Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn agor y drws ar fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru

Guto Bebb: Byddai bargen twf yng nghanolbarth Cymru鈥檔 gatalydd i chwyldroi'r ffordd mae ein trefi a鈥檔 pentrefi ni鈥檔 eu llywodraethu eu hunain

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd Guto Bebb, Gweinidog yn Llywodraeth y DU, yn ymweld 芒 Llandrindod heddiw i helpu i agor y drws ar fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru.

Bydd yn ymweld 芒 swyddogion blaenllaw yr awdurdodau lleol, pobl fusnes a chynrychiolwyr o鈥檙 sector amaethyddol i annog busnesau i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu economi鈥檙 Canolbarth.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y Gweinidog yn dweud bod gan economi鈥檙 Canolbarth botensial enfawr i dyfu.

Bydd yn dweud ei bod hi ar hyn o bryd yn amser allweddol i fusnesau ac awdurdodau lleol ddod at ei gilydd a gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i adeiladu 鈥榩eiriant鈥� i鈥檙 Canolbarth a all greu swyddi a chyfleoedd ar draws y rhanbarth.

O arbenigedd ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth i straeon llwyddiant byd-eang fel Nidec Control Techniques, mae digon o arloesi, sgiliau a thechnoleg ar gael yn y rhanbarth eisoes.

Bydd y Gweinidog yn dweud bod Llywodraeth y DU yn awyddus i weithio gyda chwmn茂au a grwpiau ar lawr gwlad wrth iddynt ddatblygu bargen bwrpasol sy鈥檔 gweithio i鈥檙 Canolbarth i gyd.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai鈥檔 croesawu cynigion ar gyfer bargen twf i ganolbarth Cymru, fel rhan o鈥檙 Gyllideb.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Guto Bebb:

Byddai bargen twf yng nghanolbarth Cymru鈥檔 gatalydd i chwyldroi鈥檙 ffordd mae ein trefi a鈥檔 pentrefi ni鈥檔 eu llywodraethu eu hunain - gan symud pwerau i lawr o Lundain a Chaerdydd a鈥檜 rhoi i arweinyddion lleol sydd mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau sy鈥檔 effeithio ar eu cymunedau.

Mae datblygu Peiriant y Canolbarth dros y ffin yn gyfle unigryw i ffurfio partneriaeth a datblygu coridor twf sy鈥檔 ymestyn bob cam o Aberystwyth i Ganolbarth Lloegr.

Gyda lansiad ein Strategaeth Ddiwydiannol, sy鈥檔 cynnwys cyfleoedd ar gyfer bargen twf i ganolbarth Cymru, mae hwn yn amser gwell nag erioed i fusnesau, awdurdodau lleol a鈥檙 sector amaethyddol fanteisio ar y cyfle i ddod at ei gilydd a chreu gweledigaeth gadarn ar gyfer canolbarth Cymru.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, Rosemarie Harris:

Mae gan fargeinion twf botensial i ailsiapio datblygiad economaidd rhanbarth ac felly rwyf yn croesawu鈥檙 ymrwymiad i fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru.

Gall unrhyw fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru wella鈥檙 seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd digidol a helpu i ddatblygu鈥檙 cyfleoedd gwaith newydd ar gyfer y rhanbarth. Byddai hyn yn fanteisiol iawn i Bowys ac i Gymru yn gyffredinol hefyd. Rydyn ni eisiau datblygu economi ffyniannus ym Mhowys a bydd bargen twf ar gyfer Canolbarth Cymru鈥檔 ein helpu ni i gyflawni hynny.

Ychwanegodd Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad:

Rydyn ni鈥檔 falch o gael croesawu鈥檙 Gweinidog i鈥檙 cyfarfod o鈥檙 CLA i glywed ei syniadau am fargen twf canolbarth Cymru. Mae鈥檔 hanfodol nad yw鈥檙 rhanbarth yma鈥檔 cael ei adael ar 么l o ran twf economaidd a bod gwerth a phwysigrwydd yr economi wledig yn y rhanbarth hwn yn cael eu cydnabod a鈥檜 cefnogi.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2017