Datganiad i'r wasg

Rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf CDL yn agor, gan annog cymunedau lleol yng Nghymru

Yn ddiweddar, bu鈥檙 Farwnes Randerson yn lansiad rhaglen grantiau bach newydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw yn Nh欧鈥檙 Cyffredin i ddysgu sut gall pobl o Gymru sicrhau cyllid i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Wales Office Minister urges local communities to apply for new fund to mark the First World War Centenary

Mae o leiaf 拢1 miliwn y flwyddyn ar gael gan CDL am chwe blynedd hyd at 2019. Bydd yn darparu grantiau rhwng 拢3,000 a 拢10,000 gan alluogi grwpiau o bob cwr o鈥檙 DU i archwilio, diogelu a rhannu eu treftadaeth o鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf ac ehangu eu dealltwriaeth o effaith y gwrthdaro.

O ganlyniad, bu Barwnes Randerson yn annog cymunedau yng Nghymru i feddwl am ffyrdd i nodi鈥檙 Canmlwyddiant. Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys: *ymchwilio i dreftadaeth leol gan ei nodi a鈥檌 chofnodi; *creu archif neu gasgliad cymunedol; *datblygu dehongliad newydd o dreftadaeth drwy arddangosfeydd, llwybrau, apiau ar gyfer ffonau clyfar, ac ati; *gwaith ymchwil, ysgrifennu a pherfformio deunyddiau creadigol yn seiliedig ar ffynonellau treftadaeth; a *gall y rhaglen newydd hefyd ddarparu cyllid ar gyfer diogelu cofebion rhyfel.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Rwy鈥檔 falch iawn fod Cronfa Dreftadaeth y Loteri鈥檔 sicrhau bod yr arian hwn ar gael i gymunedau lleol. Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith sylweddol ar bobl Cymru, fel sy鈥檔 wir am sawl ardal yn y Deyrnas Unedig. Byddwn yn annog unrhyw un sy鈥檔 dymuno gwybod mwy am yr hyn a ddeilliodd yn sg卯l y Rhyfel Byd Cyntaf neu sy鈥檔 dymuno nodi鈥檙 Canmlwyddiant, i gysylltu 芒 Chronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd Sebastian Faulks CBE, darlledwr, nofelydd, awdur Birdsong ac aelod o gr诺p ymgynghorol y Llywodraeth ar Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf:

Mae rhaglen grantiau bach Rhyfel Byd Cyntaf Cronfa Dreftadaeth y Loetri yn rhoi cyfle i bob stryd, tref neu bentref wneud yn si诺r eu bod yn cofio鈥檙 digwyddiadau trychinebus gan mlynedd yn 么l. Mae鈥檔 gyfle i ddysgu a choffau ym mha bynnag ffordd a fynnant.

Wrth groesawu鈥檙 rhaglen yn ystod y lansiad yn Nh欧鈥檙 Cyffredin, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Maria Miller:

Mae鈥檔 gwbl addas ein bod yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf gyda rhaglen genedlaethol sy鈥檔 cyfleu ein hysbryd cenedlaethol ac sy鈥檔 dweud rhywbeth am bwy ydyn ni fel pobl. Ond hefyd mae angen i鈥檙 hyn a wnawn greu etifeddiaeth ddiwylliannol ac addysgiadol i gymunedau. Bydd y rhaglen grant a gyhoeddwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri heddiw yn chwarae rhan fawr yn hyn, gan adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol sydd eisoes wedi鈥檌 roi tuag at y Canmlwyddiant.

Dywedodd y Fonesig Jenny Abramsky, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri:

Roedd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn bellgyrhaeddol, gan gyffwrdd a llunio pob cornel o鈥檙 DU a thu hwnt. Bydd rhaglen newydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi cymunedau i archwilio鈥檙 hyn a etifeddwyd yn sg卯l y rhyfel hwn, a bydd yn helpu pobl ifanc yn arbennig i ehangu eu dealltwriaeth o sut y mae wedi llunio ein byd modern ni.

Mae CDL eisoes wedi buddsoddi 拢12 miliwn mewn prosiectau 鈥� rhai mawr a bach 鈥� a fydd yn nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Os oes gan gr诺p syniad ar gyfer prosiect i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae pecyn cais ar gael yn http://welsh.hlf.org.uk/HowToApply/programmes/Pages/ddoeaheddiw.aspx. Os oes angen grant o dros 拢10,000 ar gr诺p ar gyfer prosiect Rhyfel Byd Cyntaf, gall wneud cais i CDL drwy ei rhaglenni agored.

Nodiadau i Olygyddion

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Gan ddefnyddio arian a godir drwy鈥檙 Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ceisio sicrhau gwahaniaeth parhaol i dreftadaeth, i bobl ac i gymunedau ledled y DU, gan helpu i adeiladu economi dreftadaeth gref. Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o鈥檔 treftadaeth amrywiol, gan gynnwys amgueddfeydd, parciau a mannau hanesyddol, archaeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol. Mae CDL wedi cefnogi bron i 35,000 o brosiectau gyda dros 拢5.3 biliwn ledled y DU. http://welsh.hlf.org.uk/Pages/Home.aspx.

Dilynwch ni ar twitter @heritagelottery #understandingWW1

Cynlluniau Canmlwyddiant Llywodraeth y DU

Ym mis Hydref 2012, amlinellodd y Prif Weinidog gynlluniau鈥檙 Llywodraeth i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014. Mae鈥檙 cynlluniau hyn yn cynnwys gwario 拢35m ar weddnewid yr orielau Rhyfel Byd Cyntaf yn Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth (IWM); prif bartneriaid y Llywodraeth yn y digwyddiadau coff谩u fydd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth, ond bydd yn cynnwys cefnogaeth i nifer o fentrau eraill hefyd, rhai mawr a bach, wrth iddynt ddod at ei gilydd yn ystod y misoedd a鈥檙 blynyddoedd nesaf.

Wrth siarad yn Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth ym mis Hydref, dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron: 鈥淣i all digwyddiad coff谩u gwirioneddol genedlaethol ymwneud 芒 mentrau cenedlaethol a gweithredu gan y llywodraeth yn unig. Mae angen i hyn fod yn lleol hefyd鈥� Gadewch i ni fynd ati i sicrhau bod y canmlwyddiant hwn yn ddigwyddiad gwirioneddol genedlaethol ym mhob cymuned yn ein gwlad.鈥�

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mai 2013