Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld 芒 Pentre Awel, safle prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Arweinwyr y cyngor yn croesawu David Davies AS i safle Pentre Awel, Llanelli cyn y dyddiad dechrau yn yr hydref

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae arweinwyr y Cyngor yn Sir Gaerfyrddin wedi croesawu David Davies AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, i safle datblygiad nodedig Pentre Awel, Llanelli.

Ymwelodd Mr Davies 芒鈥檙 safle 83 erw yn Llynnoedd Delta i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect arloesol dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi cael 拢40 miliwn o gyllid fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Pentre Awel yw鈥檙 datblygiad cyntaf o鈥檌 gwmpas a鈥檌 faint yng Nghymru a bydd yn dwyn ynghyd ddatblygiadau arloesol ym maes gwyddor bywyd, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern mewn un lleoliad gwych.

Bydd yn darparu gofal iechyd ac ymchwil feddygol o鈥檙 radd flaenaf ac yn cefnogi ac yn annog pobl i fyw bywydau egn茂ol ac iach, gan greu dros 1,800 o swyddi a rhoi hwb o 拢467 miliwn i鈥檙 economi leol yn ystod y 15 mlynedd nesaf.

Mae Pentre Awel yn un o naw prosiect mawr sy鈥檔 rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy鈥檔 cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a鈥檙 sector preifat.

Cafodd yr achos busnes ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni a bydd y gwaith o adeiladu Parth Un y prosiect yn dechrau yr hydref hwn ac amcangyfrifir y bydd yn cael ei gwblhau yn haf 2024.

Mae鈥檔 cynnwys canolfan hamdden newydd o鈥檙 radd flaenaf a phwll hydrotherapi ynghyd 芒 lle addysg, ymchwil a datblygu busnes; canolfan ymchwil a darpariaeth glinigol; a chanolfan sgiliau llesiant. Y tu allan, bydd gan ddatblygiad Pentre Awel fannau cyhoeddus awyr agored wedi鈥檜 tirlunio ar gyfer hamdden, cerdded a beicio.

Dywedodd David Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Roeddwn yn falch iawn o weld dechrau鈥檙 prosiect cyffrous hwn a llongyfarch rhai o鈥檙 bobl sydd wedi gweithio mor galed arno.

Mae Llywodraeth y DU yn falch o鈥檔 cyfraniad ariannol a fydd, ynghyd 芒鈥檔 partneriaid, yn helpu i gyflawni鈥檙 cynllun hynod uchelgeisiol hwn. Mae ganddo鈥檙 potensial i drawsnewid bywydau drwy greu datblygiadau arloesol ym maes iechyd a llesiant, yn ogystal 芒 rhoi hwb economaidd i鈥檙 ardal. Dyma godi鈥檙 gwastad ar waith.

Mae Pentre Awel yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth 芒 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, prifysgolion a cholegau gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Coleg Sir G芒r, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae Pentre Awel yn un o鈥檙 cynlluniau adfywio mwyaf o鈥檌 fath yng Nghymru a bydd yn darparu rhaglen sylweddol o fuddion cymunedol ac adfywio economaidd ar draws y sir.

Yn ogystal 芒 dod 芒 llawer o swyddi a chyfleoedd hyfforddiant i鈥檙 ardal, bydd yn darparu cyfleusterau iechyd a hamdden o鈥檙 radd flaenaf i bobl leol. Mae鈥檔 brosiect gwirioneddol drawsnewidiol, a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.

Mae Bouygues UK wedi鈥檌 benodi i ddylunio ac adeiladu Parth Un yn dilyn proses dendro helaeth drwy Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru. Mae gan y contract ffocws allweddol ar werth cymdeithasol er mwyn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant sylweddol ar gyfer pobl leol yn ystod y cam adeiladu.

Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Bouygues UK ym Mhentre Awel:

Roedd yn wych croesawu Mr Davies i safle Pentre Awel a thrafod ein cynlluniau ar gyfer adeiladu鈥檙 datblygiad a sut byddwn ni鈥檔 cydweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 gymuned leol, yn ogystal 芒 Chyngor Sir Caerfyrddin, i greu cynifer o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant 芒 phosibl i bobl yn y rhanbarth.

Roedd ein digwyddiad cwrdd 芒鈥檙 prynwr cyntaf yn llwyddiant ysgubol ac rydym eisoes wedi siarad 芒 llawer o gyflenwyr ac isgontractwyr lleol yngl欧n 芒 sut allen nhw weithio gyda ni ym Mhentre Awel. Rydym bellach yn edrych ymlaen at ddechrau鈥檙 gwaith sylfeini ac yna bwrw ymlaen 芒鈥檙 gwaith adeiladu, gan weithio mewn partneriaeth 芒 chynifer o fusnesau lleol 芒 phosibl.

Mae camau diweddarach y cynllun yn cynnwys gwesty, amrywiaeth o dai cymdeithasol a fforddiadwy, llety byw 芒 chymorth a chartref nyrsio.

Mae Pentre Awel yn un o nifer o brosiectau sy鈥檔 cael eu cyflawni fel rhan o gynlluniau ehangach y cyngor i adfywio Llanelli. Mae鈥檙 prosiect Trawsnewid Tyisha, a arweinir gan dai, yn cynnig cyswllt hanfodol rhwng Pentre Awel a chanol tref Llanelli, ac mae miliynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi ym mhob rhan o鈥檙 ardal i greu cymuned leol ffyniannus a mwy gwydn ac i wella golwg canol y dref i ddenu mwy o ddiddordeb masnachol ac ymwelwyr.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022