Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn darparu 拢31m i atgyweirio tomenni glo oherwydd y llifogydd ar 么l stormydd Cymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Stephen Barclay yn sicrhau 拢31 miliwn i Lywodraeth Cymru wneud gwaith adfer tomenni glo a difrod yn dilyn y llifogydd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Coal Tip in Wales

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd 拢31 miliwn ar gael i atgyweirio鈥檙 difrod ag achoswyd gan lifogydd difrifol, gan gynnwys tomenni glo, yn dilyn stormydd ledled Cymru yn gynharach eleni.

Derbyniodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Stephen Barclay yr hawliad am gyllid gan Lywodraeth Cymru a fydd yn arwain at 拢22 miliwn ar gyfer costau adfer yn dilyn y llifogydd i awdurdodau lleol yngh欧d 芒 拢9 miliwn i atgyweirio tomenni glo bregus ledled Cymru

Ers i rannau o Gymru gael eu taro gan lifogydd dinistriol yn gynnar yn 2020, mae Llywodraeth y DU wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i asesu sut y gellid darparu cymorth ac amddiffyniadau ychwanegol i鈥檙 cymunedau yr effeithiwyd arnynt.

Er bod y cyfrifoldeb am amddiffynfeydd rhag llifogydd a rheoli llifogydd wedi鈥檌 ddatganoli, cytunodd Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid o Warchodfa鈥檙 DU ar gyfer 2020-21 gan ystyried yr amgylchiadau eithriadol.

Heddiw (dydd Iau 10 Rhagfyr) yn dilyn cyfarfod rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, cytunwyd ar 拢31 miliwn o gyllid a fydd yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru i wneud gwaith adfer tomenni glo a difrod yn dilyn y llifogydd.

Yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Roedd y dinistr a achoswyd ledled Cymru gan y stormydd ar ddechrau 2020 yn dorcalonnus, tra bod yr effaith ar domeni glo mewn hen ardaloedd glofaol yn peri pryder mawr i鈥檙 cymunedau hynny.

Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac eraill i drafod sut y gallwn ddarparu cymorth ychwanegol yn dilyn y llifogydd a diogelwch i gymunedau yr effeithiwyd arnynt mor wael. Rwy鈥檔 falch bod hyn bellach wedi鈥檌 gytuno ac y gellir gwneud y gwaith angenrheidiol hwn.

Dywedodd Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Stephen Barclay:

Achosodd Storm Dennis ddinistr ledled Cymru ac rydym wedi bod yn gweithio鈥檔 adeiladol gyda Llywodraeth Cymru ers hynny i ddarparu cefnogaeth angenrheidiol i鈥檙 cymunedau yr effeithiwyd arnynt. Mae鈥檙 arian a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cryfder ein Undeb a bydd yn golygu y gellir gwneud gwaith atgyweirio ac adfer hanfodol.

Rydym hefyd wedi rhoi 拢1.3 biliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn yr Adolygiad Gariant diweddar fel eu bod mewn sefyllfa dda i barhau 芒鈥檙 gwaith hwn

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2020