Y gwaith o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Ne Cymru yn parhau, gan wneud i waith dalu i ragor o bobl sy鈥檔 chwilio am waith
Y chwyldro lles yn parhau yng Nghymru

Bydd ceiswyr gwaith newydd yn ne Cymru鈥檔 gallu hawlio Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf y mis hwn wrth i鈥檙 budd-dal newydd barhau i gael ei gyflwyno ledled Cymru.
O heddiw (22 Mehefin) ymlaen, bydd hawlwyr unigol yng Nghasnewydd yn gallu hawlio鈥檙 budd-dal a chael y cymorth sydd ei angen arnynt i symud i fyd gwaith.
Ar 29 Mehefin, bydd Canolfannau Byd Gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Y P卯l a Phorthcawl yn ymuno 芒鈥檙 cynllun. Mae Credyd Cynhwysol yn newid sylweddol i鈥檙 system lles, sy鈥檔 cynnwys chwe budd-dal oed gweithio mewn un taliad. Mae鈥檔 newid hanfodol i鈥檙 wladwriaeth les ac mae鈥檔 gwobrwyo gwaith.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Nod ein cynlluniau i ddiwygio lles yw creu system decach lle mae pobl bob amser yn well eu byd pan fyddant yn gweithio yn hytrach nag ar fudd-daliadau.
Am rhy hir o鈥檙 hanner, mae dibyniaeth ar fudd-daliadau lles wedi bod yn broblem mewn nifer o gymunedau yng Nghymru. Ond mae hynny鈥檔 newid. Mae Credyd Cynhwysol yn rhoi鈥檙 hyder i bobl symud yn rhwydd o fudd-daliadau i fyd gwaith, ar hyd a lled y DU.
Rwyf wrth fy modd bod Credyd Cynhwysol nawr yn cael ei gyflwyno mewn rhagor o leoliadau ledled De Cymru, er mwyn gallu cefnogi hyd yn oed mwy o bobl i gefnu ar ddibyniaeth ar fudd-daliadau lles ac elwa o sicrwydd cyflog rheolaidd.
Bydd Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-dal yn y diwedd 鈥� Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant a Budd-dal Tai.
Pan fydd Credyd Cynhwysol wedi ei gyflwyno鈥檔 llawn, bydd 3 miliwn o gartrefi ar eu hennill, a bydd yn rhoi hwb o 拢7 biliwn i鈥檙 economi bob blwyddyn.