Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn mwynhau blas ar Ogledd Cymru mewn sioe amaethyddol
Bydd Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb, yn ymuno 芒 mwy na 60,000 o ymwelwyr ar Ynys M么n i ddathlu hufen y Gymru wledig yn Sioe Amaethyddol M么n
Heddiw bydd Mr Bebb yn treulio amser yn mynd o amgylch y sioe ac yn ymweld ag arddangoswyr amrywiol, gan gynnwys Cwmni Caws Glanbia, cigyddion o fri Edwards o Gonwy, a鈥檙 cwmni halen enwog, Halen M么n.
Bydd hefyd yn ymweld 芒 chwmni P诺er Niwclear Horizon, Cymdeithas Dwristiaeth Ynys M么n, Medrwn M么n ac Age Cymru.
Bydd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru鈥檔 cyfarfod Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) ac yn cael clywed am gynigion UAC ar gyfer sut i gael y cyhoedd i brynu cynnyrch ffermydd Prydain pan fo hynny鈥檔 bosib.
Ffermio yw asgwrn cefn economi amaethyddol Cymru, gan gyflogi bron i 60,000 o bobl yn llawn amser neu鈥檔 rhan amser, gydag amcangyfrif o bron i 拢1.5 biliwn o allbwn bob blwyddyn.
Dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru:
Mae鈥檔 braf iawn cael bod yma yng Ngogledd Cymru鈥檔 gweld bwydydd gwych Cymru鈥檔 cael eu harddangos gartref.
Mae hefyd yn bwysig cyfarfod undebau鈥檙 ffermwyr a chynnig sicrwydd yng ngoleuni pleidlais y refferendwm ar aelodaeth o鈥檙 UE. Nawr mae鈥檔 rhaid i ni sicrhau鈥檙 mynediad gorau posib i farchnadoedd Ewrop a dal ati i annog y cyhoedd i brynu cynnyrch lleol pan fo hynny鈥檔 bosib.
Mae amaethyddiaeth a ffermio鈥檔 hanfodol i鈥檔 heconomi a鈥檔 diwylliant ni ac rydw i eisiau i鈥檙 diwydiant wybod ein bod ni鈥檔 gwrando ar beth sy鈥檔 cael ei ddweud a sicrhau bod llais y byd ffermio鈥檔 cael ei glywed yn San Steffan.