Bwlch cynhyrchiant Cymru ar frig yr agenda wrth i Ysgrifennydd Cymru groesawu'r Bwrdd Cynghori ar yr Economi
Stephen Crabb yn cynnal cyfarfod yn General Dynamics UK

Cau bwlch cynhyrchiant Cymru oedd canolbwynt y trafodaethau ymysg cynrychiolwyr busnes Cymru yng nghyfarfod Bwrdd Cynghori ar yr Economi Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw (19 Tachwedd).
Wrth gadeirio ei gyfarfod cyntaf ers yr Etholiad Cyffredinol, croesawodd Mr Crabb aelodau鈥檙 gr诺p i General Dynamics UK yn Nhrecelyn. Heriwyd y rhai a oedd yn bresennol i gynnig atebion posibl ar sut gall Cymru leihau鈥檙 bwlch cynhyrchiant sy鈥檔 bodoli rhyngddi a gweddill y Deyrnas Unedig.
Ym mis Gorffennaf eleni, lansiodd y Llywodraeth ei Chynllun Cynhyrchiant, 鈥楩ixing the foundations鈥�. Nod y cynllun yw gwrthdroi problem cynhyrchiant hirdymor y Deyrnas Unedig a chodi safonau byw a sicrhau gwell ansawdd bywyd i bobl Prydain. Mae鈥檙 fframwaith yn cynnwys 15 maes allweddol, wedi eu llunio o gwmpas dau biler: yn gyntaf, annog buddsoddiad hirdymor, ac yn ail, hyrwyddo economi ddeinamig.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ers 2010, mae Cymru wedi bod yn culhau鈥檙 bwlch cynhyrchiant rhyngddi hi a鈥檙 Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, dyma her economaidd ein cyfnod o hyd, ac mae angen ymdrech wirioneddol genedlaethol gan y llywodraeth, byd busnes a phobl sy鈥檔 gweithio.
Dim ond y sector preifat sy鈥檔 gallu cynhyrchu twf cynaliadwy, creu swyddi hirdymor a gwneud economi Cymru mor gynhyrchiol ag y gall fod. Dyna pam rwy鈥檔 awyddus i ddod 芒 busnesau ynghyd yma heddiw i weld pa gamau ymarferol y gellir eu cymryd i gynyddu cynhyrchiant yng Nghymru ac, o ganlyniad, sicrhau gwlad fwy ffyniannus.
Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd gymryd y cyfle i geisio barn aelodau鈥檙 Bwrdd ar yr ymrwymiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y pecyn datganoli yng Nghymru.
Nodiadau i olygyddion:
- Mae鈥檙 Bwrdd Cynghori ar yr Economi yn gyfle i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol glywed amrywiaeth eang o safbwyntiau o bob cwr o鈥檙 gymuned fusnes er mwyn i鈥檙 Llywodraeth gael gwell dealltwriaeth o鈥檙 materion sy鈥檔 bwysig i fusnesau yng Nghymru.