Cwmni o Gymru yn ennill contract gwerth 拢82M ar y llwyfan byd-eang
Qoptiq yn ennil contract o'r MOD
Minister for Defence Procurement Harriett Baldwin has announced a 拢82 million contract for Welsh company Qioptiq. Crown Copyright
Mae鈥檙 Gweinidog Harriett Baldwin, sy鈥檔 arwain dirprwyaeth y DU yn sioe fasnach IDEX yn Abu Dhabi, wedi cyhoeddi bod contract arloesol gwerth 拢82 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i gwmni Qioptiq o Gymru, sy鈥檔 darparu cymorth hanfodol i Luoedd Arfog y DU yng nghyswllt cyfarpar targedu a gwyliadwraeth.
Mae Harriett Baldwin, y Gweinidog Caffael ym maes Amddiffyn, wedi cyhoeddi bod contract arloesol gwerth 拢82 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i gwmni Qioptiq o Gymru.
Bydd y cytundeb 芒 Qioptiq o Lanelwy, Gogledd Cymru, yn golygu y bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar gyfarpar ennill brwydrau sy鈥檔 cael ei drin 芒 llaw 鈥� gan gynnwys gogls gweld yn y tywyllwch ac anelau arfau ar gyfer amodau golau a thywyll 鈥� dros y chwe blynedd nesaf, er mwyn sicrhau ei bod ar gael i鈥檔 person茅l ledled y byd.
Wrth i鈥檙 DU baratoi i ddathlu Dydd G诺yl Dewi, mae鈥檙 newyddion da hwn i Gymru yn dilyn cyhoeddiad y bydd Gogledd Cymru yn ganolfan atgyweirio fyd-eang ar gyfer darparu gwasanaethau cynnal a chadw ar gydrannau F-35, fel rhan o ymgyrch gwerth miliynau i鈥檙 ardal.
Dywedodd Harriett Baldwin, y Gweinidog Caffael ym maes Amddiffyn, wrth siarad yn sioe fasnach IDEX:
Mae鈥檔 bleser cyhoeddi鈥檙 contract 拢82 miliwn yma yn IDEX. Bydd y cytundeb hwn yn darparu鈥檙 cyfarpar sydd ei angen ar ein milwyr i fod yn ddiogel, gan sicrhau 拢47 miliwn o arbedion ar yr un pryd.
Mae鈥檙 contract hwn yn bosibl oherwydd ein cynllun cyfarpar gwerth 拢178 miliwn, sy鈥檔 cael ei gefnogi gan gyllideb Amddiffyn a fydd yn cynyddu bob blwyddyn tan ddiwedd y degawd.
Bydd gweithio o dan y contract Cefnogi Rhagchwilio a Thargedau Gwyliadwriaeth (STAS) yn creu wyth o swyddi newydd yn y cwmni, sy鈥檔 cyflogi oddeutu 560 o bobl ar ei safleoedd yn Llanelwy a Bodelwyddan. Drwy gyfuno 20 o gontractau cefnogi unigol i ffurfio un cytundeb, bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn arbed tua 拢47 miliwn i drethdalwyr yn ystod y chwe blynedd nesaf.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 contract enfawr hwn i Qioptiq yn pwysleisio enw da Cymru fel arweinydd byd yn y sector technoleg amddiffyn, ac mae鈥檔 dynn wrth sodlau DECA Sealand fel dewis ar gyfer lleoliad canolfan atgyweirio fyd-eang yr awyren F-35.
Mae鈥檙 bleidlais o hyder hon yn economi Cymru yn dangos ein bod yn cynnig y cyfleusterau a鈥檙 gweithlu medrus iawn sydd eu hangen ar fuddsoddwyr. Mae hefyd yn newyddion gwych o ran cyflogaeth yn yr ardal, yn amlwg.
Mae鈥檙 contract yn cynnwys cyfarpar a ddefnyddir ledled y Lluoedd Arfog 鈥� o filwyr y rheng flaen a鈥檙 M么r-filwyr Brenhinol, i arbenigwyr milwrol fel arbenigwyr difa bomiau 鈥� gan gynnwys perisgopau i filwyr, anelwyr laser a chyfarpar lleoli targedau.
Dywedodd Tony Douglas, Prif Swyddog Gweithredol sefydliad Cefnogaeth a Chyfarpar Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn:
Mae鈥檙 cytundeb newydd hwn gyda Qioptiq yn golygu traean o ostyngiad yn y costau, sy鈥檔 dangos sut rydyn ni bob amser yn ymdrechu i blethu arloesedd a gwerth i mewn i waith cefnogi a chaffael ym maes Amddiffyn. Yn hanfodol, bydd y contract STAS yn darparu gwell cefnogaeth i Luoedd Arfog Ei Mawrhydi.
Cynhadledd bwrpasol ar gyfer systemau di-griw ac arddangosfa amddiffyn ryngwladol a gynhelir ddwywaith y flwyddyn yn Abu Dhabi, prifddinas yr Emiradau Arabaidd Unedig, yw IDEX. Mae鈥檙 Deyrnas Unedig wedi cefnogi IDEX o鈥檙 dechrau, ac eleni bydd HMS Penzance, Llong Mesur a Chyfrif Ffrwydron y Llynges Frenhinol, yno.
Bydd Mrs Baldwin a th卯m y DU yn gweithio i ddatblygu cysylltiadau agosach gydag ystod o Lywodraethau a phartneriaid diwydiannol yn y Gwlff. Mae cwmn茂au Prydeinig yn hybu amrywiaeth o dechnolegau arloesol o safon fyd-eang, ac mae llawer ohonynt yn addas ar gyfer lluoedd arfog yn yr ardal.
Maent yn awyddus i rannu technoleg, i gynnig atebion sy鈥檔 rhoi gwerth da am arian ac sydd wedi鈥檜 cefnogi gan hyfforddiant a chymorth yng nghyswllt logisteg, i ddatblygu partneriaethau menter ar y cyd ym maes diogelwch ffiniau ar y tir ac ar y m么r; canfod ffrwydron arforol a gwrthfesurau; ac amddiffyniad cemegol, biolegol, pelydrol a niwclear.