Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cefnogi economi wledig Cymru mewn trafodaeth rhithwir yn Sioe Frenhinol Cymru

Cymerodd cynrychiolwyr o'r diwydiannau amaeth a ffermio ran mewn sesiwn C&A i drafod y cyfleoedd a'r heriau a wynebir gan y sector yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Bu Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies, ac Gweinidog Victoria Prentis o鈥檙 Adran dros yr Amgylchedd, Ffermio a Materion Gwledig (DEFRA) yn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb ar y cyd gyda chynrychiolwyr o鈥檙 sector ffermio ac amaethyddiaeth yng Nghymru yn gynharach heddiw fel rhan o ddiwrnod olaf y Sioe Frenhinol Gymreig eleni.

Bu Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Cadwraeth yn hwyluso鈥檙 drafodaeth am y cyfleoedd a鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu鈥檙 economi wledig yng Nghymru.

Roedd y sgwrs hefyd yn canolbwyntio ar sut y gall Llywodraeth y DU weithio gyda鈥檙 diwydiant i fynd i鈥檙 afael ag effaith negyddol y coronafeirws a gweithio tuag at adferiad economaidd, tra鈥檔 sicrhau Brexit sy鈥檔 gweithio i ffermwyr a defnyddwyr Cymru.

Daw鈥檙 rhith-ddigwyddiad wrth i Fil Amaethyddiaeth trawsnewidiol y DU symud drwy gam Pwyllgor T欧鈥檙 Arglwyddi ar ei daith tuag at ddod yn gyfraith. Bydd y Bil yn sicrhau symudiad llyfn a graddol oddi wrth Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi lansio ei chynllun o fesurau 鈥榥eidio鈥檔 么l鈥� yn ddiweddar i gefnogi amaethyddiaeth, diwydiannau bwyd a diod i adennill o鈥檙 coronafeirws. Mae鈥檙 pecyn yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau ffisegol a rhithwir sydd wedi鈥檜 teilwra i helpu amrywiaeth o fusnesau i ddod yn 么l i farchnadoedd rhyngwladol a dechrau tyfu cyfran y farchnad unwaith eto.

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:

Er bod Sioe Frenhinol Cymru wedi symud i blatfform ar-lein eleni, mae鈥檔 bwysicach nag erioed i wrando ar leisiau pobl o鈥檙 sectorau amaethyddol a ffermio wrth i ni geisio ailadeiladu ein heconomi ar 么l y coronafeirws a gwneud y gorau o botensial gadael yr UE.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd yr economi wledig i ffyniant Cymru ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at gydweithio鈥檔 agos 芒 chynrychiolwyr o鈥檙 sector i sicrhau bod y syniadau a鈥檙 safbwyntiau a drafodir heddiw yn cael eu hadlewyrchu yn ein penderfyniadau a鈥檔 cyfeiriad yn y dyfodol.

Dywedodd Victoria Prentis, Gweinidog Ffermio yr Adran dros yr Amgylchedd, Ffermio a Materion Gwledig:

Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu clywed cynrychiolwyr o ddiwydiannau amaeth a ffermio Cymru yn y Sioe Frenhinol rithwir eleni, sydd yn wir yn dyst i hyblygrwydd y sectorau hyn yn y cyfnod heriol presennol.

Byddwn bob amser yn cefnogi ffermwyr ar draws pob cwr o鈥檙 DU a byddwn yn gwneud yn si诺r eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd y tu allan i鈥檙 UE. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar y galw byd-eang cynyddol am ein cynnyrch Prydeinig gwych, megis ein cig oen byd-enwog.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Gorffennaf 2020