Yr Arglwydd Bourne: "Mae diwydiant gwledig bywiog sy'n ffynnu yn rhan hanfodol o'n cynllun ar gyfer twf"
Gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, i fynychu diwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru
Mae sector amaethyddol sy鈥檔 ffynnu yng Nghymru yn rhan hanfodol o gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer twf, meddai Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, cyn ei ymweliad 芒 Sioe Frenhinol Cymru.
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio鈥檔 galed i fod yn gefn i鈥檙 diwydiant ffermio ac i dyfu鈥檙 economi yng Nghymru drwy wneud y canlynol:
- Agor marchnadoedd newydd ar gyfer allforion
- Cryfhau r么l dyfarnwr y cod cyflenw
- Annog banciau i helpu ffermwyr yn ystod cyfnodau anodd
- Parhau i bwyso ar yr UE i weithredu ymhellach ar labelu bwyd
- Caniat谩u i ffermwyr ystyried cyfartaledd eu helw dros gyfnod o bum mlynedd yn hytrach na dwy, o fis Ebrill nesaf ymlaen
Bydd yr Arglwydd Bourne, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn ymuno 芒鈥檙 cannoedd ar filoedd o bobl sy鈥檔 heidio i ganolbarth Cymru i Sioe Frenhinol eiconig Cymru i ddathlu amaethyddiaeth a chynnyrch gorau鈥檙 wlad.
Bydd y Gweinidog yn cwrdd ag amrywiaeth o sefydliadau amaethyddol gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i hyrwyddo cyfraniad gwerthfawr y sector at economi Cymru.
Bydd yr Arglwydd Bourne yn mynd i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Llanafair ym Muallt 鈥� cartref parhaol y digwyddiad ers 1963 鈥� ddydd Llun. Ddydd Llun, bydd y Gweinidog, ynghyd ag ymwelwyr o Gymru gyfan, yn cael gweld anifeiliaid gorau Cymru, a detholiad o gynnyrch mwyaf bendigedig y wlad.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Arglwydd Bourne:
Mae diwydiant gwledig bywiog yn rhan hanfodol o鈥檔 cynllun ni ar gyfer twf ac yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth y DU.
Mae Sioe Frenhinol Cymru yn ddigwyddiad allweddol ar galendr y cymunedau ffermio ledled Cymru, a鈥檙 DU hefyd, ac rydw i鈥檔 falch o fod yma ar ddiwrnod agoriadol y sioe eleni.
Bydd y Sioe Amaethyddol yn rhedeg rhwng Dydd Llun 20 a Dydd Iau 23 o Orffennaf. Am rhagor o wybodaeth, .