Ysgrifennydd Cymru: Prentisiaethau鈥檔 allweddol i dwf economi鈥檙 DU
David Jones yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau
Wales Office Ministers with our apprentices
Heddiw fe wnaeth David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddatgan ei gefnogaeth i brentisiaid ifanc, wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig i nodi 鈥榃ythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2014鈥�.
Yn yr un modd 芒 nifer o fusnesau ac adrannau eraill yn y llywodraeth, mae Swyddfa Cymru wedi ymrwymo i鈥檙 system prentisiaethau.
Mae Swyddfa Cymru wrthi鈥檔 ehangu ei rhaglen prentisiaethau ei hun ar gyfer chwech o unigolion.
Mae dau brentis eisoes wedi cychwyn, a disgwylir y bydd y pedwar arall yn ymuno yn y flwyddyn ariannol newydd. Mae Adam Dance, o Swydd Hertford, yn gweithio yn y Swyddfa Breifat ac mae Laurence Basusi, o Dde Orllewin Llundain, wedi ymuno 芒鈥檙 T卯m Gwasanaethau Corfforaethol.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae rhoi sylw i ddiweithdra ymysg pobl ifanc yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth y DU a gall cynlluniau prentisiaeth helpu i agor y drws i yrfa hir a llwyddiannus.
Rhaid i ni wneud y gorau o鈥檔 pobl ifanc uchelgeisiol, talentog a gweithgar, a rhoi鈥檙 help llaw sydd ei angen arnyn nhw, i gamu ar yr ysgol yrfa.
Mae Adam a Laurence eisoes wedi profi eu bod wir yn ased i Swyddfa Cymru, ac rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at groesawu ein prentisiaid newydd i Swyddfa Cymru yn y dyfodol agos iawn.
Dywedodd Adam Dance, 16, o Hoddesdon, Swydd Hertford:
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, a hynny ers pan oeddwn i鈥檔 ifanc iawn, ac rydw i wastad wedi breuddwydio am weithio yn y llywodraeth. Mae hyn wedi bod yn gyfle go iawn i mi ddysgu o lawr gwlad i fyny am sut mae llywodraeth yn gweithio.
Dywedodd Laurence Basusi, 22, o Mitcham, de Llundain:
Roeddwn eisiau ymuno 芒 Swyddfa Cymru fel prentis gan fyd mod yn credu y bydd yn rhoi鈥檙 sgiliau a鈥檙 wybodaeth angenrheidiol i mi yngl欧n 芒 gweithio mewn amgylchedd swyddfa brysur. Rwy鈥檔 gobeithio ennill NVQ a mynd ymlaen i gael gyrfa foddhaus un ai yn y gwasanaeth cyhoeddus neu breifat.