Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Cymru yn dathlu 50 mlynedd o Ferched y Wawr

Aelodau o鈥檙 mudiad merched Cymraeg i fynychu derbyniad yn Nh欧 Gwydyr

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
The Welsh flag

Bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwahodd aelodau o Ferched y Wawr i ddigwyddiad yn Llundain heddiw (22 Tachwedd) i ddathlu 50 mlynedd o鈥檙 mudiad i ferched.

Bydd aelodau yn ymuno ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns a Guto Bebb mewn derbyniad diodydd yn Nh欧 Gwydyr, ble bydd cyflawniadau鈥檙 mudiad cymdeithasol iaith Gymraeg yn cael ei ddathlu.

Mae gan Ferched y Wawr dros 270 o ganghennau a chlybiau ledled Cymru, yn rhoi cyfle i fenywod o bob oedran i ddod at ei gilydd a chymdeithasu yn y Gymraeg, gyda chroeso i ddysgwyr hefyd.

Ffurfiwyd y mudiad ym 1967 gan ferched o ardal y Parc, Bala, fel mudiad Cymraeg eu hiaith i ferched, ac fe dyfodd yn un cenedlaethol yn gyfym iawn.

Eleni, aeth Merched y Wawr ar daith genedlaethol i ddathlu pum degawd o achlysuron cymdeithasol 鈥� yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd a鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Frenhinol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Y Pierhead a lleoliadau eraill ar draws y wlad.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Merched y Wawr yn golofn diwylliant a chymdeithas Cymru ac yn croesawu menywod o bob ardal o鈥檙 wlad i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth nodi 50fed pen-blwydd y mudiad, yr wyf yn falch iawn o gael y cyfle i wahodd aelodau i D欧 Gwydyr heddiw, ac i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad yr aelodau sy鈥檔 gwirfoddoli yn ddiflino i sicrhau llwyddiant y mudiad.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau bod yr iaith Gymraeg a鈥檔 diwylliant yn parhau i ffynnu, ac mae cyfraniad Merched y Wawr i鈥檙 ymdrech honno yn amhrisiadwy. Estynnaf fy llongyfarchiadau gwresog iddynt wrth gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Pob lwc ar gyfer y 50 mlynedd nesaf.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru:

Mae canghenau Merched y Wawr yn chwarae r么l hollbwysig o ran creu cymdeithasau bywiog mewn cymunedau ar draws Cymru, gan 鈥榬ymuso marched a meithrin talent.

Mae heddiw yn gyfle i ddiolch i aelodau鈥檙 sefydliad am eu gwaith caled dros y 50 mlynedd diwethaf, yn enwedig am eu cyfraniad i鈥檙 iaith Gymraeg a hawliau menywod. Gobeithiaf y byddwn yn gweld mwy o鈥檙 gwaith gwych yma yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr:

Mae yn fraint aruthrol i gael bod yma yn cynrychioli Merched y Wawr, mae cymaint wedi cael eu gyflawni dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Rydym yn dal i gynnal dros 3,000 o ddigwyddiadau a gweithgareddau yng Nghymru yn flynydddol. Eleni rydym wedi cynnal prosiect treftadaeth sydd wedi llwyddo i gasglu gymaint o atgofion ac wedi creu brwdfrydedd o鈥檙 newydd.

Diolchwn am y cyfle i gael dod i D欧 Gwydyr i ddathlu ein penblwydd arbennig - profiad yr ydym yn gwerthfawrogi yn fawr.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Tachwedd 2017