Stori newyddion

Gweinidogion Llywodraeth y DU a Chymru yn llofnodi Bargen Twf Gogledd Cymru

Ymrwymodd y ddwy Lywodraeth 拢120 miliwn yr un i'r fargen.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Bydd miloedd o swyddi鈥檔 cael eu creu a bydd hwb gwerth biliynau o bunnoedd yn cael ei roi i鈥檙 economi ar 么l i鈥檙 Fargen Twf Gogledd Cymru arloesol gael ei gymeradwyo gan Lywodraethau鈥檙 DU a Chymru.

Bydd gwaith nawr yn dechrau ar y pum rhaglen sy鈥檔 ffurfio鈥檙 Fargen gwerth 拢1bn.

Dan arweiniad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru 鈥� cydweithrediad chwe chyngor y rhanbarth, dwy brifysgol, dau goleg a chynrychiolwyr o鈥檙 sector preifat 鈥� mae鈥檙 rhaglenni鈥檔 cynnwys 14 o brosiectau sy鈥檔 cwmpasu ynni carbon isel, arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, bwyd-amaeth a thwristiaeth, cysylltedd digidol a thir ac eiddo.

Mae鈥檙 ddwy lywodraeth wedi gweithio鈥檔 agos gyda rhanddeiliaid drwy gydol y broses ac yn gynharach wedi ymrwymo 拢240m - 拢120m yr un 鈥� i helpu i ddwyn ffrwyth y Fargen.

Llofnododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart, Gweinidog Swyddfa Cymru David TC Davies a Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, y cytundeb fargen ar ddydd Iau 17 Rhagfyr.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae鈥檔 wych gweld cytundeb economaidd cyffrous a thrawsnewidiol yn cael ei ddarparu ar draws Gogledd Cymru. Rydym am adeiladu n么l yn well yn dilyn y pandemig a dod 芒 swyddi a buddsoddiad i鈥檔 cymunedau, a dyna pam mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo 拢120 miliwn i鈥檙 cynllun hwn.

Mae Bargen Twf Gogledd Cymru yn gyfle anhygoel i鈥檙 rhanbarth ac i economi ehangach Cymru. Gan weithio law yn llaw 芒 llywodraeth leol a busnes, byddwn yn sicrhau bod y fargen dwf yn rhyddhau potensial llawn Gogledd Cymru.

Eu prif amcanion yw creu hyd at 4,200 o swyddi newydd erbyn 2036, cefnogi cynnydd o 拢2bn-2.4bn i鈥檙 economi dros yr un cyfnod, a sicrhau cyfanswm buddsoddiad o hyd at 拢1.1bn.

Ymhlith y prosiectau cyntaf i gychwyn yn 2021, mae cynllun ynni adnewyddadwy Morlais gwerth 拢35m oddi ar arfordir Ynys M么n.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr 2020