Cynnydd yn nifer y bobl sy鈥檔 mentro yng Nghymru gan roi'r gorau i ddibynnu ar fudd-daliadau
Mwy na 4,300 o fusnesau newydd wedi cael eu cychwyn gyda cymorth Lwfans Menter Newydd y Llywodraeth

Mae mwy na 4,300 o fusnesau newydd wedi cael eu cychwyn entrepreneuriaid sy鈥檔 chwilio am waith yng Nghymru yn 么l ystadegau swyddogol newydd a ryddhawyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae鈥檙 ffigurau鈥檔 datgelu bod 4,320 o fusnesau newydd yng Nghymru wedi cael eu creu drwy ddefnyddio Lwfans Menter Newydd y Llywodraeth, ers i hwnnw gael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2011.
Yng Nghymru, dyma鈥檙 pum awdurdod lleol lle cr毛wyd y nifer fwyaf o fusnesau newydd:
- Caerdydd 580
- Abertawe 440
- Sir Gaerfyrddin 380
- Caerffili 280
- Castell-nedd Port Talbot 250
Mae 76,960 o fusnesau newydd wedi cael eu sefydlu ar hyd a lled Prydain o dan y cynllun hwn, sy鈥檔 rhoi cyllid i ddechrau arni a mentor busnes i hawlwyr budd-daliadau sydd 芒 syniad busnes cadarn.
Mae鈥檙 Lwfans yn helpu pobl sy鈥檔 chwilio am waith, rhieni sengl a phobl ar fudd-daliadau salwch sydd 芒 syniad da i sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae pobl sydd ar y cynllun yn cael cymorth arbenigol a chyngor gan fentor busnes a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu syniad busnes a llunio cynllun busnes. Os caiff y cynllun busnes ei gymeradwyo, maent yn gymwys i gael cymorth ariannol sy鈥檔 daladwy drwy lwfans wythnosol am 26 wythnos hyd at gyfanswm o 拢1,274.
Dywedodd Priti Patel, y Gweinidog dros Gyflogaeth:
Rydym eisiau i bawb ymhob rhan o Brydain, gan gynnwys Cymru, elwa ar y cyfleoedd sy鈥檔 cael eu creu gan ein heconomi sy鈥檔 tyfu.
Mae鈥檔 rhaid cael arian i ddechrau busnes, yn ogystal 芒 chymorth a chyngor, a dyna鈥檔 union rydym yn ei gynnig drwy鈥檙 cynllun Lwfans Menter Newydd.
Mae鈥檙 cynllun hwn yn helpu hawlwyr budd-daliadau sydd 芒 syniad busnes da i fod yn fos arnynt eu hunain er mwyn iddynt allu eu cefnogi eu hunain a鈥檜 teuluoedd, a gweddnewid eu bywydau.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
O berchnogion siopau hen bethau i entrepreneuriaid gyda chaffis ar yr arfordir, mae miloedd o bobl yng Nghymru bellach yn gwireddu eu breuddwyd o fod yn fos arnynt eu hunain, gyda chymorth Lwfans Menter Newydd.
Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn rhoi鈥檙 cymorth sydd ei angen ar gyflogwyr y dyfodol i droi eu cefn ar fywyd ar fudd-daliadau a throi eu huchelgais yn realiti.
Maent yn helpu i lywio adferiad economaidd Cymru yn y cyfeiriad iawn, gan greu rhagor o swyddi i鈥檔 gwlad a mwy o sicrwydd i deuluoedd Cymru.