Cwmn茂au Cymru yn ennill contractau uwchgynhadledd NATO
Mae tri chwmni yng Nghymru ymysg y cyntaf a gyhoeddwyd fel cynigwyr llwyddiannus am gontractau ar gyfer uwchgynhadledd NATO fis Medi yma.

NATO Summit logo
Byddan nhw鈥檔 gweithio gyda Llywodraeth y DU dros yr wythnosau nesaf i ddarparu鈥檙 seilwaith y tu cefn i鈥檙 cynulliad mwyaf o arweinwyr y byd sydd erioed wedi cael ei gynnal yn y DU.
Byddan nhw i gyd yn gweithio gyda鈥檙 cwmni cynhyrchu M-is sydd wedi ennill y contract i gynhyrchu鈥檙 digwyddiad yn gyffredinol. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad o gynhyrchu digwyddiadau mawr i lywodraethau, corfforaethau byd-eang a chwaraeon yn y DU ac ym mhedwar ban byd, mae M wedi rhoi cynnig llwyddiannus ar gyfer contract NATO. Yn gweithio ochr yn ochr 芒 nhw fydd:
Aggreko
Gyda chanolfan weithredol ym Mhort Talbot, bydd y darparwr p诺er dros dro Aggreko yn darparu鈥檙 p诺er ychwanegol sydd ei angen i gyflenwi lleoliadau ar draws y safle gan gynnwys ar gyfer y 1,200 aelod o鈥檙 cyfryngau rhyngwladol a ddisgwylir i fod yn bresennol.
Floorex
Mae gan Floorex o Gwmbr芒n bron i 30 mlynedd o brofiad o ddarparu carpedi a gorchuddion llawr ar gyfer digwyddiadau mawr o Gwpan Ryder i Royal Ascot. Byddan nhw鈥檔 darparu ac yn gosod dros 7,000 metr sgw芒r o loriau yn lleoliadau鈥檙 uwchgynhadledd.
Barnaby Road Markings
Mae Barnaby Road Markings yn fusnes teuluol sy鈥檔 cael ei arwain gan y prif beiriannydd Carl Barnaby a bydd y cwmni鈥檔 helpu i weddnewid Gwesty鈥檙 Celtic Manor yn lleoliad ar gyfer yr uwchgynhadledd drwy weithio ar y cynllun mewnol gyda M.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns:
Nid yn unig y bydd Uwchgynhadledd NATO yn arddangos Cymru i weddill y byd, ond mae鈥檔 dod 芒 chyfleoedd busnes ffantastig i gyflenwyr yng Nghymru.
Dwi鈥檔 falch o weld bod cwmn茂au Cymru yn bod yn gystadleuol ac yn ennill contractau a fydd yn darparu gwasanaethau hanfodol i sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddo.
O garpedi a generaduron a marciau ffyrdd i estyll, bydd yr holl gydrannau bach hyn yn cyfrannu at y cynulliad mwyaf o arweinwyr y byd a fu erioed yn y DU.
Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales