Llywodraeth y DU yn croesawu'r ffaith bod Carchar Wrecsam yn cael ei gymeradwyo'n derfynol yng ngogledd Cymru
Mae'r carchar gwerth 拢212 miliwn yn bwriadu agor yn 2017 a bydd yn creu tua 1,000 o swyddi.

Gan ymateb i鈥檙 cyhoeddiad bod Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo鈥檙 cynllun yn derfynol, dywedodd Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Bu angen ei garchar ei hun ar ogledd Cymru ers tro byd ac mae鈥檙 gymeradwyaeth derfynol hon yn un a groesawir yn wresog.
Bydd y datblygiad hwn, drwy鈥檙 broses o鈥檌 adeiladu, ei redeg a鈥檌 gynnal a鈥檌 gadw, yn dod 芒 nifer enfawr o swyddi i Wrecsam a鈥檙 cyffiniau ac yn rhoi hwb economaidd mawr i economi gogledd Cymru.
Dywedodd Andrew Selous, y Gweinidog Carchardai:
Rwy鈥檔 croesawu鈥檙 gymeradwyaeth derfynol hon. Mae gwaith paratoi eisoes wedi dechrau ar y safle yn gynt na鈥檙 disgwyl a bydd y prif waith adeiladu yn dechrau鈥檔 fuan.
Credwn yn ddiau y bydd y carchar yn fudd enfawr i鈥檙 ardal. Unwaith y bydd yn weithredol, amcangyfrifir y bydd y carchar yn creu tua 1,000 o swyddi ac yn rhoi hwb o tua 拢23 miliwn i鈥檙 economi leol bob blwyddyn.