UKRI yn lansio yng Nghymru
Symud arloesi yng Nghymru o ddarganfod i fasnacheiddio

Innovation
Mae defnyddio treftadaeth ymchwil ac arloesi gyfoethog Cymru yn hanfodol i鈥檔 llwyddiant masnachu byd-eang yn y dyfodol - dyma fydd yr alwad glir gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn lansiad Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig (UKRI) yng Nghymru heddiw (dydd Iau 29 Tachwedd).
Bydd prif weithredwr UKRI, yr Athro Syr Mark Walport, yn ymuno 芒鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn y digwyddiad yn Techniquest yng Nghaerdydd i gyflwyno鈥檙 sefydliad newydd i Gymru, ac i danlinellu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi ymchwil ac arloesi blaenllaw yng Nghymru.
Mae defnyddio鈥檙 dirwedd ymchwil a datblygu amrywiol ac uchelgeisiol yng Nghymru yn hanfodol i lwyddiant UKRI. O droi adeiladau yn orsafoedd p诺er cynaliadwy a cherbydau sy鈥檔 rhedeg ar danwydd plastigion, i feddyginiaeth clefyd Alzheimer o gennin Pedr a chanolfan geneteg a genomeg sy鈥檔 taclo iechyd y Deyrnas Unedig, mae ehangder a dyfnder y gwaith arloesol yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig o ran tanio llwyddiant y Deyrnas Unedig ar lwyfan y byd.
Cynhelir y digwyddiad lansio yn yr wythnos sy鈥檔 arwain at flwyddyn ers cyhoeddi Strategaeth Ddiwydiannol fodern Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig (UKRI) yn chwarae rhan ganolog yn y strategaeth, gan ddarparu llais unedig a chryfach i ymchwilwyr ac arloeswyr yn y Deyrnas Unedig, gan weithio鈥檔 agos gyda phartneriaid yn y byd academaidd, busnesau a鈥檙 llywodraeth i gynhyrchu鈥檙 syniadau a鈥檙 cyfleoedd mwyaf cyffrous, a symud ymlaen o ddarganfod i fasnacheiddio.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ar draws Cymru gyfan, mae cyllid ymchwil gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain at ganlyniadau anhygoel sy鈥檔 ein helpu i ddeall y byd yn well, yn ogystal 芒 chreu鈥檙 technolegau a datblygiadau arloesol sy鈥檔 arwain at newidiadau mawr yn y maes.
Ond mae angen i bawb ohonom wneud mwy os ydym am gefnogi鈥檙 broses o drawsnewid Cymru i fod yn ffynnon arloesi a all ddyfrio economi Prydain gyfan. Dyma lle mae UKRI yn barod i gefnogi. Mae鈥檔 rhaid i Gymru fanteisio ar y pwerdy newydd hwn sy鈥檔 cefnogi arloesi ym Mhrydain, a chydweithio 芒鈥檔 prifysgolion a Llywodraeth Cymru i ysgogi partneriaethau rhwng y meddyliau gorau ym meysydd ymchwil a busnes, a helpu i roi Cymru a鈥檙 Deyrnas Unedig ar flaen y gad yn niwydiannau鈥檙 dyfodol.
Ffurfiwyd Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig ar 1 Ebrill 2018 drwy ddod 芒 saith Cyngor Ymchwil, Innovate UK a Research England ynghyd. Dyma鈥檙 corff fydd yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fuddsoddi 拢7 biliwn mewn cyllid cyhoeddus newydd ar gyfer gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi. Bydd hefyd yn anelu at y nod o sicrhau bydd buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn cynrychioli 2.4% o鈥檙 Cynnyrch Domestig Gros erbyn 2027 - mwy nag erioed o鈥檙 blaen.
Mae buddsoddiadau UKRI yng Nghymru yn cynnwys:
- 264 o grantiau ymchwil gweithredol sy鈥檔 werth dros 拢187 miliwn
- Cyllido 351 o gwmn茂au, gyda 261 o grantiau gweithredol sy鈥檔 werth 拢98 miliwn
- Cefnogi mwy na 860 o ymchwilwyr ledled UKRI
Mae rhai enghreifftiau o鈥檙 arloesi cyffrous sy鈥檔 digwydd yng Nghymru gyda chymorth UKRI yn cynnwys:
Adeiladau fel gorsafoedd p诺er
Nod y Ganolfan Adeiladu Actif (ABC) newydd ym Mhrifysgol Abertawe yw cael gwared ar rwystrau a chyflymu鈥檙 broses o fabwysiadu dulliau dylunio newydd ar gyfer adeiladau sy鈥檔 defnyddio ynni鈥檙 haul.
Mae鈥檙 Ganolfan yn adeiladu ar lwyddiannau鈥檙 Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC), sydd hefyd wedi ei lleoli yn Abertawe. Mae hwn yn brosiect arloesol i droi adeiladau yn orsafoedd p诺er, gan ddod 芒 manteision amgylcheddol ac economaidd sylweddol. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi buddsoddi dros 拢150miliwn mewn ymchwil a datblygu ym Mhrifysgol Abertawe ers 2010.
Darganfod tonnau disgyrchiant yn agor meysydd gwyddoniaeth cwbl newydd
Yn 2016 cyhoeddodd y gydweithfa wyddoniaeth ryngwladol, Laser Interferometer Gravitational Wave Observatory (LIGO), eu bod wedi canfod tonnau disgyrchiant uniongyrchol am y tro cyntaf. Dyma鈥檙 elfen fawr olaf heb ei chadarnhau yn theori perthnasedd Einstein. Dyfarnwyd Gwobr Nobel Ffiseg 2017 am y gwaith, gyda鈥檙 Deyrnas Unedig (gan gynnwys Prifysgol Caerdydd) yn chwarae rhan allweddol yn y datblygiadau technolegol a chyfrifiadurol a alluogodd y datblygiad.
Dilynwyd hyn ym mis Hydref 2017 gan y cyhoeddiad bod gwrthdrawiad seren niwtron wedi cael ei ganfod. Gwelwyd y dilyniannau hefyd gan delesgopau yn y gofod ac ar y ddaear - y canfyddiad cyntaf o donnau disgyrchiant ac ymbelydredd electromagnetig.
Niwrowyddoniaeth ymddygiadol yn gwella prosesau gwneud penderfyniadau diffoddwyr t芒n
Datblygwyd rhestr wirio feddyliol gyflym gan niwrowyddonwyr ymddygiadol i sicrhau bod diffoddwyr t芒n yn gwneud y penderfyniadau gorau wrth weithio.
Roedd yr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn tanategu newidiadau a wnaed i鈥檙 canllawiau cenedlaethol a roddwyd i Reolwyr Digwyddiadau yng Ngwasanaethau T芒n ac Achub y Deyrnas Unedig. Mae鈥檙 broses rheoli penderfyniadau newydd hefyd wedi ymgorffori gweithdrefnau a ddefnyddir pan fydd gwasanaethau brys yn y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd i fynd i鈥檙 afael 芒 digwyddiadau cymhleth mawr.
Dechreuodd Dr Sabrina Cohen-Hatton, sy鈥檔 Ddirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol gyda Brig芒d D芒n Llundain erbyn hyn, ei hymchwil wrth weithio i Wasanaeth T芒n De Cymru yng Nghaerdydd. Roedd ei hastudiaeth gyda鈥檙 Ysgol Seicoleg yn dangos bod rheolwyr yn aml yn dibynnu ar reddf dan bwysau, pa un ai a oedd sefyllfa鈥檔 gymhleth ynteu鈥檔 arferol.
Cennin Pedr o Gymru鈥檔 darparu meddyginiaeth Alzheimer
Datblygwyd meddyginiaeth Alzheimer gynaliadwy o gennin Pedr a dyfir ar y Mynydd Du yng Nghymru. Mae Agroceutical Products, a sefydlwyd gan y dyn busnes Kevin Stephens o Gymru, yn cynhyrchu symiau cynaliadwy o Galanthamin o darddiad naturiol. Math o alcaloid yw hwn (aelod o gr诺p mawr o gemegau a wneir gan blanhigion sydd 芒 nitrogen ynddynt) sydd, o鈥檌 ynysu, yn gallu trin dementia fasgwlar a chlefyd Alzheimer yn effeithiol yn 么l tystiolaeth arbrofion. Mae鈥檔 gweithio drwy atal ensym sy鈥檔 arwain at y nam gwybyddol a geir yng nghyrff cleifion Alzheimer.
Fodd bynnag, mae鈥檔 anodd creu galanthamin naturiol oherwydd yr anawsterau wrth drin blodau sy鈥檔 cynhyrchu digon o鈥檙 alcaloid. Mae hyn wedi arwain at gyflenwad byd-eang sydd bron yn gyfan gwbl synthetig - ac mae鈥檙 cyflenwad hwnnw yn arwain at sgil effeithiau cysylltiedig. Gallai鈥檙 ateb fod ym meddiant Agroceutical Products, sy鈥檔 prosesu galanthamin o gennin Pedr a dyfir ar fferm teulu Kevin yn Y Clas-ar-Wy ym Mhowys.
Ymestyn bywyd batri car trydan 50%
Mae cwmni Deregallera o Gaerffili yn datblygu system storio ynni hybrid newydd i ymestyn bywyd batris cerbydau trydan 50%. Cyllidir y prosiect drwy鈥檙 her batri Faraday, sy鈥檔 rhan o Gronfa鈥檙 Her Strategaeth Ddiwydiannol.
Gwaith colagen slefrod m么r cynaliadwy
Mae Jellagen, busnes biodechnolegau morol o Gymru, ar fin cynyddu gwerthiant ei gynhyrchion cenhedlaeth nesaf colagen slefrod m么r ar 么l denu 拢3.8 miliwn gan fuddsoddwyr. Y cwmni hwn yw鈥檙 gwneuthurwr masnachol cyntaf o golagen slefrod m么r ar gyfer meithrin celloedd a chymwysiadau meddygol, gan gynnwys gofal clwyfau a meddygaeth adfywiol. Wedi ei sefydlu yn 2017 gyda chymorth Innovate UK, sy鈥檔 rhan o UKRI, mae鈥檙 cyfleuster 7,500 troedfedd sgw芒r yn gwasanaethu鈥檙 marchnadoedd ymchwil, meddygol, biotechnolegol a fferyllol.
Colagen yw鈥檙 protein mwyaf cyffredin yn y corff dynol ac mae鈥檔 darparu cymorth strwythurol ar gyfer celloedd ym meinweoedd ac organau鈥檙 corff. Mae wedi cael ei ddefnyddio mewn dyfeisiau meddygol a chymwysiadau ymchwil ers blynyddoedd lawer. Fel arfer mae鈥檔 dod o wartheg, moch, llygod a cheffylau.
Clystyrau Creadigol
Bydd cydweithrediad rhwng y llywodraeth, prifysgolion, holl ddarlledwyr blaenllaw Cymru a mwy na 60 o fusnesau鈥檙 diwydiant sgrin yn rhoi cyfle i ymchwilwyr weithio ar ffyrdd o helpu鈥檙 diwydiant ffilm a theledu, sydd eisoes yn ffynnu yn Ne Cymru, i gyrraedd ei botensial llawn.
Mae鈥檙 Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol, sy鈥檔 rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn fuddsoddiad gwerth 拢80 miliwn mewn cydweithredu rhwng diwydiannau a phrifysgolion creadigol ledled y Deyrnas Unedig sy鈥檔 enwog yn fyd-eang.
Niwrowyddoniaeth blaenllaw鈥檙 byd
Mae gwyddonwyr wedi darganfod 50 o ranbarthau genynnau newydd sy鈥檔 cynyddu鈥檙 risg o ddatblygu sgitsoffrenia. Maen nhw hefyd wedi defnyddio gwybodaeth o鈥檙 radd flaenaf am ddatblygiad yr ymennydd i ddynodi鈥檔 fanwl gywir y genynnau newydd a llwybrau biolegol sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 anhwylder hwn.
Yn yr astudiaeth fwyaf o鈥檌 fath, bu ymchwilwyr yng Nghanolfan Cyngor Ymchwil Meddygol UKRI ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i ddata genetig mewn 100,000 o unigolion, gan gynnwys 40,000 o bobl 芒 diagnosis o sgitsoffrenia. Canfuwyd fod rhai o鈥檙 genynnau a nodwyd fel risg gynyddol o ddatblygu sgitsoffrenia wedi bod yn gysylltiedig yn flaenorol ag anhwylderau niwro-ddatblygiadol eraill, gan gynnwys anhwylderau anabledd deallusol ac awtistiaeth.
Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni
Bydd y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni yn Abertawe yn defnyddio cryfderau presennol y brifysgol yn y sector ynni i ganolbwyntio鈥檔 benodol ar Ymchwil Diogelwch. Gyda chymorth Research England, sy鈥檔 rhan o UKRI, bydd y sefydliad yn cael ei ddatblygu ar y Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi sy鈥檔 agored i鈥檙 diwydiant, ac sy鈥檔 cael ei noddi gan y Coleg Peirianneg. Bydd natur ei ymchwil yn defnyddio cryfderau hirdymor mewn prosesu petrolewm a chemegau, yn enwedig gwyddoniaeth gyfrifiadurol (modelu torri creigiau a 鈥榝fracio鈥�) a chyrydu.
Bydd y ganolfan yn cyfuno hyn 芒 galluoedd mwy diweddar, gan gynnwys: ynni morol, ynni niwclear, ynni鈥檙 llanw, triniaeth d诺r datblygedig (么l-driniaeth a gwahanu yn sgil 鈥榝fracio鈥�), deunyddiau, rheoli argyfyngau, a meysydd mwy newydd fel elfennau Ffotofoltaidd (PV) a Nanotechnoleg.
Bydd y prosiect yn cynnwys dylunio ac adeiladu adeilad newydd yn mesur 3500m2. Bydd hwn yn cael ei gynllunio i ddatblygu ansawdd a graddfa ymdrechion ymchwil y brifysgol yn y maes hwn. Bydd y sylw i ddiogelwch yn edrych ar ddatblygu ac ehangu prosesau ynni sy鈥檔 bodoli鈥檔 barod, a defnyddio ac integreiddio technolegau ynni 鈥榞wyrdd鈥� newydd yn ddiogel. Mae鈥檙 cyfuniad o ymchwil i ynni a chanolbwyntio ar ddiogelwch yn adlewyrchu cryfderau ymchwil y brifysgol, a safle arwyddocaol Cymru ym marchnad ynni鈥檙 Deyrnas Unedig.