Datganiad i'r wasg

Cyfle Cymru i ddod 芒 5G gam yn nes mewn cystadleuaeth genedlaethol

Guto Bebb: Dylai cyrff yng Nghymru fanteisio ar y cyfle hwn i gyflymu gwasanaeth

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
5G

5G

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gystadleuaeth gwerth 拢25 miliwn a fydd yn cadarnhau safle鈥檙 DU ar flaen y gad yn natblygiad technoleg 5G.

Mae鈥檙 gystadleuaeth 鈥淢einciau Arbrofi a Threialon 5G鈥� yn rhan o Gronfa Genedlaethol Buddsoddi mewn Cynhyrchiant (NPIF) Llywodraeth y DU, cronfa gwerth 拢740m i gefnogi鈥檙 genhedlaeth nesaf o seilwaith digidol, sy鈥檔 cynnwys 5G a band eang ffibr llawn.

Mae Llywodraeth y DU yn chwilio am leoliadau profi newydd mewn gwahanol rannau o鈥檙 DU a fydd yn helpu i roi technoleg 5G - 鈥榶 bumed genhedlaeth鈥� 鈥� ar waith yn y dyfodol. Mae nawr yn annog sefydliadau sydd 芒 diddordeb, yn unrhyw ran o鈥檙 DU, i gyflwyno cynigion prosiect ar gyfer grantiau arian cyfatebol sy鈥檔 werth hyd at 拢5 miliwn.

Mae鈥檙 hwb hwn i dechnoleg arloesol 5G hefyd yn dilyn y cyhoeddiad y bydd buddsoddiad o 拢1.7 biliwn gan Lywodraeth y DU, erbyn diwedd y flwyddyn hon, wedi helpu i ddod 芒 band eang cyflym iawn i 95% o鈥檙 DU.

Bydd 5G yn galluogi cyflymder rhyngrwyd i ddal i fyny 芒鈥檙 nifer cynyddol o ddyfeisiau sydd angen cysylltiad, yn enwedig y cynnydd aruthrol mewn dyfeisiau clyfar yn y cartref a鈥檙 鈥榬hyngrwyd o bethau鈥�. 脗 chyflymder posibl o hyd at 10 gigadid yr eiliad, bydd hefyd yn ei gwneud hi鈥檔 haws i bobl lawrlwytho ac uwchlwytho Ultra HD a fideo 3D yn gyflym.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU i Gymru:

Mae hwn yn gyfle gwych i Gymru fod ar flaen y gad wrth ddatblygu technoleg ddigidol, gan hybu capasiti a chynhyrchiant busnesau lleol, yn ogystal 芒 thrigolion sydd eisiau manteisio ar gyflymder cyflym iawn.

Mae鈥檙 dirwedd ddigidol yng Nghymru鈥檔 esblygu o hyd, a bydd Llywodraeth y DU yn dal i wneud popeth posibl i gefnogi鈥檙 chwyldro hwn mewn technoleg. Rwy鈥檔 annog cyrff yng Nghymru i fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau鈥檙 cyllid hwn a helpu i gyflymu gwasanaeth ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Digidol, Matt Hancock:

Er mwyn parhau鈥檔 gystadleuol rhaid i ni fod ar flaen y gad 芒鈥檙 dechnoleg newydd ac rydym yn benderfynol o fod yn un o鈥檙 gwledydd cyntaf yn y byd i ddefnyddio 5G. Yn y camau cynnar iawn hyn rydym eisiau pob syniad, o bob rhan o鈥檙 wlad, a fydd yn ein helpu i gael y dechnoleg a鈥檙 broses o鈥檌 rhoi ar waith yn iawn, ac i gael rhwydwaith cenedlaethol o arloeswyr 5G.

Rydym yn gwneud hyn oherwydd ein bod yn benderfynol o sicrhau mai Prydain yw鈥檙 lle gorau yn y byd i gychwyn a thyfu busnes digidol, a chyflawni ar gyfer pob dinesydd, heddiw ac yn y dyfodol.

Yn Natganiad Hydref 2016, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i fuddsoddi mewn rhaglen wedi鈥檌 chydgysylltu鈥檔 genedlaethol o gyfleusterau mainc arbrofi a threialon 5G, fel rhan o becyn gwerth 拢1 biliwn o gyhoeddiadau a wnaethpwyd er mwyn hybu seilwaith digidol y DU. Mae adroddiad gan Gr诺p Her Cyfathrebu yn y Dyfodol yn awgrymu y gallai arweinyddiaeth y DU mewn 5G arwain at gyfle i greu 拢173 biliwn o dwf cynyddrannol mewn cynnyrch domestig gros yn y DU dros gyfnod o ddeng mlynedd rhwng 2020 a 2030

Dywedodd Andrew Jones AS, Ysgrifennydd y Trysorlys:

Er mwyn gwella cynhyrchiant mae angen buddsoddiad wedi鈥檌 dargedu, ac mae angen cynnal y buddsoddiad hwnnw. Dyma pam rydym yn cefnogi seilwaith digidol y DU 芒 thros biliwn o bunnoedd o gyllid gan Lywodraeth y DU. Os ydych yn gwneud busnes ar-lein, neu鈥檔 gwneud eich siopa wythnosol ar-lein, mae cysylltiadau cryf a dibynadwy鈥檔 hollbwysig.

Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn heddiw yn gam mawr ymlaen er mwyn dod 芒 5G i鈥檙 DU a sicrhau bod ein seilwaith digidol yn addas ar gyfer y dyfodol.

Disgwylir i brosiectau gael eu harwain gan ddiwydiant, neu y bydd ganddynt elfen ddiwydiannol gref, a dim ond i sefydliadau cofrestredig yn y DU, sy鈥檔 cyflawni prosiectau yn y DU ac sy鈥檔 gweithio ar y cyd 芒 sefydliadau eraill y bydd y cyllid ar gael.

Mae manylion yngl欧n 芒 sut i wneud cais i鈥檞 gweld (o 10.00am dydd Llun 16 Hydref)

Nodiadau i Olygyddion

  1. Amcangyfrifodd IHS Economics / IHS Technology y bydd 5G, drwy fodelu buddsoddi mewn diwydiant ac effeithiau ar gyfanswm ffactorau cynhyrchu o achosion defnydd disgwyliedig, yn galluogi allbwn economaidd byd-eang gwerth $12.3 triliwn o ddoleri UDA yn 2035.

  2. Mae鈥檙 gystadleuaeth gyllid gyntaf hon ar gyfer Cam 1 prosiectau meinciau arbrofi a threialon cychwynnol a fydd yn helpu i ddatblygu 鈥渆cosystem 5G鈥� y DU, boed drwy archwilio鈥檙 potensial i 5G sicrhau budd i fusnesau; datblygu cymwysiadau a gwasanaethau 5G newydd; datblygu ac archwilio modelau busnes newydd o amgylch technolegau 5G allweddol; neu leihau鈥檙 risgiau masnachol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 buddsoddi mewn 5G.

Bydd manylion cyfleoedd i gael cyllid yn y dyfodol ar gyfer rhagor o feinciau arbrofi a threialon ar gael wrth i鈥檙 rhaglen ddatblygu. Mae鈥檔 debyg y bydd cyllid yn y dyfodol hefyd yn cynnwys prosiectau mawr ar gyfer nifer o flynyddoedd a allai fod yn ymwneud 芒 meysydd sy鈥檔 gydnaws 芒 blaenoriaethau strategol Llywodraeth y DU neu sy鈥檔 helpu i fynd i鈥檙 afael 芒 materion defnyddio neu heriau technegol sy鈥檔 helpu i gyflawni amcanion strategaeth 5G Llywodraeth y DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Hydref 2017 show all updates
  1. Translation added

  2. First published.