Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn bwriadu cael Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud wrth y Senedd bod Llywodraeth y DU yn edrych ar ffyrdd o sefydlu Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf erioed i Gymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Generic image of soldier

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer penodi Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru.

Wrth siarad yn nadl flynyddol Dydd G诺yl Dewi yn y Senedd ddydd Iau 25 Chwefror, dywedodd Ysgrifennydd Cymru wrth ASau fod Llywodraeth y DU yn mynd ati i edrych ar ffyrdd o sefydlu Comisiynydd Cyn-filwyr cyntaf i Gymru.

Nod Comisiynwyr Cyn-filwyr yw gwella bywydau a hyrwyddo buddiannau cyn-filwyr y Lluoedd Arfog drwy weithio gyda chyn-filwyr a鈥檙 sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy鈥檔 eu cynrychioli.

Ychwanegodd Mr Hart y byddai鈥檙 cynlluniau鈥檔 gam pwysig iawn i gyn-filwyr yng Nghymru a鈥檜 teuluoedd ac y bydden nhw鈥檔 helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth y DU o wneud y Deyrnas Unedig y lle gorau yn y byd i fod yn gyn-filwr.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan y Lluoedd Arfog draddodiad hir a phwysig yng Nghymru ac rydyn ni鈥檔 eithriadol o falch o鈥檔 cyn-filwyr o Gymru. Mae cyn-filwyr a鈥檜 teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch gydol eu gwasanaeth a thu hwnt.

Bydd recriwtio Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru yn cyfrannu鈥檔 helaeth at gynyddu鈥檙 gefnogaeth sydd ar gael ac yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth y DU i les cyn-filwyr y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Johnny Mercer, y Gweinidog dros Amddiffyn Pobl a Chyn-filwyr:

Mae鈥檙 lluoedd arfog yn amddiffyn y Deyrnas Unedig gyfan ac felly mae鈥檔 iawn i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cyn-filwyr pan fyddan nhw鈥檔 gadael y lluoedd arfog.

鈥淏yddai Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru yn gam pwysig ymlaen i gefnogi cyn-aelodau鈥檙 lluoedd arfog yn y wlad ac mae鈥檔 cydnabod cyfraniad milwrol balch Cymru.鈥�

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2021