Heddluoedd Cymru i recriwtio swyddogion newydd ymysg y 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol
Llywodraeth y DU yn cadarnhau targed recriwtio ar draws y pedwar llu heddlu yng Nghymru

-
Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cartref ei gweledigaeth ar gyfer plismona yn ail gyfarfod y Bwrdd Plismona Cenedlaethol
-
Bydd pob heddlu yng Nghymru a Lloegr yn gallu recriwtio swyddogion heddlu ym mlwyddyn gyntaf y cynnydd na welwyd ei debyg
-
6,000 o heddlu newydd yn rhan o鈥檙 targedau recriwtio uchelgeisiol i gadw ein strydoedd yn ddiogel, yn cynnwys 302 o swyddogion heddlu drwy鈥檙 pedwar llu yng Nghymru.
-
鈥淢ae鈥檙 cyhoedd yn dweud yn glir eu bod eisiau gweld mwy o swyddogion heddlu ar eu strydoedd, p鈥檜n ai ydyn nhw鈥檔 byw yn y ddinas neu yn y wlad鈥� - Ysgrifennydd Cartref
Heddiw cadarnhaodd y Swyddfa Gartref y targedau recriwtio heddlu ar gyfer blwyddyn gyntaf yr ymgyrch i gynyddu eu niferoedd o 20,000 yn ystod y tair blynedd nesaf.
Mae cynyddu nifer yr heddlu鈥檔 flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, sy鈥檔 darparu 拢750 miliwn i helpu鈥檙 heddlu i recriwtio hyd at 6,000 o swyddogion heddlu ychwanegol erbyn diwedd 2020-21, sef y cam cyntaf yn yr ymgyrch newydd hon i gynyddu niferoedd heddlu. Mae hyn yn deillio o鈥檙 cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn yr Adolygiad Gwariant.
Bydd heddluoedd yng Nghymru鈥檔 gallu recriwtio cyfanswm o 302 o swyddogion heddlu newydd. Dyma鈥檙 niferoedd a fydd yn cael eu recriwtio yn y flwyddyn gyntaf:
-
Bydd Heddlu De Cymru鈥檔 gallu recriwtio 136 o swyddogion heddlu newydd sy鈥檔 gynnydd o 4.6%
-
Bydd Heddlu Gogledd Cymru鈥檔 gallu recriwtio 62 o swyddogion heddlu newydd sy鈥檔 gynnydd o 4.3%
-
Bydd Heddlu Gwent yn gallu recriwtio 62 o swyddogion heddlu newydd sy鈥檔 gynnydd o 4.7%
-
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gallu recriwtio 42 o swyddogion heddlu newydd sy鈥檔 gynnydd o 3.7%
Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei gweledigaeth ar gyfer plismona ddoe wrth gadeirio ail gyfarfod y Bwrdd Plismona Cenedlaethol, sy鈥檔 cynnwys cynrychiolwyr o blith swyddogion heddlu rheng flaen ac arweinwyr yr heddlu.
Meddai Priti Patel, yr Ysgrifennydd Gwladol:
Mae鈥檙 cyhoedd yn dweud yn glir eu bod eisiau gweld mwy o swyddogion heddlu ar eu strydoedd, p鈥檜n ai ydyn nhw鈥檔 byw yn y ddinas neu yn y wlad.
Dyma flaenoriaeth y bobl a dyma鈥檔 union beth mae鈥檙 Llywodraeth yn ei ddarparu.
Mae鈥檔 golygu y bydd mwy na 300 o swyddogion heddlu ychwanegol drwy Gymru, gan helpu i leihau troseddau a chadw cymunedau鈥檔 ddiogel.
Meddai Kevin Foster, Gweinidog Cymru yn Llywodraeth y DU:
Bydd y pedwar llu yng Nghymru鈥檔 elwa ar yr adnoddau ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw, gan eu galluogi i fynd i鈥檙 afael 芒 throseddu鈥檔 fwy effeithiol a helpu i gadw pobl a chymunedau鈥檔 ddiogel.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir bod rhoi mwy o swyddogion heddlu ar ein strydoedd fel rhan o鈥檔 hymgyrch recriwtio mwyaf mewn degawdau yn flaenoriaeth i ni.
Bydd yr holl swyddogion heddlu a gaiff eu recriwtio fel rhan o鈥檙 20,000 yn ychwanegol at y rhai a gyflogwyd i lenwi swyddi gwag presennol. Maent hefyd yn ychwanegol at y swyddogion heddlu ychwanegol sydd eisoes yn cael eu recriwtio oherwydd y cynnydd o 拢1 biliwn mewn cyllid i鈥檙 heddlu ar gyfer 2019-20, sy鈥檔 cynnwys arian o dreth y cyngor ac ar gyfer trais difrifol.
Bydd cyllid y Llywodraeth ar gyfer recriwtio yn 2020-21 yn cynnwys yr holl gostau cysylltiedig, gan gynnwys hyfforddiant ac offer.
Ddoe clywodd y Bwrdd Plismona Cenedlaethol, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yng Ngorffennaf i sbarduno鈥檙 ymgyrch recriwtio a materion plismona o bwys eraill, fod yr holl luoedd eisoes yn recriwtio a bod y wefan ar gyfer yr ymgyrch, 鈥楤e a Force For All鈥�, wedi鈥檌 gweld fwy na 215,000 o weithiau.
Roedd Ffederasiwn yr Heddlu a Chymdeithas Arolygon yr Heddlu yn bresennol yn y bwrdd am y tro cyntaf, gan sicrhau ymrwymiad yr Ysgrifennydd Gwladol i swyddogion heddlu rheng flaen a鈥檜 huwch reolwyr gael eu cynrychioli.
Meddai John Apter, Cadeirydd Cenedlaethol Ffederasiwn yr Heddlu:
Roedd y cyfarfod ddoe yn adeiladol, ac mae鈥檔 bwysig ein bod ni, fel y gymdeithas staff heddlu fwyaf, yn bresennol i sicrhau bod ein haelodau鈥檔 cael eu cynrychioli.
Mae鈥檔 hen bryd inni fuddsoddi mewn plismona ac am y tro cyntaf gwyddom y niferoedd gwirioneddol o swyddogion heddlu ychwanegol fydd gan bob llu yn y flwyddyn nesaf.
Mae鈥檙 ffigurau hyn yn seiliedig ar y modelau fformwla ariannu bresennol ac er nad yw鈥檙 dull yma鈥檔 berffaith, rwy鈥檔 derbyn mai hwn yw鈥檙 unig ateb sydd ar gael i sicrhau鈥檙 niferoedd yn gyflym yn y flwyddyn gyntaf.
Bellach mae angen i ni sicrhau bod y fformwla鈥檔 cael ei hailystyried yn y blynyddoedd nesaf i sicrhau dyraniad tecach o swyddogion heddlu ar draws bob llu, ond mae鈥檔 sicr yn ddechrau cadarnhaol a bydd yn rhoi hwb angenrheidiol i fy aelodau a鈥檙 cymunedau y maen nhw鈥檔 eu gwasanaethu.
Cyhoeddwyd targedau recriwtio heddiw鈥檔 dilyn sefydlu Cronfa Strydoedd Mwy Diogel gwerth 拢25 miliwn.
Gall Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd wneud cais am arian i atal byrgleriaeth a lladrata mewn mannau lle mae鈥檙 lefel uchaf o droseddu trwy gynlluniau a allai gynnwys ymyriadau i wella diogelwch cartrefi, fel gosod gwell cloeon a rhoi gatiau ar strydoedd cefn, a sicrhau bod strydoedd wedi鈥檜 goleuo鈥檔 well yn y nos, er enghraifft
Mae hefyd yn estyniad o鈥檙 cynllun treialu gan y Swyddfa Gartref i鈥檞 gwneud yn symlach i luoedd ddefnyddio pwerau stopio a chwilio trais difrifol Adran 60 a chyhoeddi pecyn gweithredu gwerth 拢20 miliwn i fynd i鈥檙 afael 芒 gangiau cyffuriau sy鈥檔 gweithredu o amgylch y sir.
Hefyd cyhoeddodd y Swyddfa Gartref 拢10 miliwn o gyllid i gynyddu nifer y swyddogion heddlu sy鈥檔 cario gynnau Taser i鈥檞 cadw eu hunain a鈥檙 cyhoedd yn ddiogel a dywedodd y bydd cynlluniau ar gyfer cyfamod yr heddlu鈥檔 canolbwyntio ar ddiogelwch corfforol yr heddlu, eu hiechyd a鈥檜 llesiant a chefnogaeth ar gyfer eu teuluoedd.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- I gael rhagor o wybodaeth am y dadansoddiad ar draws holl lluoedd heddlu y DU, ewch i wefan y Swyddfa Gartref.