Ysgrifennydd Cymru: Alun Lewis yn un o awduron mwyaf talentog ei genhedlaeth
Swyddfa Cymru yn nodi can mlynedd ers geni鈥檙 bardd cyfnod y rhyfel

Alun Davies, John Pikoulis and Prof. April McMahon
Heddiw (9 Rhagfyr), cynhaliwyd derbyniad gan Swyddfa Cymru a Phrifysgol Aberystwyth yn Nh欧 Gwydyr i nodi canmlwyddiant geni鈥檙 bardd o Gymru, Alun Lewis.
Ganwyd Lewis yng Nghwmaman a chaiff ei gydnabod fel un o awduron barddoniaeth a rhyddiaith mwyaf arwyddocaol Cymru yn yr 20fed ganrif.
Enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth yn 17 oed, lle cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Hanes, cyn dychwelyd yno i ddilyn cwrs ymarfer dysgu.
Yn 1940 ymunodd 芒鈥檙 Peirianwyr Brenhinol a chafodd ei brofiadau yn arwain y gwasanaeth milwrol yn India ac ym Myanmar yn ystod yr Ail Ryfel Byd ddylanwad aruthrol ar ei waith.
Cyn iddo farw cyn ei amser yn 1944, cafodd Lewis fwynhau pedair blynedd o lwyddiant llenyddol, gan gyhoeddi casgliad o gerddi o鈥檙 enw 鈥楻aiders鈥� Dawn鈥� a stori fer 鈥楾he Last Inspection鈥�. Flwyddyn ar 么l iddo farw, cyhoeddwyd ail gasgliad o鈥檌 gerddi, 鈥楬a! Ha! Among the Trumpets鈥�, ac yna鈥檙 casgliad o straeon byrion, 鈥業n the Green Tree鈥�, dair blynedd yn ddiweddarach (1948).
Cynhaliwyd y derbyniad i nodi can mlynedd ers geni鈥檙 bardd gan Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April MacMahon ac roedd John Pikoulis, awdur cofiant Lewis, hefyd yn bresennol.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Roedd gwaith Alun Lewis yn procio鈥檙 meddwl ac roedd yn un o awduron mwyaf talentog ei genhedlaeth. Mae ei fywyd a鈥檙 amser a dreuliodd yn y fyddin yn dod yn fyw ac yn cael ei gyfleu mewn modd credadwy yn ei ryddiaith ac mae pobl yn dal i ddarllen ac astudio ei waith ledled y byd.
Mae canmlwyddiant ei eni yn gyfle i ddod 芒鈥檌 waith pwysig i鈥檙 amlwg unwaith eto, ac i genedlaethau sydd i ddod gael mwynhau鈥檙 gwaith hwnnw.
Dywedodd yr Athro April MacMahon, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
Roedden ni鈥檔 falch iawn o gynnal y digwyddiad hwn heddiw, ar y cyd 芒 Swyddfa Cymru a Seren Books. Mae鈥檔 briodol iawn fod y digwyddiad yn cael ei gysylltu 芒 Phrifysgol Aberystwyth a bod ein cydweithwyr yn yr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a鈥檙 Celfyddydau Creadigol yn cyd-noddi鈥檙 noson.
Roedd gan Alun Lewis gysylltiad cryf ag Aberystwyth a鈥檙 Brifysgol. Ganwyd ef yng Nghwmaman, ger Aberd芒r, ar 1 Gorffennaf 1915, ac yn y 1930au bu鈥檔 astudio Hanes yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth bryd hynny,
lle cyhoeddodd ei straeon cyntaf yng nghylchgrawn y coleg, Y Ddraig. Ar 么l graddio yn 1935 gyda gradd dosbarth cyntaf, dilynodd Lewis astudiaethau 么l-radd ym maes hanes yr oesoedd canol ym Mhrifysgol Manceinion, cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1937 i hyfforddi fel athro.