Gweinidog Swyddfa Cymru yn gweld cynllun adsefydlu ar waith yng ngharchar Caerdydd
Bu鈥檙 Arglwydd Bourne, sy'n Weinidog yn Swyddfa Cymru, yn ymweld 芒 charchar Caerdydd heddiw i weld sut mae un o garchardai mwyaf Cymru yn paratoi troseddwyr ar gyfer bywyd y tu allan i鈥檙 carchar.

Bu鈥檙 Arglwydd Bourne, sy鈥檔 Weinidog yn Swyddfa Cymru, yn ymweld 芒 charchar Caerdydd heddiw i weld sut mae un o garchardai mwyaf Cymru yn cynnig hyfforddiant a chymorth ailsefydlu i droseddwyr.
Wrth fynd o amgylch y carchar, cafodd gyfle i gyfarfod 芒 staff y carchar a鈥檙 gwasanaeth prawf, yn ogystal 芒 charcharorion, er mwyn trafod sut mae鈥檙 carchar yn paratoi troseddwyr ar gyfer eu rhyddhau i鈥檙 gymuned.
Bu鈥檙 Arglwydd Bourne yn gweld y dderbynfa, yr adain noson gyntaf, yr uned arwahanu, yr adran addysg a鈥檙 gweithdai.
Cafodd ginio ym Mwyty Clink hefyd, lle mae carcharorion yn hyfforddi i fod yn gogyddion ac yn dysgu sut mae gweini, gan ddilyn cymwysterau lletygarwch mewn man gwaith go iawn. Yn ddiweddar, roedd y bwyty ar frig rhestr TripAdvisor o lefydd bwyta yng Nghaerdydd.
Wrth siarad ar 么l yr ymweliad, dywedodd yr Arglwydd Bourne:
Mae ymrwymiad staff carchar Caerdydd wedi creu cryn argraff arnaf. Maen nhw鈥檔 gweithio鈥檔 ddiflino i helpu troseddwyr i weddnewid eu bywydau.
Bydd bron i bob carcharor yng ngharchar Caerdydd yn cael ei ryddhau ryw bryd felly mae鈥檔 hanfodol bod modd iddynt gael yr hyfforddiant a鈥檙 gefnogaeth angenrheidiol i gael swydd a byw bywyd heb droseddu.
Mae safon y bwyd a鈥檙 gwasanaeth ym mwyty Clink yn dangos pam mae鈥檔 un o鈥檙 llefydd mwyaf poblogaidd i fwyta yn y ddinas erbyn hyn. Mae gan y bwyty r么l bwysig yn y gwaith o helpu i ailsefydlu carcharorion o bob rhan o Dde Cymru, ac mae鈥檔 bleser gen i ei gefnogi.