Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld 芒 Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Canmolodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, gyfraniad diwylliannol ac economaidd enfawr yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol
Yn ystod y diwrnod yn yr 诺yl, sydd wedi croesawu rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth glasurol ryngwladol dros y blynyddoedd, canmolodd y trefnwyr am eu gwaith caled a鈥檜 hymrwymiad i ddefnyddio鈥檙 诺yl i hyrwyddo Cymru i鈥檙 byd.
Croesawodd yr Arglwydd Bourne hefyd yr ymdrechion sy鈥檔 cael eu gwneud i ehangu ap锚l yr Eisteddfod a denu ymwelwyr o ddinasoedd yng ngogledd orllewin Lloegr.
Yn ogystal 芒 mynd o gwmpas safle鈥檙 诺yl a gweld rhywfaint o鈥檙 adloniant ar y llwyfannau y tu allan, bu鈥檙 Arglwydd Bourne yn gweld perfformiad o 鈥楩el Un鈥� - rhan o Brosiect Cynhwysiant yr Eisteddfod Ryngwladol - a chystadleuaeth C么r Alawon Gwerin y plant. Roedd honno鈥檔 cynnwys cystadleuwyr o Gymru, Lloegr, Awstralia, Trinidad a Thobago, yr Almaen ac Indonesia.
Dywedodd yr Arglwydd Bourne:
Ers saith deg o flynyddoedd, mae Llangollen wedi cynnal un o wyliau cerdd rhyngwladol mwyaf cyffrous ac uchelgeisiol y Deyrnas Unedig. Mae artistiaid fel Carreras, Domingo, Pavarotti a Monserrat Caball茅 i gyd wedi helpu i roi gogledd Cymru ar y map a marchnata ein gwlad i鈥檙 byd.
Rwy鈥檔 falch iawn fod yr Eisteddfod yn parhau i dyfu ac yn gobeithio y bydd bwriad y trefnwyr i ddenu ymwelwyr o ddinasoedd gogledd Lloegr yn helpu i atgyfnerthu鈥檙 cysylltiadau agos rhwng Lerpwl, Manceinion a gogledd Cymru.
Rwy鈥檔 hyderus y bydd digwyddiad eleni yn adeiladu ar enw da鈥檙 Eisteddfod yn rhyngwladol ac y gallwn barhau i鈥檞 defnyddio - a digwyddiadau tebyg - i hyrwyddo Cymru ar draws y byd.
Yn ogystal, ymwelodd yr Arglwydd Bourne 芒 Thraphont Dd诺r Pontcysyllte i gwrdd 芒 Gland诺r Cymru, sef yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, i glywed am eu gwaith rhagorol yn denu twristiaid o bob rhan o鈥檙 byd at ddyfrffyrdd Cymru.