Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn gwobrwyo gwaith gyda hwb o 拢701 y flwyddyn i weithwyr yng Nghymru

Bydd y gweithiwr cyfartalog yng Nghymru ar ei ennill o 拢701 y flwyddyn wrth i鈥檙 llywodraeth dorri trethi

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government

HM Treasury

  • Bydd y gweithiwr cyfartalog yng Nghymru ar ei ennill o 拢701 y flwyddyn wrth i鈥檙 llywodraeth dorri trethi聽
  • Bydd dros 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru yn elwa wrth i doriadau Yswiriant Gwladol gael eu hadlewyrchu mewn cyflogau y mis hwn聽
  • Bydd 27 miliwn o gyflogeion yn elwa ym mhob cwr o鈥檙 wlad yn sgil toriadau treth sy鈥檔 gwobrwyo gwaith ac yn tyfu鈥檙 economi

Bydd y gweithiwr nodweddiadol yng Nghymru ar ei ennill o 拢701 o ganlyniad i doriadau olynol i gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) gweithwyr, a fydd yn cael ei hadlewyrchu mewn cyflogau y mis hwn.聽

Bydd 27 miliwn o weithwyr ledled y DU yn gweld cynnydd yn y cyflog yn eu poced o 6 Ebrill ymlaen, gyda dros 1.2 miliwn o bobl yn elwa yng Nghymru yn unig.聽

Mae鈥檙 arbedion yn deillio o鈥檙 toriadau olynol i gyfraniadau YG a gyhoeddwyd gan y Canghellor, gan ostwng prif gyfradd cyfraniadau YG cyflogeion o 12% i 8% a phrif gyfradd cyfraniadau YG gweithwyr hunangyflogedig o 9% i 6%.聽

Mae鈥檙 toriadau hyn yn bosibl oherwydd bod yr economi鈥檔 troi cornel, diolch i gamau pendant y llywodraeth i ostwng chwyddiant o 11.1% i 3.4%. Mae鈥檙 llywodraeth yn glynu wrth ei chynllun economaidd ac, yn y tymor hwy, mae ganddi鈥檙 uchelgais o dorri cyfraniadau YG ymhellach, gan ddiddymu鈥檙 dreth ddwbl annheg ar waith.聽 聽

Dywedodd Jeremy Hunt, Canghellor y Trysorlys:聽

Mae鈥檙 toriadau treth a ddaw i rym yr wythnos hon yn dangos bod ein cynllun economaidd yn gweithio, gan roi 拢701 y flwyddyn yn 么l ym mhocedi pobl sy鈥檔 gweithio ledled Cymru.聽

Bydd pobl yn dechrau gweld yr arbediad hwn yn eu cyflog y mis hwn a, phan fydd yn gyfrifol gwneud hynny, byddwn yn mynd gam ymhellach 鈥� drwy roi terfyn ar y dreth ddwbl annheg ar y rheini sy鈥檔 ennill eu hincwm drwy waith.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:聽

Rwy鈥檔 falch iawn y bydd dros 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru yn elwa o鈥檙 toriad Yswiriant Gwladol heddiw, a hynny ar ben y toriad cyntaf o ddau bwynt canran ym mis Ionawr eleni, gan roi 拢700 yn fwy ym mhoced y gweithiwr nodweddiadol. Mae chwyddiant yn dod i lawr hefyd, sy鈥檔 helpu pobl i deimlo鈥檔 well eu byd wrth i鈥檙 economi droi cornel.

Gan ystyried y diwygiadau i gyfraniadau YG yn Natganiad yr Hydref a Chyllideb y Gwanwyn gyda鈥檌 gilydd, dyma doriad treth cyffredinol sy鈥檔 werth dros 拢20 biliwn y flwyddyn 鈥� y toriad mwyaf erioed i YG cyflogeion a gweithwyr hunangyflogedig.聽

Oherwydd y toriadau cyfun i gyfraniadau YG cyflogeion a gweithwyr hunangyflogedig, mae鈥檙 Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd cyfanswm yr oriau a weithir yn cynyddu cyfwerth 芒 bron i 200,000 o weithwyr amser llawn erbyn 2028-29, gan helpu i dyfu鈥檙 economi. 聽

Mae鈥檙 newidiadau hyn yn golygu, ar gyfer unigolion sengl ar gyflogau cyfartalog, y byddai trethi personol wedi bod yn is yn y DU nag yn Ffrainc, yr Almaen a phob economi G7 arall, ar sail data diweddaraf y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae鈥檙 cynnydd yn seiliedig ar gyflog cyfartalog o 拢30,101 yng Nghymru. Mae鈥檙 cyfrifiadau鈥檔 seiliedig ar lefel gymedrig enillion blynyddol pob gweithiwr, gan ddefnyddio Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2023.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2024