Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson yn bresennol yn nigwyddiad lansio 鈥楥ymru yn y Rhyfel'

HMS Enterprise yn cynnal lansiad ymgyrch ddigidol y Rhyfel Byd Cyntaf

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

First World War cemetary

Rhaid i bobl ifanc yng Nghymru gael eu rhoi wrth galon ymdrechion y genedl i goffau鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf os ydym am adeiladu etifeddiaeth ddiwylliannol ac addysgiadol barhaus.

Dyna鈥檙 neges gan Weinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson a fydd yn bresennol yfory (27 Mehefin) yn lansio cynllun 鈥楥ymru yn y Rhyfel鈥� (W@W) 鈥� ymgyrch ddigidol dan arweiniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac sy鈥檔 cael ei hariannu gan Gyfamod y Lluoedd Arfog, Cronfa Treftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru.

Lluniwyd y prosiect i ddatblygu gweithgareddau dysgu ac etifeddiaeth cynhwysol fel rhan o goffau鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Bydd W@W yn creu adnodd digidol sylweddol drwy gyfrwng platfform/ap penodol sy鈥檔 anelu at gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn ymchwil hanesyddol, gan lunio bywgraffiadau o鈥檙 rhai a gollwyd yn y rhyfel ac sydd wedi鈥檜 rhestru ar gofebion rhyfel yn eu cymunedau lleol.

Bydd y Farwnes Randerson yn ymuno 芒 Phrif Arglwydd y Morlys Syr George Zambellas a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn y digwyddiad, a gynhelir ar fwrdd llong arolygu鈥檙 Llynges Frenhinol HMS Enterprise, a fydd wedi angori yng Nghei Britannia ym Mae Caerdydd.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cyflwyno rhaglen bedair blynedd o ddigwyddiadau cenedlaethol i anrhydeddu bywydau, dewrder ac aberth pob un o鈥檙 rhai a wasanaethodd yn y rhyfel.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

Mae鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf yn stori leol yn ogystal ag yn rhan o hanes ein cenedl. Cafodd pob dinas, pob tref a phob pentref eu cyffwrdd ganddo: gan y milwyr fu鈥檔 ymladd, y bobl a arhosodd ar 么l, a鈥檙 busnesau a fu o gymorth gydag ymdrech y rhyfel.

Rwyf yn falch iawn i fod yn rhan o鈥檙 digwyddiad pwysig hwn. Bydd cynllun 鈥楥ymru yn y Rhyfel鈥� yn gwneud cyfraniad pwysig at ein nod o sicrhau y caiff yr aberth eithaf a wnaed gan gynifer o鈥檔 cyndeidiau, ei ddeall a鈥檌 werthfawrogi gan y rhai sy鈥檔 tyfu i fyny heddiw.

Caiff y lansiad ei gynnal y diwrnod cyn chweched Diwrnod y Lluoedd Arfog (28 Mehefin), pryd y bydd cadetiaid ifanc, cyn-filwyr a rhai sy鈥檔 gwasanaethau yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd yn ymgasglu yng Nghae Cowper yng Nghaerdydd i ddathlu llwyddiannau鈥檙 Gwasanaethau drwy鈥檙 degawdau.

Fis nesaf, bydd y Farwnes Randerson yn dwyn cynrychiolwyr o fusnesau ac elusennau sy鈥檔 cefnogi Cymunedau鈥檙 Lluoedd Arfog at ei gilydd mewn digwyddiad yn Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd. Bydd y cyfarfod yn adeiladu ar waith Fforwm Ymgynghorol y Gymdeithas Fawr a鈥檙 nod fydd ceisio barn cymuned y Lluoedd Arfog ar y gefnogaeth bresennol a phosibl ar gyfer cyn-aelodau鈥檙 Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Nodiadau i Olygyddion

Cymru yn y Rhyfel (W@W)

Bydd yr ap Cymru yn y Rhyfel yn cynnwys llinell amser y Rhyfel Byd Cyntaf gyda ffocws penodol Gymreig; elfen Theatrau Rhyfel yn dangos lle y bu milwyr o Gymru鈥檔 ymladd, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol i greu darlun o鈥檜 profiadau a鈥檜 hamodau byw ac adran ar gofebion rhyfel a fydd yn cynnwys manylion cofebion rhyfel ledled Cymru. Bydd y prosiect yn cynnwys pobl ifanc mewn ymchwil hanesyddol, gan lunio bywgraffiadau y rhai a gollodd eu bywydau yn y rhyfel, fel y鈥檜 rhestrwyd ar gofebion rhyfel yn eu cymuned leol.

Cynlluniau Llywodraeth y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Ym mis Hydref 2012, amlinellodd y Prif Weinidog gynlluniau鈥檙 Llywodraeth i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014. Mae鈥檙 cynlluniau hyn yn cynnwys gwario 拢35m ar weddnewid yr orielau Rhyfel Byd Cyntaf yn Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth (IWM); prif bartneriaid y Llywodraeth yn y digwyddiadau coff谩u fydd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth, ond bydd yn cynnwys cefnogaeth i nifer o fentrau eraill hefyd, rhai mawr a bach, wrth iddynt ddod at ei gilydd yn ystod y misoedd a鈥檙 blynyddoedd nesaf.

Mae鈥檙 rhaglen yn dechrau gyda digwyddiadau鈥檔 nodi canmlwyddiant cyhoeddi鈥檙 rhyfel ar 4 Awst:

  • Bydd y Diwrnod yn dechrau gyda gwasanaeth o goffadwriaeth genedlaethol yn Eglwys Gadeiriol Glasgow, yn canolbwyntio ar gyfraniad y Gymanwlad i鈥檙 rhyfel
  • Fin nos cynhelir digwyddiad yn canolbwyntio ar thema cymodi ym Mynwent Filwrol St Symphorien yng Ngwlad Belg.
  • Am 11pm, i nodi鈥檙 munud y cyhoeddwyd y rhyfel, bydd Abaty Westminster yn arwain Gwylnos genedlaethol yng ngolau cannwyll gan ysbrydoli cymunedau ledled Prydain Fawr i droi鈥檜 goleuadau i ffwrdd 鈥� ac eithrio un ffynhonnell golau fel symbol o oleuni gobaith a gwydnwch a fu鈥檔 fodd i gynnal y wlad drwy鈥檙 4 blynedd dilynol

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu cyllid i gynorthwyo grwpiau, cymunedau a sefydliadau i nodi鈥檙 canmlwyddiant drwy archwilio, gwarchod a rhannu treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf o gofebion, adeiladau a safleoedd i ffotograffau, llythyrau a llenyddiaeth. Mae amrywiaeth o grantiau ar gael o 拢3,000 - 拢1000,000 ac uwch.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys:

  • ymchwilio i dreftadaeth leol gan ei nodi a鈥檌 chofnodi;
  • creu archif neu gasgliad cymunedol;
  • datblygu dehongliad newydd o dreftadaeth drwy arddangosfeydd, llwybrau, apiau ar gyfer ffonau clyfar, ac ati;
  • gwaith ymchwil, ysgrifennu a pherfformio deunyddiau creadigol yn seiliedig ar ffynonellau treftadaeth; a
  • gall y rhaglen newydd hefyd ddarparu cyllid ar gyfer diogelu cofebion rhyfel.

HMS Enterprise

Mae HMS Enterprise yn llong arolygu dosbarth Echo, a lansiwyd yn 2003. Mae鈥檔 llong cadw golwg drwy gylchdroi a chanddi griw o 75 o ddynion a merched gyda 50 ar ei bwrdd ar unrhyw un adeg. Lluniwyd y dosbarth hwn o longau rhyfel yn bennaf ar gyfer casglu data milwrol, gan fwyaf drwy ddefnyddio sonar aml-belydrau, gan ddarparu amddiffyniad gyda gallu i gasglu data milwrol organig yn gyflym ar gyfer casglu gwybodaeth geo-ofodol. Mae wedi鈥檌 harfogi 芒 dau ganon 20mm, 2 wn mini Mk44 a 4 Gwn Peiriant at amrywiol ddibenion.

Wedi treulio鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 chwe mis diwethaf yn ymdrin 芒 senarios rhyfel a difrod ffug yn FOST (Flag Officer Sea Training) yn Devonport, neu mewn cyfnod cynnal a chadw prysur yn Falmouth, mae criw鈥檙 Llong yn awyddus i roi eu sgiliau ar waith yn dilyn yr ymweliad 芒 Chaerdydd.

Bydd y llong yn hwylio o Gei Britannia ddydd Sadwrn 28 Mehefin am 1800.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Mehefin 2014