Cymru i gael £100 miliwn i adfer balchder mewn cymdogaethau a hybu twf
Cymru i gael cyfran o £1.5 biliwn gan greu twf a chyfleoedd lleol drwy’r Cynllun Cymdogaethau newydd.

£100 million for five Welsh communities through the UK Government's Plan for Neighbourhoods
- Cymru i gael cyfran o £1.5 biliwn i feithrin cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig ac iachach ledled y DU.
- Y stryd fawr, parciau lleol, clybiau ieuenctid, lleoliadau diwylliannol, llyfrgelloedd a mwy o fewn cwmpas yr adfywio, gan greu twf a chyfleoedd lleol drwy’r Cynllun Cymdogaethau newydd. �
- Bydd byrddau cymdogaeth newydd ar draws y 75 cymuned a ddewiswyd yn dod â thrigolion a busnesau at ei gilydd i benderfynu sut i wario’r arian yn eu hardal. �
- Y cam diweddaraf yng Nghynllun ar gyfer Newid uchelgeisiol llywodraeth y DU, gan roi hwb i adnewyddu cenedlaethol, adennill rheolaeth dros ein strydoedd a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl leol.
Bydd pobl leol yng Nghymru yn gweld eu stryd fawr yn cael ei hadfywio, canolfannau cymunedol yn cael eu hachub a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu trawsnewid gyda chyllid o £100 miliwn drwy Gynllun Cymdogaethau’r llywodraeth er mwyn mynd i’r afael ag amddifadedd a sbarduno twf cyflym, wrth i bob ardal ymuno â’r degawd o adnewyddu cenedlaethol yr ydym wedi ymrwymo iddo yn ein Cynllun ar gyfer Newid.
Bydd 75 o ardaloedd yn cael hyd at £20 miliwn yr un o gyllid a chymorth dros y degawd nesaf drwy’r cynllun, gyda gweinidogion yn addo y bydd yn helpu i drawsnewid ardaloedd sydd “wedi cael eu gadael ar ôl� drwy ryddhau eu potensial llawn drwy fuddsoddi mewn darparu gwell gwasanaethau cymunedol hanfodol o addysg, iechyd a chyflogaeth, i fynd i’r afael â phryderon lleol fel troseddu. Bydd y trawsnewid yn gyfannol, yn hirdymor ac yn gynaliadwy er mwyn sicrhau newid ystyrlon i fywydau bob dydd pobl leol.
Mae’r ardaloedd yng Nghymru sydd i dderbyn cyllid drwy’r cynllun yn cynnwys y canlynol: �
- Y Barri
- °
- ɳâ �
- Merthyr Tudful �
Bydd pob bwrdd yn penderfynu sut i wario hyd at £20 miliwn o gyllid a chymorth � gallant ddewis o blith opsiynau sy’n amrywio o atgyweirio palmentydd a’r stryd fawr, i sefydlu siopau bwyd cymunedol cost isel sy’n darparu dewisiadau amgen cost isel wrth siopa am nwyddau hanfodol, yn ogystal â mentrau cydweithredol neu gynlluniau Gwarchod Cymdogaeth hyd yn oed. �
Dyma’r cam diweddaraf yng nghenhadaeth uchelgeisiol Cynllun ar gyfer Newid y llywodraeth, sef tyfu economi’r DU, darparu strydoedd mwy diogel a chreu cyfleoedd i bawb.
Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Cynllun Cymdogaethau yn ategu, yn cefnogi ac yn cyd-fynd â gwaith a pholisïau presennol Llywodraeth Cymru o ran adfywio a thwf economaidd lleol.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn wahanol i addewidion digyllid y llywodraeth flaenorol. Mae’r Cynllun Cymdogaethau yn dyblu cwmpas y mathau o brosiectau sy’n gallu elwa ac mae bellach yn cyd-fynd yn llwyr â chenhadaeth Cynllun ar gyfer Newid hirdymor y Llywodraeth: sef chwalu rhwystrau i gyfleoedd a rhoi hwb i dwf economaidd.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Angela Rayner AS: �
Ers blynyddoedd, mae gormod o gymdogaethau wedi cael eu hamddifadu o fuddsoddiad, er gwaethaf eu potensial i ffynnu a thyfu. Mae gan gymunedau ledled y DU gymaint i’w gynnig � cyfalaf diwylliannol cyfoethog, treftadaeth unigryw ond, yn bennaf oll, dealltwriaeth o’u cymdogaeth eu hunain.
Byddwn yn gwneud pethau’n wahanol, mae ein Cynllun Cymdogaethau, sy’n cael ei ariannu’n llawn, yn rhoi pobl leol wrth y llyw o ran eu potensial, rheoli ble mae arian Whitehall yn mynd � pa faterion maen nhw eisiau mynd i’r afael â nhw, lle maen nhw am adfywio a pha dwf maen nhw am ei sbarduno.”�
Dywedodd Alex Norris, y Gweinidog dros Dwf Lleol a Diogelwch Adeiladau: �
Pan mae ein cymdogaethau lleol yn ffynnu, mae gweddill y wlad yn ffynnu hefyd. Dyna pam rydyn ni’n grymuso cymunedau i gymryd rheolaeth dros eu dyfodol a chreu’r adfywiad a’r twf maen nhw eisiau eu gweld.
Bydd ein Cynllun Cymdogaethau yn darparu cyllid hirdymor a fydd yn atgyfnerthu’r ysbryd cymunedol mewnol hwnnw sydd ynom ni i gyd ac yn aildanio brwdfrydedd yn y rhannau hynny o’r DU sydd wedi bod yn brwydro dros eu parhad ers llawer gormod o amser.
Bydd hyn, ynghyd â’n diwygiadau uchelgeisiol i symleiddio’r system gynllunio, datganoli pwerau a chryfhau hawliau gweithwyr, yn helpu i sicrhau bod lleoedd a phobl yn ffynnu unwaith eto.” �
Dywedodd Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Cynllun Cymdogaethau Llywodraeth y DU yn newyddion gwych i Gymru, gan ddarparu £100 miliwn i hybu twf drwy fuddsoddi yn y stryd fawr, parciau, lleoliadau diwylliannol, clybiau ieuenctid a mwy. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu pobl leol o’r Rhyl i Ferthyr Tudful i drawsnewid eu cymunedau.
Mae ein Cynllun ar gyfer Newid yn nodi sut rydyn ni eisiau tyfu’r economi, creu swyddi a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Mae cyllid lleol wedi’i dargedu yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth twf economaidd a bydd yn cefnogi’r gwaith gwych y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud i adfywio cymunedau ledled Cymru.”�
Ym mhob ardal, bydd y llywodraeth yn cefnogi sefydlu ‘Bwrdd Cymdogaeth� newydd, gan ddod â thrigolion, busnesau lleol ac ymgyrchwyr ar lawr gwlad at ei gilydd i lunio a gweithredu gweledigaeth newydd ar gyfer eu cymdogaeth. �
Bydd pob bwrdd yn penderfynu sut i wario hyd at £20 miliwn o gyllid a chymorth. Nod Cynllun Cymdogaethau’r Llywodraeth yn y pen draw yw creu lleoedd ffyniannus, cryfhau cymunedau, a grymuso pobl leol i adennill rheolaeth mewn trefi ledled y wlad. �
Drwy greu lleoedd ffyniannus, cryfhau cymunedau, a grymuso pobl i adennill rheolaeth, gall ardaloedd fwrw ymlaen â’u blaenoriaethau a chenhadaeth Cynllun ar gyfer Newid hirdymor y Llywodraeth: sef chwalu rhwystrau i gyfleoedd a rhoi hwb i dwf economaidd. �
Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru drwy’r strwythurau rhynglywodraethol arferol i wneud gwaith byrddau’n gryfach ac yn fwy effeithiol drwy sicrhau mwy o gysondeb strategol ar draws blaenoriaethau’r ddwy lywodraeth.