Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cefnogi'r Sioe Frenhinol rithwir gyntaf
Daw'r rhaglen pedwar diwrnod o ddigwyddiadau ar-lein wrth i Lywodraeth y DU amddiffyn incwm bron 10,000 o bobl a gyflogir yn yr economi wledig yng Nghymru

- Rhaglen pedwar diwrnod o ddigwyddiadau ar-lein yn disodli digwyddiad blynyddol yn Llanfair-ym-Muallt
- Daw wrth i Lywodraeth y DU amddiffyn incwm bron 10,000 o bobl a gyflogir yn yr economi wledig yng Nghymru
Bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogi economi wledig Cymru drwy鈥檙 pandemig coronafeirws wrth gymryd rhan yn y Sioe Frenhinol Cymru rithwir gyntaf erioed (20-24 Gorffennaf).
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, a Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, David TC Davies, yn cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau ac ymweliadau ar-lein gyda ffigurau allweddol i gefnogi鈥檙 sector amaethyddol yng Nghymru.
Daw鈥檙 sioe wrth i鈥檙 ffigurau diweddaraf ddangos bod Llywodraeth y DU yn diogelu bron 10,000 o incymau pobl sy鈥檔 gweithio yn y sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yng Nghymru - 8,400 drwy鈥檙 Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth a 1,400 drwy Gynllun Cadw Swyddi Coronafirus.
Mae ymgyrch 鈥楳wynha鈥檙 haf yn saff鈥� Llywodraeth y DU hefyd yn ceisio rhoi hwb i ddiwydiant twristiaeth ddomestig y DU ac yn ysbrydoli鈥檙 cyhoedd i ddychwelyd at arferion gwario arferol gan ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch COVID-19.
Wythnos diwethaf nododd Llywodraeth y DU ei chynlluniau i sicrhau bod busnesau, gan gynnwys cwmn茂au cynhyrchu bwyd a diod o Gymru, yn gallu parhau i fwynhau masnach fewnol ddi-dor gyda鈥檙 Deyrnas Unedig gyfan pan fyddwn yn gadael y cyfnod pontio ar ddiwedd eleni.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:
Mae Sioe Frenhinol Cymru eleni yn dod ar adeg dyngedfennol lle mae鈥檔 rhaid i ni gydbwyso鈥檙 angen i achub bywydau a chynnwys y coronafeirws gyda鈥檔 hamcan o warchod ein heconomi a sicrhau bod sectorau fel amaethyddiaeth yn gallu bownsio鈥檔 么l yn gryf.
Ar draws Cymru, mae Llywodraeth y DU yn diogelu incwm dros 480,000 o bobl drwy鈥檙 cynllun cadw swyddi a chymorth incwm ar gyfer pobl hunangyflogedig. Mae miloedd o鈥檙 rhain yn yr economi wledig ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y swyddi a鈥檙 cymunedau hynny鈥檔 cael eu cefnogi drwy鈥檙 pandemig.
Er bod cynnal Sioe Frenhinol Cymru yn amhosib eleni, rwy鈥檔 cefnogi鈥檔 llwyr ei symudiad i lwyfan ar-lein ac yn gobeithio y bydd hwn yn galluogi鈥檙 sioe i dyfu ei chyrhaeddiad a dod yn 么l yn gryfach fyth y flwyddyn nesaf. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at roi fy nghefnogaeth i鈥檙 sector amaethyddol yr wythnos hon a chlywed barn y bobl sy鈥檔 gweithio ynddi am y ffordd orau o fynd drwy鈥檙 misoedd nesaf.
Mae sioe rithwir Frenhinol Cymru eleni yn dechrau ddydd Llun 20 Gorffennaf ac yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Dywysog Cymru yn ogystal 芒 rhaglen lawn o seminarau, sesiynau holi ac ateb byw a digwyddiadau eraill a gynlluniwyd i addysgu鈥檙 cyhoedd am amaethyddiaeth, cynnyrch Cymreig a鈥檙 amgylchedd.
DIWEDD
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y Sioe Frenhinol rithwir eleni drwy