Baneri鈥檙 Undeb nawr yn ymddangos ar drwyddedau gyrru Prydeinig
O ddydd Llun (6 Gorffennaf 2015), bydd pob trwydded cerdyn-llun a gyhoeddir yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban yn dangos Baner yr Undeb ochr yn ochr 芒鈥檙 Faner yr Undeb Ewropeaidd bresennol.

Meddai鈥檙 Gweinidog Trafnidiaeth yr Arglwydd Ahmad o Wimbledon:
Mae ein baner yn cael ei hadnabod a鈥檌 pharchu ledled y byd ac yn rhywbeth y bydd pobl Prydain yn falch ohoni. Rwy鈥檔 falch iawn o鈥檌 gweld yn ymddangos ar drwyddedau gyrru.
Rydym yn uno鈥檙 wlad gyfan wrth wneud hyn. Mae ychwanegu ein baner genedlaethol ar drwyddedau gyrru Prydeinig yn wir ddathliad o Brydain fel un genedl.
Mae baner yr Undeb Ewropeaidd wedi bod ar drwyddedau gyrru llawn ers i drwyddedau cerdyn-llun ddod i rym gyntaf ym mis Gorffennaf 1998. Mae mwy na 132 miliwn o drwyddedau cerdyn-llun wedi eu cyhoeddi ers iddynt ddod i rym. Llynedd yn unig, cyhoeddodd DVLA fwy na 10.4 miliwn o drwyddedau.
Nodiadau i olygyddion
- Bydd Baner yr Undeb yn ymddangos ar bob trwydded yrru a gyhoeddir i fodurwyr yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban. Nid yw鈥檙 newidiadau yn berthnasol i fodurwyr yng Ngogledd Iwerddon gan fod trwyddedu gyrwyr yn fater datganoledig yng Ngogledd Iwerddon.
- Bydd y newidiadau yn ymddangos ar bob trwydded newydd a鈥檙 rhai a gyfnewidir a gyhoeddir i yrwyr Prydain Fawr o 6 Gorffennaf. Bydd trwyddedau sydd mewn cylchrediad eisoes cyn y dyddiad hwnnw yn parhau鈥檔 ddilys ac ni fyddant yn cael eu galw鈥檔 么l.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407