Gweinidog Swyddfa Cymru: Haul yr haf yn hwb i ddiwydiant twristiaeth Brycheiniog
Gweinidog Swyddfa Cymru, yn gweld sut mae sector twristiaeth a lletygarwch Cymru yn ffynnu ym Mrycheiniog.
Brecon tourism industry
O鈥檌 thirweddau bryniog hardd, i groesawu enwau mawr o鈥檙 byd jazz i鈥檞 g诺yl eclectig flynyddol, bydd y Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn gweld heddiw (9 Awst) sut mae sector twristiaeth a lletygarwch Cymru yn ffynnu ym Mrycheiniog.
Bydd yr ymweliad yn cychwyn yng Nghanolfan Groeso Crucywel, lle bydd yn cael ei thywys o gwmpas y ganolfan gydag AS Brycheiniog a Sir Faesyfed, Roger Williams, a chwrdd 芒 Chlerc y Dref, Jane Johnston, y Cynghorydd Hilary Macaulay a gwirfoddolwyr eraill.
Wedyn, bydd y Farwnes Randerson yn mynd i鈥檙 atyniadau twristiaeth lleol, Fferm Cantref a bythynnod gwyliau Bannau Brycheiniog.
Yn y fferm, bydd y Gweinidog yn cwrdd 芒 staff ac yn gweld yr atyniadau i ymwelwyr sy鈥檔 cynnwys canolfan farchogaeth ac ysgubor anifeiliaid. Yn y bythynnod gwyliau, bydd y Gweinidog yn cwrdd 芒鈥檙 perchennog, Elizabeth Daniels, i glywed am yr heriau y mae鈥檔 eu hwynebu wrth redeg busnes bach ar hyd y flwyddyn yng nghefn gwlad Cymru.
Yr wythnos hon hefyd bydd y digwyddiad cerddorol a threftadaeth blynyddol yn cychwyn sef G诺yl Jazz Aberhonddu. Mae鈥檙 诺yl yn gyfle i dalent jazz newydd o Gymru ddangos eu talent ymysg artistiaid jazz rhyngwladol enwog megis Django Bates, Jools Holland a Courtney Pine.
Bydd y Farwnes Randerson yn ymuno 芒 gwesteion eraill yn nerbyniad G诺yl Jazz Aberhonddu yn Siambr y Cyngor, a mynychu sioe Courtney Pine lle bydd yn cyflwyno House of Legends yn ddiweddarach y noson honno.
Mae gan dwristiaeth a lletygarwch r么l bwysig yn sicrhau twf economaidd i Gymru a鈥檙 DU.
Yn 2012, gwnaeth trigolion y DU 9.6 miliwn o deithiau dros nos i Gymru, ac amcangyfrifir bod y gwariant cysylltiedig yn 拢1,588 miliwn. Yn 2011, daeth 879,000 o ymwelwyr o dramor i Gymru, gan wario 拢328 miliwn.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Er fy mod yn adnabod ardal Brycheiniog yn dda, mae llawer o fannau ac atyniadau nad wyf wedi鈥檜 canfod eto.
Rwy鈥檔 edrych ymlaen at gael cwrdd 芒 swyddogion y diwydiant, a鈥檙 rheini sy鈥檔 rhedeg busnesau bach sy鈥檔 dibynnu ar dwristiaeth, i weld sut mae鈥檙 atyniadau hyn wedi elwa o鈥檙 tywydd bendigedig yr ydym wedi鈥檌 gael yn ddiweddar.
Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at fynychu noson agoriadol G诺yl Jazz Aberhonddu. Mae rhai o enwau enwocaf y byd jazz a llawer o gerddorion jazz gorau鈥檙 byd wedi chwarae yn Aberhonddu. Gobeithio y daw pobl yn eu miloedd i fynychu鈥檙 digwyddiadau a manteisio ar yr amrywiaeth wych o adloniant sydd ar gael.
Yn dilyn llwyddiant Gemau鈥檙 Olympaidd y llynedd, mae Llywodraeth y Du wedi lansio鈥檙 ymgyrch GREAT i farchnata Prydain ar ei gorau, o ran twristiaeth, masnach, creadigrwydd a buddsoddi, i weddill y byd.
Un o鈥檙 heriau pwysig i Gymru yw sicrhau bod mwy o鈥檙 arian sy鈥檔 cael ei wario gan dwristiaid o dramor yn y DU yn dod i Gymru, ac mae鈥檔 hollbwysig bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gyflawni hyn.
Delwedd trwy garedigrwydd Byd Oddy ar Flickr.