Datganiad i'r wasg

Adolygiad Cysylltedd yr Undeb yn argymell gweddnewidiadau sylweddol i gysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru

Gwell cysylltiadau ar rwydweithiau trafnidiaeth lleol a chenedlaethol i ddod 芒 chymunedau Cymru o fewn cyrhaeddiad agosach i gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
  • Y Prif Weinidog yn pwysleisio pwysigrwydd gwella cysylltiadau rhwng Cymru a gweddill y DU, wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb annibynnol Syr Peter Hendy
  • Mae Syr Peter Hendy yn argymell datblygu pecyn o welliannau i鈥檙 rheilffordd a鈥檙 ffyrdd rhwng Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr
  • Mae鈥檙 Prif Weinidog yn gwahodd Llywodraeth Cymru i weithio ar y cyd 芒 Llywodraeth y DU ar brosiectau fydd yn sicrhau gwelliannau hanfodol i gysylltiadau lleol a chenedlaethol.

Heddiw (dydd Gwener 26 Tachwedd), mae鈥檙 Prif Weinidog Boris Johnson wedi ymrwymo i fwrw ymlaen a chryfhau clymau trafnidiaeth fydd yn creu DU mwy cydlynol, bywiog a chyfartal.

Wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi adroddiad terfynol Syr Peter Hendy ar Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb, mae鈥檙 Prif Weinidog wedi pwysleisio pwysigrwydd gwell cysylltiadau - ar rwydweithiau lleol a chenedlaethol, i allu dwyn holl gymunedau鈥檙 DU yn agosach at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd.

Mae鈥檙 Prif Weinidog wedi croesawu yn arbennig, ac yn bwriadu derbyn yr argymhelliad ar gyfer UKNET - rhwydwaith trafnidiaeth strategol sy鈥檔 rhychwantu鈥檙 DU i gyd - ac mae wedi ymrwymo cyllid o 拢42.5miliwn i ddechrau鈥檙 gwaith o wella鈥檙 rhwydwaith..

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson:

Mae鈥檔 rhaid i ni gryfhau鈥檙 cysylltiadau rheilffordd a ffyrdd ledled Cymru os ydym am lefelu i fyny鈥檙 DU yn wirioneddol, gan wella cysylltedd trefi a dinasoedd Cymru a dod 芒 chymunedau鈥檔 agosach at ei gilydd.

Byddwn nawr yn myfyrio ar adolygiad Syr Peter Hendy, a thrwy weithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru, rhoi hwb i gysylltiadau trafnidiaeth allweddol a fydd yn darparu ar gyfer pobl a busnesau Cymru ac yn dosbarthu cyfleoedd a ffyniant yn fwy cyfartal.

Dywedodd Grant Shapps yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth:

Mae cysylltiadau trafnidiaeth modern a chyflym rhwng Cymru a Lloegr yn hanfodol nid yn unig ar gyfer twf economaidd a lledaenu cyfleoedd ledled y ddwy genedl wych hon, ond byddant yn cryfhau鈥檙 hyn sy鈥檔 clymu ein cymunedau at ei gilydd ac yn sicrhau bod ein buddsoddiad yn gweithio er lles pawb, a bydd yn creu Teyrnas Unedig fwy deinamig ac uchelgeisiol.

Mae fy nyled yn fawr i Syr Peter am ei waith. Byddwn yn ystyried ei argymhellion yn ofalus, yn ymgysylltu 芒 Llywodraeth Cymru ac yn gweithio鈥檔 golegol i ofalu bod yr argymhellion hyn yn sicrhau gwelliannau sylweddol, yn awr ac ar gyfer y dyfodol.

Amlygodd gwaith ymchwil a wnaed ar gyfer yr adroddiad pa mor bwysig yw teithio dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gyda llawer o bobl yn teithio鈥檔 ddyddiol ar gyfer gwaith, i gael mynediad at wasanaethau ac am resymau hamdden. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth yn y rhanbarth hwn yn parhau i wasanaethu pawb sydd eu hangen.

Mae argymhellion Syr Peter Hendy ar gyfer Cymru yn cynnwys Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adolygu鈥檙 ffordd sy鈥檔 cysylltu Gogledd Cymru 芒 Gogledd Orllewin Lloegr, sy鈥檔 allweddol ar gyfer cymunedau a busnesau. Mae ef yn awgrymu y dylai pecyn o welliannau sy鈥檔 canolbwyntio ar y ffordd hon ganolbwyntio ar gysylltedd gwell rhwng HS2 a chynlluniau trydaneiddio pwysig, uwchraddio鈥檙 A55, yr M53, M56, a gwella鈥檙 daith ymlaen i Iwerddon ac yn 么l o Iwerddon, mewn hwb anferth i sicrhau cysylltedd yn yr Undeb.

Hefyd, mae Syr Peter Hendy wedi cynghori Llywodraeth y DU i gefnogi mesurau i leihau tagfeydd ar yr M4 a darparu gwelliannau wedi鈥檜 targedu ar gyffordd y M4/M5. Hefyd, mae ef yn argymell uwchraddio ac adeiladu gorsafoedd newydd ar Brif Lein Reilffordd De Cymru. Byddai hyn yn weddnewidiad sylweddol i isadeiledd trafnidiaeth De Cymru.

Mae ef hefyd yn argymell bod Llywodraeth y DU yn datblygu pecyn o welliannau rheilffordd i wella cysylltedd a lleihau amseroedd siwrneiau rhwng Caerdydd, Birmingham a thu hwnt. Gallai hyn gynnwys gwell cerbydau, newidiadau i鈥檙 amserlenni a gwell isadeiledd.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Mae gwella isadeiledd ffyrdd, rheilffyrdd a chludiant arall i sicrhau eu bod yn addas at y dyfodol, yn hanfodol i dwf economaidd ledled Cymru. Mae miloedd o bobl yn teithio鈥檔 ddyddiol rhwng Cymru a Lloegr felly mae鈥檔 hanfodol ein bod yn cysylltu ein cymunedau yn well ac yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer busnesau a theithwyr.

Mae cyflymu gwasanaethau rheilffordd, uwchraddio鈥檙 ffyrdd a hybu cysylltedd oll yn ffurfio rhan o鈥檔 cynlluniau i lefelu cymunedau er gwell, cryfhau鈥檙 DU a hyrwyddo creu swyddi newydd ym mhob rhan o Gymru a鈥檙 DU.

Dywedodd Syr Peter Hendy, Cadeirydd Annibynnol yr Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb:

Mae fy argymhellion yn cynnwys cynlluniau cynhwysfawr, cyraeddadwy ac eglur i gysylltu鈥檙 holl DU yn well, fydd yn arwain at fwy o dwf, swyddi, tai a chydlyniant cymdeithasol.

Rwy鈥檔 croesawu brwdfrydedd y Prif Weinidog a鈥檙 Llywodraeth dros fy adroddiad terfynol ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld eu hymateb ffurfiol i鈥檓 hargymhellion. Y nod yw lledaenu cyfleoedd a sicrhau ffyniant ledled y DU.

Lansiwyd yr Adolygiad annibynnol o Gysylltedd yr Undeb ym mis Hydref 2020, dan arweiniad Syr Peter Hendy CBE, i ganfod sut gall adolygiad manwl ar safon ac argaeledd isadeiledd trafnidiaeth ledled y DU gefnogi twf economaidd a safon byw. Bu i Syr Peter gydweithredu gyda rhanddeiliaid ledled y DU, gan gynnwys Cymru ar gyfer llunio鈥檙 Adolygiad Terfynol.

Ymhlith yr argymhellion cenedlaethol a gyhoeddwyd heddiw y mae:

  • Dylai Llywodraeth y DU gynllunio a gweithredu UKNET 鈥� rhwydwaith trafnidiaeth strategol ar gyfer yr holl DU ac ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol i wella鈥檙 rhwydwaith, yn arbennig y rhannau nad ydynt yn perfformio鈥檔 dda, gydag ymrwymiadau cyllid yn cael eu targedu at rannau o鈥檙 rhwydwaith sydd angen eu gwella fwyaf;
  • Dylai Llywodraeth y DU gynllunio gwelliannau i鈥檙 rhwydwaith gan ddefnyddio coridorau aml-foddol y dylid eu hadolygu a鈥檜 harfarnu yn rheolaidd ar sail economaidd ehangach i gefnogi amcanion y llywodraeth fel canmol eu gallu i gefnogi鈥檙 agenda lefelu er gwell, a net sero;
  • Dylai Llywodraeth y DU gefnogi datblygiad adeiladau tanwydd awyrennau mwy cynaliadwy yn rhannau o鈥檙 DU sy鈥檔 arbennig o ddibynnol ar awyrennau er sicrhau cysylltedd domestig o fewn y DU.

Bydd Llywodraeth y DU nawr yn ystyried Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb yn ofalus. Hefyd, gwahoddwyd Llywodraeth Cymru i weithio鈥檔 agos ar hyn i ganfod yr atebion fydd yn gweithio orau dros y Cymry a gweddill y DU a gwneud cynnydd gwirioneddol a phwrpasol cyn gynted 芒 phosibl.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2021