Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn derbyn allweddi canolfan Llywodraeth y DU yng Nghaerdydd
Bydd miloedd o weision sifil Llywodraeth y DU yn symud i鈥檙 adeilad newydd yn ddiweddarach eleni

- Bydd y ganolfan newydd yng Nghaerdydd Canolog yn agor ei drysau i 4,000 o weision sifil Llywodraeth y DU yn hwyr yn 2020
- Rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i鈥檙 Undeb a lefelu adnoddau鈥檙 gwasanaeth sifil ar draws y Deyrnas Unedig
- Mae鈥檙 ganolfan yn un o 16 o ganolfannau Llywodraeth y DU sy鈥檔 cael eu creu ar hyn o bryd
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi derbyn allweddi canolfan Llywodraeth y DU yng Nghanol Caerdydd yn swyddogol.
Trosglwyddodd Rightacres Property Company yr allweddi yn swyddogol i鈥檙 Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS heddiw (Dydd Gwener 10 Ionawr). Bydd contractwyr ISG nawr yn paratoi鈥檙 adeilad yn Sgw芒r Canolog i dros 4,000 o weision sifil mewn nifer o adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU i ddechrau gweithio ar ddiwedd 2020.
Mae鈥檙 adeilad yng Nghaerdydd yn un o 16 o ganolfannau Llywodraeth y DU sy鈥檔 cael ei greu ar hyn o bryd ar draws gwledydd a rhanbarthau鈥檙 DU. Mae鈥檔 ffurfio rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i鈥檙 Undeb drwy adeiladu capasiti y gwasanaeth sifil ar draws y Deyrnas Unedig gyfan a lefelu ei hadnoddau.
Mae鈥檙 datblygiad newydd yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU i fuddsoddi hyd at 拢58 miliwn i uwchraddio gorsaf drenau Caerdydd Canolog a buddsoddiad o 拢5 miliwn i wella teithiau drwy drydaneiddio鈥檙 brif linell rhwng de Cymru a Llundain.
Mae adeilad Caerdydd wedi ei henwi yn T欧 William Morgan 鈥� William Morgan House i gydnabod r么l yr Esgob William Morgan i gynnal cryfder yr iaith Gymraeg drwy gyfieithu鈥檙 Beibl i鈥檙 Gymraeg yn 1588.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae鈥檙 buddsoddiad yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i Gymru ac i gryfhau鈥檙 Undeb. Yn ogystal 芒 hyn, cynyddu gallu鈥檙 gwasanaeth sifil y tu allan i Lundain.
Mae鈥檙 digwyddiad heddiw yn garreg filltir gyffrous yn y gwaith o adeiladu T欧 William Morgan 鈥� William Morgan House a fydd yn darparu awyrgylch weithio modern a hyblyg yng nghanol Caerdydd i filoedd o鈥檔 gweision sifil.
Meddai Gweinidog dros Weithredu yn Swyddfa鈥檙 Cabinet, Jeremy Quin:
Mae symud miloedd o weision sifil i galon dinasoedd ar draws y DU yn help i roi hwb i econom茂au lleol a sicrhau nad yw Llywodraeth y DU wedi ei chanoli yn Llundain yn unig.
Bydd y datblygiad yng Nghaerdydd yn dod a hwb sylweddol i鈥檙 ardal sy鈥檔 cymeradwyo buddsoddiadau gwych y llywodraeth sydd eisoes wedi eu cyhoeddi ar gyfer y ddinas.
Meddai Penny Ciniewicz, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM dros Gydymffurfiaeth Gyffredinol CThEM:
Mae hyn yn garreg filltir sylweddol i CThEM, a fydd yn dod 芒 mwy na 3,600 o gydweithwyr i Sgw芒r Canolog. Mae gan yr adran bresenoldeb mawr a hir sefydlog yng Nghymru ac mae鈥檙 ganolfan ranbarthol yng nghanol Caerdydd yn dangos ein hymrwymiad i Gymru a鈥檌 heconomi.
Bydd yr adeilad modern yma鈥檔 dod 芒 thimau at ei gilydd er mwyn iddynt allu gweithio鈥檔 wahanol ac yn fwy effeithiol.
Mae鈥檙 datblygiad 270,000 troedfedd sgw芒r gwerth 拢100 miliwn wedi ei ddarparu gan Rightacres, Cyngor Caerdydd a鈥檙 cyllidwyr Legal & General (LGIM Real Assets). Bydd yr adeilad 12 llawr, sydd wedi ei ddylunio a鈥檌 hadeiladu gan Sir Robert McAlpine, yn gartref i staff o nifer o adrannau Llywodraeth y DU yng Nghymru yn ogystal 芒鈥檙 gallu i gynnal cyfarfodydd llawn Cabinet y DU. CthEM fydd yr adran fwyaf yn y ganolfan - y ganolfan hon fydd ei chanolfan rhanbarthol a fydd yn denu 3,600 o鈥檙 staff i鈥檙 sgw芒r canolog.
Ychwanegodd Paul McCarthy, Prif Weithredwr Rightacres:
Mae hwn yn ymdrech t卯m wrth i ni weithio gyda鈥檔 partneriaid i drawsnewid calon ein prifddinas gyda phorth newydd i Gymru y gallwn ni i gyd ymfalch茂o ynddo.
Fel un o鈥檙 prosiectau adfywio mwyaf llwyddiannus yn y DU, mae Sgw芒r Canolog yn gatalydd i greu gofod dinesig newydd a chanol dinas sy鈥檔 gyfeillgar i bobl, sy鈥檔 hawdd i鈥檞 gyrraedd, sy鈥檔 hyblyg ac yn ddiogel. O greadigrwydd strategol gwych yr uwch gynllun i osod pob slab palmant unigol, mae cyflawni鈥檙 datblygiad eiconig hwn ar amser ac o fewn cyllideb yn destament i bawb sy鈥檔 ynghlwm 芒鈥檙 prosiect.
Meddai Tom Roberts, Pennaeth Buddsoddi Strategol yn LGIM Real Assets:
Mae darparu canolfan newydd y Llywodraeth ar amser ac i safon mor uchel yn dyst i鈥檙 ymagwedd o gydweithrediad sydd wedi ei fabwysiadu ar y datblygiad llwyddiannus yma. Mae canolfan newydd y Llywodraeth yn enghraifft wych o adeilad modern addas sydd wedi ei hamgylchynu gan amwynderau a seilwaith rhagorol. Rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn dod yn fyw yn hwyrach eleni gyda gweithwyr wrth i Sgw芒r Caerdydd Canolog fynd i mewn i鈥檙 camau terfynol o鈥檙 datblygiad.
Dechreuwyd y gwaith adeiladu ar gam cyntaf prosiect Sgw芒r Canolog yn 2014 gyda Un Sgw芒r Canolog yn cael ei gwblhau ym mis Mawrth 2016 ac yna Dau Sgw芒r Canolog yn haf 2017. Cwblhawyd pencadlys newydd BBC Cymru Wales werth 拢120 miliwn ym mis Ebrill 2018 a dechreuodd y gwaith ar gyfnewidfa fysus newydd ym mis Gorffennaf 2019.