Stori newyddion

Cig eidion o Gymru i'w allforio i'r Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd

Cig eidion o鈥檙 DU i鈥檞 weini ar blatiau yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers 20 mlynedd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Beef

Beef

  • Cwmni Kepak Group Limited o Ferthyr Tudful ymhlith un o鈥檙 busnesau cyntaf i鈥檞 restru鈥檔 swyddogol gan Wasanaeth Arolygu Diogelwch Bwyd Adran Amaethyddiaeth yr UDA i fod yn gymwys i allforio cig eidion i America
  • Diwydiant cig eidion y DU yn amcangyfrif hwb o 拢66 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf

Mae鈥檙 cig eidion cyntaf o鈥檙 DU wedi cael ei allforio i鈥檙 Unol Daleithiau heddiw (30ain Medi), sy鈥檔 foment hanesyddol i ffermwyr a phroseswyr bwyd y DU.

Yn dilyn gwaharddiad hirhoedlog yr Unol Daleithiau ar gig eidion yr UE 鈥� a gyflwynwyd yn sgil yr achosion o BSE yn 1996 鈥� rhoddwyd caniat芒d i gig eidion o鈥檙 DU gael ei allforio i America ym mis Mawrth 2020. Mae gan gynhyrchwyr cig eidion yng Nghymru fynediad bellach i farchnad yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd.

Mae鈥檙 newyddion heddiw yn golygu y gall y sector ddechrau gwneud y mwyaf o鈥檙 buddion economaidd o fasnachu 芒鈥檙 Unol Daleithiau 鈥� gyda鈥檙 diwydiant yn amcangyfrif y bydd yr allforion cig eidion gwerth 拢66 miliwn yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae pedwar busnes bwyd cyntaf y DU, sydd wedi鈥檜 lleoli yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, bellach wedi鈥檜 rhestru鈥檔 swyddogol gan Wasanaeth Arolygu Diogelwch Bwyd Adran Amaethyddiaeth yr UDA i fod yn gymwys i allforio cig eidion y DU i America. Mae鈥檙 busnesau yn cynnwys y cwmni o Ferthyr Tudful, Kepak Group Limited, sydd bellach yn gallu dechrau cynhyrchu ac allforio cig eidion y DU i ddefnyddwyr yr Unol Daleithiau. Yn ystod y misoedd nesaf, disgwylir y bydd mwy o fusnesau bwyd ledled Cymru a gweddill y DU yn gallu manteisio ar y cyfle newydd cyffrous hwn i allforio.

Mae鈥檙 allforion cyntaf o gig eidion o Foyle Food Group, Foyle Campsie yng Ngogledd Iwerddon wedi鈥檜 hanfon i鈥檙 UDA heddiw, a disgwylir i allforion pellach o bob rhan o鈥檙 DU gychwyn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd George Eustice:

Mae ein cig eidion yn enwog am fod gyda鈥檙 gorau鈥檔 y byd o ran ei ansawdd uchel, diogelwch bwyd a safonau lles, ac mae鈥檙 garreg filltir nodedig hon yn golygu y gall mwy o bobl ledled y byd fwynhau ein cynnyrch.

Mae hyn yn newyddion gwych i鈥檔 diwydiant bwyd a ffermio, sydd wedi amcangyfrif y bydd yn hwb o 拢66 miliwn i gynhyrchwyr cig eidion yn ystod y pum mlynedd nesaf, gan helpu鈥檙 sector i fynd o nerth i nerth鈥�.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Masnach Liz Truss:

Mae鈥檔 foment hanesyddol i ffermio ym Mhrydain, ac amcangyfrifir y gall y cyfle hwn fod gwerth 拢66 miliwn i鈥檙 rheini sydd eisiau allforio cig eidion i鈥檙 Unol Daleithiau.

A megis dechrau yw hyn. Bydd y cytundeb masnach rydd rydym yn ei drafod gyda鈥檙 Unol Daleithiau yn creu llu o gyfleoedd allforio i amaethyddiaeth ym Mhrydain. Rydym yn ceisio cael cytundeb uchelgeisiol o safon uchel sydd o fudd i ffermwyr ac yn gweithio i gwsmeriaid.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae agor y farchnad yn yr Unol Daleithiau yn newyddion gwych i gynhyrchwyr cig eidion ar draws Cymru ac yn amlygu鈥檙 hyder yn ein sector bwyd a diod byd-enwog.

Mae datgloi鈥檙 farchnad hon yn gam mawr ymlaen i鈥檙 sector ac yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i hybu allforion o鈥檙 cynnyrch Cymreig gorau.

Fel un o鈥檙 arweinwyr byd o ran safonau lles anifeiliaid, mae cig eidion y DU yn cael ei gydnabod yn fyd-eang am ei darddiad, ansawdd a chig y gellir ei olrhain. Drwy鈥檙 ymgyrch Food is GREAT, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu codi proffil ac enw da bwyd a diod o鈥檙 DU yn rhyngwladol, a helpu mwy o gwmn茂au bwyd a diod i allforio eu cynnyrch dramor.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Marchnadoedd Rhyngwladol AHDB Dr Phil Hadley:

Rydym yn falch dros ben o weld yr allforion cyntaf o gig eidion yn mynd am yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd, sy鈥檔 foment hanesyddol i ffermwyr a chynhyrchwyr y DU. Yn naturiol, rydym yn falch o鈥檔 diwydiant, sydd ag enw da am gynhyrchu cig eidion o ansawdd uchel i rai o鈥檙 safonau lles gorau鈥檔 y byd.

Mae鈥檙 UDA yn ddarpar farchnad bwysig i鈥檔 hallforion cig coch, ac mae鈥檙 allforion cyntaf heddiw yn ffrwyth gwaith caled a dyfalbarhad y diwydiant a鈥檙 llywodraeth wrth sicrhau鈥檙 cam nesaf hollbwysig hwn. Bydd y garreg filltir bwysig hon yn rhoi hwb gwych i鈥檙 sector ac edrychwn ymlaen at weld mwy o鈥檔 cig coch yn cael ei weini ar fyrddau bwyd ledled yr Unol Daleithiau yn y misoedd a鈥檙 blynyddoedd i ddod鈥�.

Dywedodd Karen Pierce, Llysgennad Prydain i鈥檙 UDA:

Am y tro cyntaf ers dros ddau ddegawd, bydd gan Americanwyr gyfle i flasu cig eidion blasus y DU sydd gyda鈥檙 gorau鈥檔 y byd.

Mae defnyddwyr Americanaidd eisoes wedi cael blas o amrywiaeth o gynnyrch Prydeinig o safon, gan gynnwys cawsiau da, chwisgi, eog a bisgedi, ac mae鈥檔 sicr y daw cig eidion yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau.

Wrth i ni barhau gyda鈥檔 trafodaethau cyfredol tuag at gytundeb masnach rydd rhwng y DU ac UDA, rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld sut gallwn gynyddu cyfleoedd i Americanwyr brofi鈥檙 cynnyrch gorau o Brydain.

Cyhoeddwyd Adroddiad Gwasanaeth Archwilio a Diogelwch Bwyd yr Unol Daleithiau (FSIS), cam hollbwysig wnaeth arwain at allforwyr o Brydain yn gallu gwerthu i鈥檙 Unol Daleithiau, ym mis Mawrth 2020, a chadarnhaodd fod systemau a rheolaethau hylendid cig y DU o safon addas, gyfwerth i fewnforio cynnyrch i鈥檙 UDA. Nododd yr adroddiad hefyd fod y DU gyfan yn bodloni gofynion cynhyrchu鈥檙 Unol Daleithiau, felly gall cig eidion o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael ei allforio.

Cyn y cyhoeddiad hwn, archwiliodd FSIS nifer o safleoedd ar draws y DU rhwng Gorffennaf ac Awst 2019. Roedd yr ymweliadau hyn yn rhagflaenu blynyddoedd o drafodaethau niferus am fynediad i鈥檙 farchnad ac elfennau technegol rhwng UDA a鈥檙 DU.

Cafodd yr archwiliadau hyn eu harwain gan gr诺p Defra a Phartneriaeth Ardystio Allforio鈥檙 DU a鈥檜 cynnal gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), mewn partneriaeth 芒 Quality Meat Scotland a Hybu Cig Cymru a chyrff eraill o fewn y diwydiant, yn ogystal ag Adrannau ac Asiantaethau Llywodraeth y DU a鈥檙 Llywodraethau datganoledig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Hydref 2020