Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cymryd rhan mewn gwasanaethau Dydd y Cofio yng Nghaerdydd a Llundain

Gweinidogion Swyddfa Cymru Stephen Crabb, Alun Cairns a鈥檙 Farwnes Randerson yn cymryd rhan mewn gwasanaethau Dydd y Cofio yng Nghaerdydd ac yn Llundain

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb a Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson yn cymryd rhan mewn gwasanaethau yng Nghaerdydd ac yn Llundain fel rhan o ddigwyddiadau Dydd y Cofio.

Yn gynharach yn yr wythnos, ar ddydd Mercher, 5 Tachwedd, bu Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, mewn gwasanaeth ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yng Nghastell Caerdydd, gan blannu croes bren gyda theyrnged bersonol arni.

Ar Sul y Cofio, ar 9 Tachwedd, bydd Stephen Crabb yn gosod torch wrth Gofeb Rhyfel Cenedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd.

Yn ei neges Dydd y Cofio, dywedodd Mr Crabb:

Y Sul y Cofio hwn, rydyn ni鈥檔 nodi can mlynedd ers dechrau鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf. Collodd deugain mil o Gymry eu bywydau rhwng 1914 ac 1918, a rhaid i ni beidio byth ag anghofio鈥檙 aberth enfawr a wnaeth y dynion a鈥檙 menywod hynny i ddiogelu ein rhyddid.

Mae鈥檙 teyrngedau sy鈥檔 cael eu rhoi ledled Cymru heddiw鈥檔 dangos ein bod yn ddiolchgar iawn am yr aberth a wnaethon nhw a鈥檙 rheini mewn gwrthdaro diweddarach.

Yn ogystal 芒 chofio am bawb a wasanaethodd yn y ddau ryfel byd, eleni, byddaf hefyd yn meddwl am y dynion a鈥檙 menywod o Gymru sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar ar 么l gwasanaethu yn yr ymgyrch tair blynedd ar ddeg i fynd i鈥檙 afael 芒 therfysgaeth yn Afghanistan.

Rwy鈥檔 diolch am iddyn nhw ddychwelyd adref yn ddiogel, ac yn anrhydeddu cof y rheini, yn drist iawn, a gollodd eu bywydau. Mae heddiw hefyd yn amser i feddwl am y gwrthdaro sy鈥檔 digwydd ar hyn o bryd, a chofio am y rheini sy鈥檔 dal i amddiffyn ein gwerthoedd ar draws y byd.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Mae dynion a menywod o Brydain yn peryglu eu bywydau bob dydd i sicrhau bod ein gwlad a鈥檙 byd yn fannau mwy diogel i fyw ynddyn nhw.

A hithau鈥檔 ganmlwyddiant ers dechrau鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf, mae鈥檔 bwysig ein bod yn oedi am funud i gofio am yr aberth y mae ein Lluoedd Arfog wedi鈥檌 wneud dros y degawdau, ac y maen nhw鈥檔 dal i鈥檞 wneud, mewn gwrthdaro a therfysgoedd ar draws y byd heddiw.

Wrth ystyried y gwasanaeth ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru, dywedodd Mr Cairns:

Roedd cymryd rhan yn y gwasanaeth hwn, a oedd yn agor Maes Coffa Cenedlaethol Cymru i鈥檙 cyhoedd, yn brofiad emosiynol ac roedd yn fraint cael cymryd rhan.

Mae Maes Coffa Cenedlaethol Cymru鈥檔 rhywle tawel i鈥檙 cyhoedd ystyried a phwyso a mesur aberth sylweddol y dynion a鈥檙 menywod o Gymru, Prydain a鈥檙 Gymanwlad sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Bu dros 270,000 o filwyr o Gymru 鈥� 10% o boblogaeth Cymru 鈥� yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Tachwedd 2014