Datganiad i'r wasg

Diwydiant ynni gl芒n Cymru i ddod yn 'rym pwerus' ar gyfer twf economaidd meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Sir Benfro wedi鈥檌 adnabod fel ardal twf allweddol ar gyfer ynni gl芒n yng Nghymru.

Secretary of State for Wales Jo Stevens at Dragon LNG accompanied by Simon Ames, Managing Director at Dragon LNG.

  • Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gefnogwr brwd o ynni gl芒n yng Ngorllewin Cymru ac mae鈥檔 gweld sut bydd y sector yn darparu swyddi yn y dyfodol.
  • Cenhadaeth twf economaidd Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru trwy fuddsoddi 拢26 miliwn yn y Porthladd Rhydd Celtaidd.聽聽
  • Sir Benfro wedi鈥檌 adnabod fel ardal twf allweddol ar gyfer ynni gl芒n.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, wedi dweud wrth arweinwyr y diwydiant ynni gl芒n y byddant yn chwarae r么l hanfodol i helpu i dyfu鈥檙 economi yng Nghymru.

Trafodaeth heddiw (30 Ionawr) gydag unigolion allweddol o鈥檙 sector yng Ngorsaf Ynni Penfro RWE oedd y drafodaeth ddiweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd o amgylch y bwrdd sydd wedi鈥檜 cadeirio gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fel rhan o鈥檌 hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru.聽

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid y diwydiant i ddatblygu ffermydd gwynt arnofiol ar y m么r Celtaidd. Byddai hyn yn golygu adeiladu tyrbinau gwynt ar blatfformau arnofiol sy鈥檔 eu galluogi i gymryd mantais o gyfeiriad y gwynt.

Bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru glywed am y cynlluniau a sut gallai ffermydd gwynt arnofiol gefnogi hyd at 5,300 o swyddi newydd a chynhyrchu hyd at 拢1.4 biliwn ar gyfer economi y DU.

Mae Llywodraeth y DU wedi adnabod Sir Benfro fel ardal peilot ar gyfer datblygu gweithlu ynni gl芒n medrus, a allai gynnwys cyllid ar gyfer mesurau wedi鈥檜 targedu, fel canolfannau hyfforddi a chyrsiau i uwchsgilio gweithwyr.聽聽

Bydd porthladdoedd yn hanfodol ar gyfer cefnogi ffermydd gwynt arnofiol ar y m么r. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi partneriaeth rhwng Ystad y Goron a Great British Energy, sydd 芒鈥檙 potensial i聽ddenu hyd at gwerth 拢60 biliwn o fuddsoddiadau preifat i borthladdoedd a llwybrau cyflenwi ynni gl芒n.聽

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi 拢26 miliwn yn y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot. Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn annog twf a buddsoddiad trwy greu cymhelliannau trethi a thollau ar gyfer busnesau.聽聽

Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae fy ffocws yn glir - cyflawni Cynllun ar gyfer Newid Llywodraeth y DU a fydd yn sbarduno鈥檙 economi ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl yng Nghymru.

Mae gennym sector ynni gl芒n o safon fyd-eang yn Nghymru, gyda digonedd o adnoddau naturiol a鈥檙 potensial i fod yn rym pwerus ar gyfer twf economaidd.

Rwyf eisiau gweld diwydiant sy鈥檔 ffynnu sy鈥檔 darparu swyddi gyda chyflogau da ac sy鈥檔 cyfrannu i鈥檔 cenhadaeth i wneud y DU yn un o gewri鈥檙 sector ynni gl芒n erbyn 2030.

Cynhaliwyd trafodaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru gydag arweinwyr y diwydiant ddydd Iau 30 Ionawr yng Ngorsaf Ynni Penfro RWE. Dyma鈥檙 un diweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd o amgylch y bwrdd sydd wedi鈥檌 cadeirio ganddi fel rhan o鈥檌 hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru. Mae Ms Stevens eisoes wedi cwrdd ag arweinwyr o鈥檙 diwydiannau digidol a thechnoleg, y sector gweithgynhyrchu uwch a鈥檙 diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru.

Ar ddiwedd 2024, bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru lansio Gr诺p Ymgynghorol Twf Economaidd Cymru, i helpu i siapio ymdrechion Llywodraeth y DU i hybu twf a rhoi mwy o arian ym mhocedi鈥檙 pobl yng Nghymru. Tasg y grwp yw cyfarwyddo Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU i hybu diwydiannau allweddol yng Nghymru a siapio blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr Adolygiad o Wariant nesaf, y disgwylir i鈥檙 ddau gael eu cyhoeddi yn ystod Gwanwyn 2025.

Ynghyd 芒 siarad ag arweinwyr y diwydiant, bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymweld 芒 Dragon LNG yn Aberdaugleddau lle dysgodd mwy am eu cynlluniau arloesol i ddatgarboneiddio diwydiannau trwm Cymru.聽

Meddai Simon Ames, Rheolwr Gyfarwyddwr Dragon LNG:

Roedd yn anrhydedd fawr i groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Dragon ac i arddangos y talent lleol yn y cyfleuster gwych hwn.

Rydym yn darparu 10% o gas y DU, gan sicrhau cadernid ac amrywiaeth o ran y cyflenwad nwy sy鈥檔 dod o bob cwr o鈥檙 byd.聽

Trwy鈥檙 broses o bontio i ynni gwyrdd, rydym yn gobeithio datblygu ein prosiect ar y cyd gyda RWE ar ddal CO2, ei trosi鈥檔 hylif a鈥檌 forgludo, fel bod modd darparu p诺er sydd a lefel isel o garbon i鈥檙 UK pan fydd galw amdano.鈥澛�

Bu i Ms Stevens ymweld 芒 Ledwood Mechanical Engineering yn Nociau Penfro hefyd. Mae鈥檙 cwmni yn arbenigo mewn dylunio, cynhyrchu a gosod peirianwaith a strwythurau cymhleth ar gyfer y diwydiannau ynni. Wrth ymweld, siaradodd 芒 prentisiaid, sy鈥檔 ennill sgiliau a fydd yn werthfawr yn y diwydiant ynni gl芒n, am eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.聽

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Ledwood Mechanical Engineering, Nick Revell:

Mae cymaint o drafodaeth wedi bod am y potensial i economi Cymru a鈥檙 llwybr cyflenwi lleol fanteisio i鈥檙 eithaf ar y potensial o ynni gwynt ar y m么r a ph诺er y llanw, ond y realiti yw bod rhaid i fuddsoddwyr, datblygwyr a phartneriaid llwybrau cyflenwi fod yn hyderus y byddai鈥檙 Llywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd yn cefnogi鈥檙 diwydiant newydd hwn.

Mae鈥檔 hen bryd i roi鈥檙 gorau i siarad a chychwyn gwneud rhywbeth fel y gallwn dileu鈥檙 rhwystrau a symud yn ein blaenau. Rydym yn croesawu鈥檙 ymgysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda hi a Llywodraeth Cymru i helpu i wireddu hyn.

Dywedodd Albie Elliott, prentis yn Ledwood Mechanical Engineering:

Bydd y diwydiant ynni gl芒n yn darparu llwybr gyrfa hirdymor gwych i brentisiaid fel fi, sydd eisiau byw a gweithio鈥檔 lleol.

Mae鈥檔 gyfnod cyffrous iawn ac rwy鈥檔 falch i fod yn gweithio i gwmni fel Ledwood sydd wedi鈥檌 leoli yma ym Mhenfro ac sydd ar ben blaen y sector prosesu ynni byd-eang.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Ionawr 2025