Datganiad i'r wasg

Ymweliad Gweinidogion Llywodraeth Cymru a'r DU 芒 GE Aerospace i dynnu sylw at y gefnogaeth i'r sector awyrofod yng Nghymru

Wnaeth Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffith AS ac Ysgrifennydd Cabinet dros Economi Llywodraeth Cymru Rebecca Evans AS cwrdd 芒 pheirianwyr, prentisiaid ac uwch-reolwyr i drafod uchelgeisiau Llywodraethau Cymru a'r DU i lywio arloesedd a chynaliadwyedd yn y sector awyrofod.

Wales Office Minister Nia Griffith MP with GE Aerospace apprentices.

Heddiw, ymwelodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffith AS, 芒 safle cynnal a chadw, atgyweirio ac ailwampio (MRO) o safon fyd-eang GE Aerospace yn Nantgarw, er mwyn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi swyddi sgiliau uchel, arloesedd blaengar, a thwf economaidd yng Nghymru fel rhan o鈥檌 Strategaeth Ddiwydiannol sydd i ddod.

Gyda Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet dros Economi Llywodraeth Cymru, cyfarfu Gweinidogion 芒 pheirianwyr, prentisiaid ac uwch-reolwyr i drafod sut mae buddsoddiad GE Aerospace yn ei alluoedd MRO yn cyd-fynd ag uchelgeisiau ehangach Llywodraethau Cymru a鈥檙 DU i lywio arloesedd a chynaliadwyedd yn y sector awyrofod.

Gyda mwy na 1,300 o weithwyr, mae safle Nantgarw GE Aerospace yn un o鈥檙 safleoedd MRO injans mwyaf a mwyaf datblygedig yn y byd, gan wasanaethu injans ar gyfer cwmn茂au hedfan byd-eang, gan gynnwys y GE90 a鈥檙 CFM56, ac yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi hedfan cynaliadwy. Gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru, bydd Nantgarw hefyd yn gartref i injan GE9X pan fydd yn cyrraedd y cam cyflwyno.

Fel rhan o鈥檌 ymrwymiad hirdymor i Gymru, cyhoeddodd GE Aerospace fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ei safle MRO yn Nantgarw yn ddiweddar, gan gryfhau ei alluoedd ymhellach a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang mewn cynnal a chadw ac atgyweirio injans. Mae鈥檙 buddsoddiad yn rhan o wariant MRO byd-eang, aml-flwyddyn GE Aerospace a gyhoeddwyd yr hydref diwethaf.

Mae鈥檙 ymweliad yn dilyn cyhoeddiad cyllid diweddar y Canghellor Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI), sy鈥檔 darparu cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth y DU ar gyfer ymchwil i dechnolegau hedfan y genhedlaeth nesaf, gan atgyfnerthu arweinyddiaeth y DU yn y diwydiant.

Dywedodd y Fonesig Nia Griffith AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru:

Mae sector awyrofod y DU yn gonglfaen i鈥檔 heconomi, ac mae Cymru鈥檔 chwarae rhan hanfodol yn ei llwyddiant.

Mae ein Strategaeth Ddiwydiannol yn rhan hanfodol o gyflawni ein prif genhadaeth o dyfu鈥檙 economi, ac rydym wedi ymrwymo i weld bod cwmn茂au fel GE Aerospace yn cael y gefnogaeth a鈥檙 buddsoddiad sydd eu hangen arnynt i aros ar flaen y gad o ran arloesi mewn sector hynod gystadleuol, er mwyn ein helpu i gyflawni鈥檙 twf economaidd hwnnw.

Mae鈥檙 cyhoeddiad cyllido ATI diweddar yn dangos ymhellach ein hymrwymiad i ddatblygu technolegau hedfan gwyrddach, mwy effeithlon tra鈥檔 sicrhau swyddi o ansawdd uchel ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Steve Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr safle GE Aerospace yng Nghymru:

Mae t卯m Cymru yn falch o ddarparu gwasanaethau MRO o鈥檙 radd flaenaf i鈥檔 cwsmeriaid cwmn茂au hedfan byd-eang. Er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch, ansawdd, darpariaeth a chost yn y drefn honno, rydym yr un mor gyffrous am y dyfodol. Wrth edrych ymlaen, bydd ein safle yn dod yn gartref newydd ar gyfer yr injan GE9X, yr injan awyrennau masnachol mwyaf a mwyaf pwerus a adeiladwyd erioed.

Bydd cefnogaeth y llywodraeth, gan gynnwys mentrau fel y Bartneriaeth Twf Awyrofod ynghyd 芒 chyllid hirdymor ar gyfer y Sefydliad Technoleg Awyrofod, yn parhau i roi鈥檙 hyder i gwmn茂au fel GE Aerospace dyfu, buddsoddi a gwella technolegau a galluoedd newydd yn y DU.

Dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

Mae Cymru yn le rhagorol ar gyfer gweithgareddau gweithgynhyrchu a chynnal a chadw sy鈥檔 gysylltiedig ag awyrofod, ac mae鈥檙 safle hwn sy鈥檔 arwain y byd gan GE Aerospace yn bluen arall yng nghap ein sector awyrofod ffyniannus.

Mae ein cyfraniad ariannol o 拢5 miliwn wedi helpu i ddarparu鈥檙 safle a鈥檙 gweithlu presennol i uwchsgilio, wrth ddatblygu鈥檙 genhedlaeth nesaf o beirianwyr awyrennau trwy hyfforddiant a phrentisiaethau. Mae hyn yn golygu cyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel i bobl sy鈥檔 byw yn y cymunedau cyfagos.

Tanlinellodd yr ymweliad y bartneriaeth gref rhwng y diwydiant a鈥檙 llywodraeth wrth ysgogi arloesedd a buddsoddiad, gan sicrhau bod cwmn茂au fel GE Aerospace a鈥檙 sector awyrofod ehangach yn parhau i fod ar flaen y gad yn strategaethau diwydiannol Llywodraeth Cymru a鈥檙 DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Chwefror 2025