Gweinidog Llywodraeth y DU i dynnu sylw at botensial carbon isel Gogledd Cymru mewn araith i arweinwyr ynni
Bydd Gweinidog Andrew yn gwneud araith bwysig yn Uwchgynhadledd Ynni a Thwf Gl芒n Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy a thrafod dyfodol niwclear Gogledd Cymru yng ngorsaf b诺er Trawsfynydd.

- Bydd y Gweinidog Andrew yn amlinellu uchelgais Llywodraeth y DU i sicrhau dyfodol carbon isel mewn araith bwysig yn Uwchgynhadledd Ynni a Thwf Gl芒n Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy.
- Bydd y Gweinidog yn trafod y weledigaeth ar gyfer dyfodol niwclear Gogledd Cymru yng ngorsaf b诺er Trawsfynydd.
- Bydd Stuart Andrew hefyd yn cwrdd ag arweinwyr awdurdodau lleol fel rhan o鈥檙 ymgysylltiad parhaus i ddatblygu cynigion ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru.
Ar Ddydd Iau (12 Mawrth), bydd Stuart Andrew, Gweinidog Llywodraeth y DU, yn tynnu sylw at botensial Gogledd Cymru i ddatblygu atebion twf gl芒n er mwyn lleihau cost ynni ac annog twf economaidd mewn araith i arweinwyr ynni yn Uwchgynhadledd Ynni a Thwf Gl芒n Gogledd Cymru a Mersi a Dyfrdwy.
Wrth siarad yn y digwyddiad yn Warrington, bydd y Gweinidog Andrew yn nodi sut mae Llywodraeth y DU yn gwneud cynnydd go iawn o ran ei Strategaeth Twf Gl芒n, sy鈥檔 nodi鈥檙 cynlluniau i annog twf a pharhau i ddatgarboneiddio pob sector o economi鈥檙 DU yn ystod y 2020au.
Yn dilyn ymweliad 芒 gorsaf b诺er niwclear Trawsfynydd yng Ngwynedd, mae disgwyl i鈥檙 Gweinidog hefyd dynnu sylw at werth Adweithyddion Modiwlar Bach (SMR) i sicrhau twf a chreu swyddi gwerth uchel ledled y DU.
Mae gan y DU botensial anferth i ddod yn arweinydd y byd o ran datblygu鈥檙 genhedlaeth nesaf o dechnolegau niwclear; diwydiant sydd eisoes yn ffyniannus ac a gyfrannodd 拢6.4 biliwn at economi鈥檙 DU yn 2016.
Dywedodd Stuart Andrew, Gweinidog Llywodraeth y DU:
Fel gwlad sy鈥檔 llawn ynni yn naturiol, mae tirlun ac adnoddau naturiol Cymru wedi golygu ein bod wedi bod ar flaen y gad o ran cyflenwad ynni yn y DU. Mae gennym nawr botensial i adeiladu ar yr arbenigedd hwn, gan fanteisio ar ein hadnoddau i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad wrth drosglwyddo i economi carbon isel.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Strategaeth Twf Gl芒n uchelgeisiol sy鈥檔 dangos sut gall y wlad i gyd elwa o gyfleoedd carbon isel. Mae鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol a鈥檙 Her Fawr Twf Gl芒n yn cefnogi鈥檙 uchelgeisiau hyn drwy gysylltu鈥檔 well 芒鈥檙 hyn rydym yn ei wneud yn y llywodraeth 芒鈥檙 hyn yr hoffem weld y diwydiant yn ei wneud.
Rydym yn cydnabod bod gan yr arbenigedd niwclear yng Ngogledd Cymru botensial i chwyldroi鈥檙 economi, gan ddatblygu cyfleoedd newydd i greu swyddi. Dyna pam mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo hyd at 拢56 miliwn ar gyfer technolegau niwclear uwch.
Fel rhan o鈥檌 ymweliad deuddydd 芒 Gogledd Cymru, bydd y Gweinidog Andrew hefyd yn cwrdd ag arweinwyr awdurdodau lleol y rhanbarth ddydd Mercher i ddatblygu cynigion ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru, lle mae鈥檙 sector ynni yn debygol o chwarae rhan bwysig.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Stuart Andrew:
Bydd Bargen Twf yng Ngogledd Cymru yn trawsnewid y ffordd caiff y rhanbarth ei lywodraethu, gan ddod 芒 phwerau i lefel leol a defnyddio syniadau mawr i ddatgloi twf a chysylltu trefi a dinasoedd yn well, yng Nghymru a dros y ffin.
Mae tirlun Gogledd Cymru yn berffaith i fod yn rhan allweddol o ddyfodol ynni carbon isel y DU, ac rwy鈥檔 annog arweinwyr lleol i ystyried ei botensial wrth lunio cynigion am fargen bwrpasol sy鈥檔 gweithio ar gyfer y rhanbarth i gyd.