Rhagor o hawlwyr budd-daliadau yng Nghymru yn dod yn fos arnynt eu hunain
Mwy na 4,000 o fusnesau wedi cael eu cychwyn gan ddefnyddio Lwfans Menter Newydd

Entrepreneurs
Mae mwy na 4,000 o fusnesau newydd wedi cael eu cychwyn gan hawlwyr budd-daliadau di-waith yng Nghymru yn 么l ystadegau swyddogol newydd a ryddhawyd heddiw gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae鈥檙 ffigyrau鈥檔 datgelu bod cyfanswm o 4,070 o fusnesau newydd yng Nghymru wedi cael eu creu gan ddefnyddio Lwfans Menter Newydd ers i hwnnw gael ei gyflwyno yn Ebrill 2011. Mae hyn wedi cyfrannu at greu cyfanswm o 73,000 o fusnesau newydd drwy鈥檙 cynllun ym Mhrydain.
Yng Nghymru, dyma鈥檙 pum awdurdod lleol lle cr毛wyd y nifer fwyaf o fusnesau newydd (hyd at Fehefin 2015):
- Caerdydd 540
- Abertawe 410
- Sir Gaerfyrddin 350
- Sir Benfro 290
- Caerffili 270
Mae鈥檙 Lwfans Menter Newydd yn rhoi cymorth ariannol a mentor busnes i hawlwyr budd-daliadau sydd 芒 syniad busnes cadarn.
Dywedodd Priti Patel, y Gweinidog dros Gyflogaeth:
Rydym eisiau i bawb ymhob rhan o鈥檙 DU elwa ar y cyfleoedd sy鈥檔 cael eu creu gan ein heconomi sy鈥檔 tyfu. Rydym yn cefnogi pobl, ni waeth beth fo鈥檜 cefndir nac o ble maent yn dod, os ydynt eisiau gweithio鈥檔 galed a llwyddo.
Mae鈥檙 cynllun hwn yn helpu hawlwyr budd-daliadau sydd 芒 syniad busnes da i fod yn fos arnynt eu hunain er mwyn iddynt allu eu cefnogi eu hunain a鈥檜 teuluoedd, a gweddnewid eu bywydau.
Y DU yw鈥檙 lle gorau yn Ewrop ac un o鈥檙 llefydd gorau yn y byd i gychwyn busnes, ond mae鈥檙 Llywodraeth eisiau gweld mwy o bobl o gymunedau difreintiedig yn cael cyfle i wireddu eu breuddwyd o fod yn fos arnynt eu hunain.
Mae鈥檙 Llywodraeth wedi lansio adolygiad dan arweiniad yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd yn cael ei gynnal gan Michelle Mone OBE, yr entrepreneur a鈥檙 wraig fusnes, yngl欧n 芒 ffyrdd o gefnogi pobl o鈥檙 ardaloedd hyn i sefydlu eu busnes eu hunain.
Gall cymunedau difreintiedig gynnwys ardaloedd lle mae lefel uchel o ddiweithdra, diweithdra wedi hen ymwreiddio, neu lefelau is o addysg.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 llywodraeth hon yn cefnogi pawb sydd ag uchelgais, a hynny ar bob cam o鈥檙 ffordd.
Mae鈥檙 Lwfans Menter Newydd yn helpu miloedd o bobl yng Nghymru i ddewis rhoi terfyn ar fyw ar fudd-daliadau, dechrau eu busnes eu hunain a bod yn rhan o genhedlaeth fentrus newydd.
Dyma gyflogwyr y dyfodol - y rhai a fydd yn trawsnewid ein heconomi, yn creu rhagor o swyddi ac yn creu dyfodol llewyrchus i Gymru.
Mae鈥檙 Lwfans yn helpu pobl sy鈥檔 chwilio am waith, rhieni sengl a phobl ar fudd-daliadau salwch sydd 芒 syniad da i sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae pobl sydd ar y cynllun yn cael cymorth arbenigol a chyngor gan fentor busnes a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu syniad busnes a llunio cynllun busnes. Os caiff y cynllun busnes ei gymeradwyo, maent yn gymwys i gael cymorth ariannol sy鈥檔 daladwy drwy lwfans wythnosol am 26 wythnos hyd at gyfanswm o 拢1,274.
Astudiaeth achos
Rudi Thomas
Cafodd Rudi Thomas, y dyn busnes o Brestatyn, ei gefnogi gan y Lwfans Menter Newydd pan oedd yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd anaf hirdymor ar ei fraich a oedd yn golygu na allai barhau i weithio fel gyrrwr lori. Gyda chymorth y cynllun, penderfynodd fynd yn hunangyflogedig ac mae wedi sefydlu caffi llwyddiannus ar lan y m么r yn y gogledd o鈥檙 enw 鈥淐rofter鈥檚 Pantry鈥�. Erbyn hyn, mae Rudi yn ennill bywoliaeth dda drwy ei fenter fusnes ac mae hefyd yn cyflogi myfyrwyr yn y caffi.
Mae鈥檙 Lwfans wedi cefnogi Rudi drwy鈥檙 broses o gychwyn y busnes, ac mae ei fentoriaid wedi rhoi cyngor amhrisiadwy iddo ym maes cyfrifeg a busnes.
Dywedodd Rudi:
Dwi鈥檔 wirioneddol falch o ran yr elw dwi wedi鈥檌 wneud ac o ran boddhad y cwsmeriaid. Yn gyffredinol, mi fyddwn i鈥檔 argymell y Lwfans Menter Newydd yn fawr gan ei fod yn ffordd wych o鈥檆h cefnogi chi yn ystod camau cyntaf y busnes.
Meurig Davies
Entrepreneur arall sydd wedi cael cymorth gan y Lwfans Menter Newydd yw Meurig Davies, un o gyn-weithwyr Parciau a Gerddi Ceredigion. Mae Meurig wedi mynd o dorri glaswellt i werthu trysorau o鈥檙 gorffennol gyda chymorth y cynllun.
Bu鈥檙 tad i dri yn gofalu am barciau a gerddi Ceredigion am bedair blynedd cyn colli ei waith yn 2014, ond gyda chymorth gan y Lwfans Menter Newydd mae Meurig wedi agor Harbourside Antiques and Collectibles.
Dywedodd Meurig:
Mae gen i ddiddordeb mewn hen bethau ers rhyw ugain mlynedd ac rwy鈥檔 gwybod llawer. Does dim siopau hen bethau yn yr ardal felly pan ddaeth eiddo masnachol ar gael ar bwys fy nghartref, gwnes ymchwil i agor un. Mae wedi bod yn gymorth mawr. Roeddwn yn nerfus ac wedi cyffroi pan wnaethom agor ar Ebrill 1. Mae gennym lif cyson o ymwelwyr ond wrth aros i dymor yr ymwelwyr ddechrau rwyf wedi bod yn defnyddio pob ceiniog sy鈥檔 mynd i鈥檙 til i dalu biliau a phrynu stoc. Mae grant y Lwfans Menter Newydd wedi gofalu fy mod yn gallu dod i ben.
Mae鈥檔 teimlo鈥檔 wych i fod yn fos arnaf fy hun a chael gwneud rhywbeth rwy鈥檔 ei garu. Rydym yn mynd i鈥檙 cyfeiriad iawn ac rwy鈥檔 teimlo鈥檔 ffyddiog am y dyfodol.
Rhagor o wybodaeth
Mae鈥檙 Lwfans Menter Newydd ar gael i鈥檙 canlynol:
- pobl dros 18 mlwydd oed sy鈥檔 hawlio Lwfans Ceisio Gwaith
- pobl sy鈥檔 hawlio Cymhorthdal Incwm fel rhiant sengl neu sy鈥檔 s芒l
- pobl ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Hawlwyr Credyd Cynhwysol sy鈥檔 gymwys
Darllenwch yr ystadegau llawn yma