yn cael eu hallforio o鈥檙 Deyrnas Unedig.