Llywodraeth y DU yn Trawsnewid Rhwydwaith Rheilffyrdd De Cymru
Hyd at 拢58m ar gael ar gyfer uwchraddio Gorsaf Caerdydd Canolog

- Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ymrwymiad cyllido o hyd at 拢58 miliwn ar gyfer uwchraddio prif orsaf drenau鈥檙 brifddinas er mwyn sicrhau gwell mynediad a phlatfformau addas ar gyfer trenau hirach
- Ymrwymiad i fwrw ymlaen 芒 chynlluniau ar gyfer gorsaf parcffordd newydd yn Abertawe, gan leihau amseroedd teithio i orllewin Cymru
- Lleihau鈥檙 amseroedd teithio rhwng Caerdydd a Llundain hyd at 14 munud o fis Rhagfyr 2019
Heddiw (22 Gorffennaf 2019), cadarnhaodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, fod hyd at 拢58m ar gael ar gyfer uwchraddio Gorsaf Caerdydd Canolog.
Ar yr amod bod y cynllun yn sicrhau gwerth am arian, bydd y gwaith uwchraddio hwn yn lleddfu gorlenwi a thagfeydd drwy鈥檙 orsaf yn ystod cyfnodau prysur, yn ysgogi adfywiad ac yn galluogi trenau hirach sydd 芒 mwy o seddi i wasanaethu鈥檙 brifddinas.
Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth:
Mae teithwyr yng Nghaerdydd yn haeddu gorsaf fodern a hygyrch yng nghanol eu dinas fywiog. Mae gan y cyllid hwn y potensial i gyflawni hynny, gan sicrhau teithiau mwy dibynadwy, cyfforddus a chyflym i mewn ac allan o鈥檙 brifddinas.
Mae鈥檔 hanfodol bod y ddwy lywodraeth yng Nghymru yn gweithio gyda鈥檌 gilydd 鈥� bydd gwneud hynny鈥檔 cryfhau鈥檙 Undeb ac rydw i鈥檔 edrych ymlaen at glywed y cynigion ar gyfer achos busnes uchelgeisiol a chyraeddadwy.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rydyn ni wedi ymrwymo i godi safonau gwasanaethau i deithwyr ar drenau ledled Cymru.
Bydd y cyllid hwn yn galluogi Caerdydd i fod yn atyniad deniadol i dwristiaid a chymudwyr ar adeg allweddol yn adfywiad y ddinas. Rydyn ni wedi ymrwymo hefyd i fwrw ymlaen 芒 chynlluniau ar gyfer gorsaf Parcffordd Gorllewin Cymru, a fydd yn sicrhau arbedion amser o hyd at chwarter awr o Sir Benfro i Gaerdydd ac yn gwella鈥檙 cysylltedd lleol o amgylch Abertawe, er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i Ddinas Ranbarth Bae Abertawe.
Mae鈥檙 buddsoddiad hwn yn ychwanegol i鈥檙 拢5 biliwn mae Llywodraeth y DU yn ei fuddsoddi ar wella teithiau i deithwyr ar Brif Linell y Great Western rhwng De Cymru a Llundain. Bwriad y buddsoddiad hwn yw cyflwyno gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy, trenau newydd a mwy o seddi.
Mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen 芒 chynlluniau ar gyfer gorsaf newydd sef Parcffordd Gorllewin Cymru, ger Abertawe, i hybu cysylltedd a chapasiti ar gyfer teithwyr yn ne a gorllewin Cymru.
Rail media enquiries
Media enquiries 0300 7777878
Switchboard 0300 330 3000