Prosiectau yng Nghymru yn gallu parhau i ddatblygu'r dechnoleg fatris ddiweddaraf ar gyfer cerbydau trydan
Llywodraeth y DU wedi neilltuo 拢1.4 miliwn o gyllid i brosiectau batris yng Nghymru.

Yn y cylch cyllido diweddaraf i gael ei gyhoeddi yn Her Batri Faraday Llywodraeth y DU, neilltuwyd cyfran o 拢1.4 miliwn i Deregallera Ltd a Tri-Wall Europe Limited er mwyn datblygu鈥檙 dechnoleg fatris ddiweddaraf.
Bydd y cyllid hwn yn galluogi鈥檙 cwmn茂au i greu mwy o swyddi sgiliau uwch gyda chyflogau da ledled y wlad, gan roi hwb i鈥檙 economi, a chryfhau enw da Cymru ar gyfer rhagoriaeth arloesi.
Mae鈥檙 gronfa鈥檔 rhan o ymdrech Llywodraeth y DU i gynnal safle Prydain o fod ar y blaen o ran technolegau newydd a marchnadoedd newydd drwy ei Strategaeth Ddiwydiannol fodern.
Gan ddod 芒 busnesau a鈥檙 byd academaidd blaengar ynghyd er mwyn cyflymu鈥檙 ymchwil sydd ei angen i ddatblygu鈥檙 technolegau batris diweddaraf ar gyfer ceir trydan, mae Her Batri Faraday yn rhan hanfodol o uchelgais y DU i gael economi allyriadau sero net.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Mae鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol yn rhan hanfodol o gynllun Llywodraeth y DU i gefnogi twf gwyrdd cynaliadwy, gan greu cyfleoedd a swyddi ym mhob rhan o鈥檙 DU.
Mae鈥檙 cylch cyllido diweddaraf sydd wedi ei neilltuo i Gymru yn Her Batri Faraday yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatblygu ymchwil ac arloesedd yng Nghymru. Mae buddsoddi mewn dyfodol gwyrdd yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld y cwmn茂au yn manteisio ar yr 拢1.4 miliwn i roi Cymru ar y blaen o ran arloesi gwyrdd.
Mae鈥檙 拢23 miliwn sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Greg Clark, yr Ysgrifennydd Busnes, yn rhan o鈥檙 拢274 miliwn a fydd yn cael ei ddyfarnu i gonsortia ledled y DU drwy Her Batri Faraday.
Dywedodd Yr Athro Syr Mark Walport, Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU:
Mae Her Batri Faraday yn dod ag arbenigedd o safon byd-eang ynghyd o feysydd ymchwil a diwydiant yn y DU, er mwyn cyflwyno technolegau batris a fydd yn pweru cerbydau yn y dyfodol.
Mae鈥檙 prosiectau a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn pwysleisio sut y bydd yr arbenigedd hwn yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 heriau mwyaf sy鈥檔 wynebu datblygiad y genhedlaeth nesaf o fatris ceir trydan, gan gynnwys eu ffynonellau p诺er, eu perfformiad, eu diogelwch a鈥檙 gweithgynhyrchu.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Mae Deregallera, sydd wedi ei leoli yng Nghaerffili, yn datblygu system hybrid o storio ynni er mwyn ymestyn 50% ar oes batri cerbyd trydan.
- Mae Tri-Wall Europe wedi ei leoli yn Nhrefynwy.
- Mae鈥檙 prosiectau eraill y mae cyllid wedi ei neilltuo iddynt wedi eu rhestru yma.
- Mae鈥檙 Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol yn cael ei darparu gan Ymchwil ac Arloesedd y DU. Mae yn gorff sy鈥檔 cydweithio 芒 phrifysgolion, sefydliadau ymchwil, busnesau, elusennau a鈥檙 llywodraeth er mwyn creu鈥檙 amgylchedd gorau posibl ar gyfer datblygu ymchwil ac arloesedd.
- Mae yn fuddsoddiad gwerth 拢274 miliwn gan y llywodraeth yn nhechnoleg batris, ac mae鈥檔 cael ei ddarparu drwy鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol. Bydd yn datblygu batris yn y DU a fydd yn ddiogel, yn gost effeithiol, yn gryf, yn ysgafnach, byddant hefyd yn perfformio鈥檔 well, a bydd modd eu hailgylchu. Bydd y batris hyn yn pweru鈥檙 genhedlaeth nesaf o gerbydau trydan.
- Fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, cyhoeddwyd Her Fawr Dyfodol Symudedd yn 2017 er mwyn annog a chefnogi arloesedd arbennig ym mheirianneg a thechnoleg yn y DU, gan roi鈥檙 DU ar y blaen o ran y diwydiant trafnidiaeth.
- Mae hyn yn cynnwys newidiadau mawr mewn technolegau trafnidiaeth a modelau busnes, er mwyn gwneud symudedd pobl, nwyddau a gwasanaethau ledled y wlad yn fwy gwyrdd, yn fwy diogel, yn fwy rhwydd ac yn fwy dibynadwy.