Datganiad i'r wasg

Cymru i dderbyn 拢64.5m ychwanegol o ganlyniad i gyllid trafnidiaeth yn Lloegr

Mae Llywodraeth y DU bellach wedi darparu dros 拢2.2 biliwn o gyllid uniongyrchol i Gymru er mwyn rheoli effaith coronafeirws

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Bydd Cymru yn derbyn 拢64.5 miliwn yn ychwanegol o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth y DU a ddyrennir i Trafnidiaeth Llundain yn gynharach yr wythnos hon.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymateb pedair gwlad i COVID-19 ac hyd yma wedi cyhoeddi dros 拢7 biliwn o gyllid ychwanegol i鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig i gefnogi pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hyd yn hyn, mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyfanswm o dros 拢2.2 biliwn o arian i gefnogi鈥檙 ymdrech i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 coronafeirws yng Nghymru.

Mae鈥檙 arian hwn yn ychwanegu at fesurau ledled y DU y gall pobl a busnesau yng Nghymru gael mynediad iddynt, megis y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws, y Cynllun Cymorth Incwm Hunan-Gyflogedig a Chynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes Coronafeirws.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae llawer o sefydliadau trafnidiaeth ledled y DU yn wynebu caledi o ganlyniad i effaith pandemig y coronafeirws, ac nid yw鈥檙 rheini yng Nghymru yn eithriad. Er ein bod yn annog pobl i weithio gartref lle bo hynny鈥檔 bosibl a theithio dim ond pan fydd hynny鈥檔 gwbl angenrheidiol, mae angen i rai teithio i鈥檙 gwaith ac mae angen i bobl allu teithio鈥檔 ddiogel tra鈥檔 parchu ymbellhau cymdeithasol ar 么l i gyfyngiadau gael eu codi鈥檔 raddol.

Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw penderfynu sut i ddyrannu鈥檙 cyllid ychwanegol hwn, mae angen diogelu gwasanaethau trafnidiaeth allweddol fel y gallant gefnogi adferiad economaidd Cymru yn dilyn COVID-19.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Mai 2020