Llywodraeth y DU yn croesawu adroddiad ar ddyfodol datganoli yng Nghymru
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn derbyn adroddiad Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
Welsh Secretary is presented with Silk Part II by Paul Silk
Heddiw (3 Mawrth 2014), fe wnaeth Llywodraeth y DU groesawu cyhoeddi adroddiad gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (鈥楥omisiwn Silk鈥�) sy鈥檔 cyflwyno argymhellion clir ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru.
Mae鈥檙 adroddiad wedi archwilio pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn cynnig 61 o argymhellion ar gyfer newidiadau i鈥檙 setliad datganoli presennol.
Mae cyhoeddi adroddiad Rhan II heddiw yn dirwyn gwaith y Comisiwn Silk i ben. Sefydlwyd y Comisiwn Silk gan Swyddfa Cymru yn 2011 i adolygu鈥檙 trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr argymhellion a鈥檜 goblygiadau yn llawn.
Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron:
Rwy鈥檔 falch o record y Llywodraeth hon o ran cyflawni dros Gymru a chyflawni datganoli pellach. Bydd y pwerau treth a benthyca rydym yn eu datganoli yn rhoi dulliau ychwanegol i Gynulliad Cymru a Llywodraeth Cymru helpu i greu twf economaidd ac mae鈥檙 adroddiad heddiw yn gwneud argymhellion sy鈥檔 cynnig llwybr newydd ar gyfer y dyfodol.
Gwn y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a chydweithwyr ar draws y Llywodraeth, yn ystyried pob un o鈥檙 argymhellion yn ofalus.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg:
Un o鈥檓 prif flaenoriaethau yw sicrhau bod p诺er yn cael ei ddatganoli o San Steffan. Dyma un o gyflawniadau mwyaf clodwiw鈥檙 Glymblaid, ac mae鈥檔 hanfodol os ydym am barhau i adeiladu economi gref mewn cymdeithas deg yng Nghymru.
Mae Paul Silk a鈥檙 Comisiwn yn haeddu diolch a llongyfarchiadau gan Gymru a gweddill y DU am y gwaith difrifol a phwysig y maent wedi鈥檌 wneud. Rydym wedi bod yn ddiamwys o ran ein parodrwydd i roi鈥檙 set gyntaf o argymhellion ar waith, fel y dangoswyd gan Fil Drafft Cymru y craffwyd arno鈥檔 ddiweddar.
Gallai鈥檙 mesurau arfaethedig olygu newidiadau mawr i bawb yng Nghymru: penderfyniadau mwy lleol yngl欧n 芒 sut mae鈥檆h trethi yn cael eu gwario, mwy o bwerau dros faint mae Cymru yn benthyca, ac yn bwysicach na dim, mwy o benderfyniadau am Gymru gan bobl Cymru. Rwyf nawr yn croesawu鈥檙 ail adroddiad hwn sy鈥檔 cynnig ffordd i fynd 芒 datganoli rhagddo.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 Llywodraeth hon wedi cadarnhau yn gyson ei hymrwymiad clir i ddatganoli, ac rydym yn croesawu鈥檔 gynnes ail adroddiad y Comisiwn sy鈥檔 cyflwyno ei argymhellion yngl欧n 芒 sicrhau bod datganoli yn llwyddo yng Nghymru.
Mae鈥檙 adroddiad yn codi cwestiynau hollbwysig ynghylch dyfodol llywodraethu Cymru yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae鈥檔 gwbl briodol ein bod yn cymryd amser i ystyried yn llawn pob un o鈥檙 argymhellion a鈥檜 goblygiadau.
Byddwn yn ystyried gweithredu rhai o鈥檙 newidiadau y mae鈥檙 Comisiwn wedi鈥檜 hargymell yn ystod y Senedd hon. Ond does dim digon o amser yn y Senedd hon i weithredu unrhyw newidiadau sydd angen deddfwriaeth sylfaenol.
Bydd y rhain felly yn fater i鈥檙 Llywodraeth a鈥檙 Senedd nesaf, ac i鈥檙 pleidiau gwleidyddol gyflwyno eu cynigion a鈥檜 bwriadau i鈥檙 etholaeth cyn yr Etholiad Cyffredinol yn 2015.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Siwrnai yw Datganoli yng Nghymru ac mae鈥檙 adroddiad yn cynnwys argymhellion ar draws Cymru ynghylch camau nesaf posibl y siwrnai. Rydym yn edrych ymlaen at adolygu鈥檙 argymhellion ac yn diolch i鈥檙 Comisiwn am yr amser a鈥檙 ymroddiad y mae wedi鈥檜 buddsoddi wrth lunio鈥檙 adroddiad hwn.
Cyhoeddodd y Comisiwn adroddiad ar Ran I ei gylch gwaith ym mis Tachwedd 2012 yn argymell datganoli pwerau cyllidol i鈥檙 Cynulliad Cenedlaethol. Mae鈥檙 Llywodraeth yn rhoi ar waith bron bob un o鈥檙 argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwnnw, a bydd yn bwrw ymlaen 芒 Bil Cymru i ddatganoli pwerau treth a benthyca Cymru cyn gynted ag y bydd yr amser seneddol yn caniat谩u.
Ychwanegodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae cyhoeddi鈥檙 adroddiad heddiw yn ben llanw dwy flynedd o waith caled y Comisiwn, dan arweiniad Paul Silk.
Maent wedi cynhyrchu dau adroddiad trylwyr, sydd wedi鈥檜 hymchwilio鈥檔 dda ac sy鈥檔 nodi safbwyntiau a barn pobl ledled Cymru, a byddant yn cael eu cofnodi fel cyfraniadau pwysig at ddatganoli yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi gwasanaethu ar y Comisiwn a鈥檜 hymroddiad i gyflawni eu cylch gwaith.