Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cefnogi Busnesau Bach a Chanolig Cymru ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach
Alun Cairns a Guto Bebb i ymweld 芒 busnesau annibynnol yn eu hetholaethau'r penwythnos hwn i nodi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns a Gweinidog Llywodraeth y DU Guto Bebb yn ymweld 芒 busnesau annibynnol yn eu hetholaethau鈥檙 penwythnos hwn, i ddathlu ymgyrch flynyddol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 2 Rhagfyr. Bydd y Gweinidog Gwladol dros Fasnach Ryngwladol Liam Fox hefyd yn ymweld 芒 busnesau bach yng Nghasnewydd sy鈥檔 gwneud eu marc ar yr economi leol.
Yn awr yn ei phumed blwyddyn, mae鈥檙 ymgyrch yn annog defnyddwyr i siopa mewn busnesau bach, lleol. Y llynedd, gwariodd defnyddwyr 拢717m mewn busnesau bach ar y dydd Sadwrn 鈥� cynnydd o 15% o鈥檌 gymharu 芒 2015.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Strategaeth Ddiwydiannol, sy鈥檔 cynnwys buddsoddiad o 拢20bn mewn busnesau arloesol a photensial uchel, sy鈥檔 cynnwys sefydlu Cronfa Fuddsoddi newydd gwerth 拢2.5bn sydd wedi鈥檌 deori ym Manc Busnes Prydain.
Yng Nghymru, mae Banc Busnes Prydain eisoes wedi gwarantu dros 1,251 o fenthyciadau i helpu busnesau bach ers ei sefydlu yn 2014, sydd gyda鈥檌 gilydd yn werth 拢134.8 miliwn. Mae鈥檙 Cwmni Start-up Loans hefyd wedi rhoi 2,086 o fenthyciadau i fusnesau yng Nghymru, sy鈥檔 werth dros 拢17.1 miliwn.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn gyfle i gydnabod a dathlu鈥檙 holl waith caled mae perchnogion busnes yn ei wneud i sicrhau bod eu cwmn茂au鈥檔 llwyddo.
Mae BBaCh yn rhan allweddol o economi Cymru ac maent yn rhwydwaith cymorth hanfodol i鈥檔 cymunedau. Rwyf yn falch o gael y cyfle i gefnogi busnesau fy stryd fawr leol ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach a thrwy gydol y flwyddyn.
Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o wneud yn si诺r bod gan fusnesau Cymru鈥檙 adnoddau a鈥檙 cymorth sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Mae鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol yn adeiladu ar y sgyrsiau rydym wedi鈥檜 cael 芒 busnesau a chyflogeion ar hyd a lled Cymru, ac mae hynny wedi hwyluso buddsoddiadau mawr mewn seilwaith ac ymchwil ac wedi creu coridorau twf i feithrin cydweithio gwell ar draws y ffin.
Mae hon yn strategaeth sy鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檔 cryfderau economaidd ac mae鈥檔 rhoi sylw i rai o鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu Cymru, gyda鈥檙 nod o hybu cynhyrchiant a sicrhau ffyniant ledled y wlad.
Meddai鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, Dr Liam Fox:
Busnesau Bach yw asgwrn cefn economi鈥檙 DU, ac mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn gyfle perffaith i bwysleisio bod modd iddynt dyfu trwy allforio.
Trwy wefannau fel , ac yn awr yn sgil lansio ein How to Sell Overseas Guide, mae fy adran wedi ymrwymo i helpu busnesau ar draws Casnewydd a Chymru gyfan i fanteisio ar y galw byd eang am nwyddau a gwasanaethau Prydeinig, ac i wneud y gorau o dwf yn y marchnadoedd ym mhob rhan o鈥檙 byd.
Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU Guto Bebb:
Yn ystod y penwythnos hwn rwyf yn edrych ymlaen at gefnogi perchnogion busnesau ac entrepreneuriaid sy鈥檔 gwneud cymaint o gyfraniad at ein cymunedau. O鈥檙 siopau cornel sy鈥檔 cyflenwi holl hanfodion bywyd, i鈥檙 arloeswyr sy鈥檔 dod o hyd i ffyrdd dyfeisgar i newid y byd, mae gennym gymaint i鈥檞 ddiolch i fusnesau bach.
Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod yr angen i gefnogi鈥檙 busnesau hyn trwy sicrhau twf economaidd a ffyniant, a thrwy鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol rydym yn darparu鈥檙 cymorth hwnnw.
Byddwn yn annog busnesau bach ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar y cymorth ariannol a鈥檙 gwasanaeth gwybodaeth sydd ar gael iddynt i鈥檞 helpu i wireddu eu potensial.
Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach gan y llywodraeth ewch i gyllid a chymorth i鈥檆h busnes.
Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ewch i neu dilynwch y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol trwy #SmallBizSatUK.