Gweinidog Swyddfa Cymru鈥檔 lansio rhaglen canmlwyddiant
Baroness Jenny Randerson yn mynychu lansiad swyddogol 'Cymru鈥檔 Cofio 鈥� Wales Remembers 1914-1918鈥�
L-R: Baroness Jenny Randerson; John Griffiths AM, Minister for Culture and Sport; Rt Hon Carwyn Jones AM, First Minister of Wales; Rosemary Butler AM, Presiding Officer, National Assembly for Wales; David Melding AM, Deputy Presiding Officer, National Assembly for Wales and Prof Sir Deian Hopkin, Chairman of the Cymru鈥檔 Cofio Wales Remembers 1914-18 programme board.
Bydd canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn gyfle i鈥檙 genedl sylweddoli pam bod cofio鈥檔 bwysig, yn 么l Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, ar drothwy lansio鈥檙 rhaglen 鈥楥ymru鈥檔 Cofio - Wales Remembers 1914-1918鈥� yng Nghaerdydd ddydd Sul (28 Hydref 2013).
Bydd Rhaglen Coffau鈥檙 Rhyfel Mawr yng Nghymru yn ategu鈥檙 gweithgarwch cofio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig sy鈥檔 cael eu trefnu gan Lywodraeth y DU. Gwasanaeth ar gyfer arweinwyr y Gymanwlad a gwylnos olau cannwyll yn Abaty San Steffan ar 3 Awst 2014 fydd dechrau鈥檙 rhaglen genedlaethol bedair blynedd i nodi鈥檙 canmlwyddiant.
Bydd y Farwnes Randerson yn mynychu lansiad swyddogol Cymru鈥檔 Cofio 鈥� Wales Remembers 1914-1918鈥�, yn Amgueddfa鈥檙 Milwr Cymreig yng Nghastell Caerdydd. Datblygwyd y rhaglen gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth 芒 sefydliadau allweddol ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Mae鈥檙 canmlwyddiant yn gyfle unigryw i ddod 芒 phawb at ei gilydd fel cenedl i anrhydeddu bywydau a dewrder pob un a wasanaethodd yn y rhyfel 鈥� yn y fyddin ac yn y ffrynt cartref.
Ein nod yw darparu coff芒d gwirioneddol genedlaethol. Drwy wneud hynny, gallwn osod y sylfeini ar gyfer adeiladu gwaddol diwylliannol ac addysgol, gan osod pobl ifanc ar flaen ac wrth galon ein coff芒d, a sicrhau bod aberth a gwasanaeth can mlynedd yn 么l yn dal i gael eu cofio mewn can mlynedd eto.
Byddwn yn annog cymunedau a phobl o bob oed i ddod at ei gilydd i nodi a chofio bywydau鈥檙 rhai a fu fyw, a ymladdodd ac a fu farw yn y Rhyfel Mawr.
Ychwanegodd Helen Grant, Gweinidog yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sydd 芒 chyfrifoldeb dros raglen y Llywodraeth i nodi Canmlwyddiant y dyddiad pan ymunodd Prydain 芒鈥檙 Rhyfel Mawr:
Mae鈥檔 wirioneddol bwysig ein bod yn dathlu canmlwyddiant y Rhyfel Mawr gyda rhaglen ar hyd a lled y Deyrnas Unedig a鈥檔 bod yn gwneud ein gorau i helpu pobl ifanc, yn enwedig, i wneud synnwyr o鈥檙 hyn a ddigwyddodd, a鈥檙 effaith aruthrol ar y cyfan a ddaeth wedyn.
Mae canmlwyddiant yn nodi鈥檙 adeg pan fydd rhywbeth yn pasio o gof byw i hanes ysgrifenedig, ac mae hi鈥檔 ddyletswydd arnom i sicrhau bod yr aberth eithaf y bu鈥檔 rhaid i gynifer o鈥檔 cyndeidiau diweddar ei gwneud yn cael ei deall a鈥檌 gwerthfawrogi gan bobl ifanc sy鈥檔 tyfu i fyny heddiw.
Yn ogystal 芒 digwyddiadau 4 Awst 2014, nodir pum dyddiad allweddol arall gan Lywodraeth y DU: canmlwyddiant glaniadau Gallipoli, Brwydr Jutland, diwrnod cyntaf Brwydr y Somme, diwrnod cyntaf Passchendaele ac, yn olaf, Diwrnod y Cadoediad.
Yng Nghymru, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol - a gynhelir yn Llanelli y flwyddyn nesaf 鈥� yn llwyfannu digwyddiadau ar thema Canmlwyddiant, gan wahodd pobl o bob rhan o鈥檙 wlad i chwarae eu rhan yn y coff芒d.
I gefnogi rhaglen y canmlwyddiant, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y rhoddir mwy o gefnogaeth i gymunedau lleol sydd eisiau coffau鈥檙 canmlwyddiant mewn ffyrdd cyffrous a chreadigol. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi鈥檙 grantiau cyntaf dan ei rhaglen grantiau bach 鈥榶 Rhyfel Mawr - Bryd Hynny a 鈥橬awr鈥� i gefnogi prosiectau鈥檔 amrywio o adfer a gwella cofebion rhyfel, i greu arddangosfeydd addysgiadol neu berfformiadau theatrig.
Nodiadau i olygyddion:
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu cyllid ar gyfer helpu grwpiau, cymunedau a mudiadau i nodi鈥檙 canmlwyddiant drwy archwilio, gwarchod a rhannu treftadaeth y Rhyfel Mawr - o gofebion, adeiladau a safleoedd i ffotograffau, llythyrau a llenyddiaeth. Mae gwahanol grantiau ar gael yn amrywio o 拢3,000 - 拢100,000 a mwy.
Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys:
- ymchwilio, canfod a chofnodi treftadaeth leol;
- creu archif neu gasgliad cymunedol;
- datblygu dehongliad newydd o dreftadaeth drwy arddangosfeydd, llwybrau, aps ff么n clyfar ayb;
- ymchwilio, ysgrifennu a pherfformio deunydd creadigol yn seiliedig ar ffynonellau treftadaeth;
- gall y rhaglen newydd hefyd gyfrannu nawdd ar gyfer gwarchod cofebion rhyfel.