Gweinidog Llywodraeth y DU yn dathlu Wythnos Prydain Fawr Werdd yng Nghanolbarth Cymru
Yr Arglwydd Bourne yn dathlu llwyddiant prosiectau twf gl芒n yng Nghanolbarth Cymru ac yn trafod dyfodol bargen twf y rhanbarth.

Lord Bourne taking a tour of IBERS, Aberystwyth University
Yn yr wythnos pan fydd Llywodraeth y DU yn lansio鈥檙 Wythnos Prydain Fawr Werdd gyntaf, mae Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, yr Arglwydd Bourne, ar ei ffordd i Ganolbarth Cymru i ddathlu gwaith sefydliadau a busnesau sy鈥檔 hyrwyddo鈥檙 agenda twf gl芒n. Fel rhan o鈥檌 ymweliad deuddydd, bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn cwrdd ag ystod o fusnesau yn y rhanbarth i ganfod sut y gallai Bargen Twf ar gyfer Canolbarth Cymru fynd i鈥檙 afael ag unrhyw rwystrau rhag twf, ac i鈥檞 hannog i gyfrannu at ei datblygiad, gan bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i hybu dyfodol economaidd y rhanbarth.
Gan ymuno 芒 miloedd o bobl ar hyd a lled y DU sy鈥檔 dathlu twf gl芒n, bydd yr Arglwydd Bourne yn ymweld ag IBERS a鈥檙 Campws Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddysgu mwy am eu gwaith i drosi ymchwil arloesol yn atebion ymarferol i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Gan bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i dwf gl芒n, bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn gweld sut mae鈥檙 Ganolfan Dechnoleg Amgen yn creu atebion ymarferol ar gyfer cynaliadwyedd i ymwelwyr o bob rhan o鈥檙 byd, gan gynnwys eco-lanweithdra, rheoli coetiroedd ac ynni adnewyddadwy.
Meddai鈥檙 Gweinidog Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Bourne:
Yn y flwyddyn sy鈥檔 nodi 10fed pen blwydd Deddf Newid yn yr Hinsawdd, nid oes amser gwell i adeiladu ar ein llwyddiant ac i fanteisio ar y cyfleoedd pwysig ar gyfer twf economaidd glanach yn y DU.
Rwyf yn croesawu gwaith IBERS a Chanolfan y Dechnoleg Amgen sy鈥檔 gwneud gwaith diflino i wireddu gweledigaeth y DU o dwf economaidd gl芒n. Rhaid i鈥檙 gwaith o gyflawni twf gl芒n fod yn fenter ar y cyd 芒 Llywodraeth y DU, y cenhedloedd datganoledig, awdurdodau lleol, busnesau a phobl Prydain a dyna pam yr wyf heddiw yn annog pobl ym mhob rhan o鈥檙 wlad i ymrwymo i fynd i鈥檙 afael 芒 newid yn yr hinsawdd.
Yn ystod ei ymweliad deuddydd 芒 Chanolbarth Cymru, bydd yr Arglwydd Bourne hefyd yn cwrdd 芒 rhanddeiliaid allweddol yn y rhanbarth i drafod Bargen Twf ar gyfer Canolbarth Cymru. Bydd yr Arglwydd Bourne yn cwrdd 芒鈥檙 Athro Elizabeth Treasure ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod cynnydd y Brifysgol i hybu dyfodol economaidd y rhanbarth trwy ymchwil ac arloesi, gan gynnwys datblygiadau fel y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol ac Amaethyddiaeth Fanwl.
Bydd Wynnstay, gweithgynhyrchwyr cyfenwadau amaethyddol, hefyd yn croesawu鈥檙 Arglwydd Bourne wrth iddynt ddathlu eu 100fed pen blwydd. Yn ystod ei gyfarfod 芒鈥檙 Prif Weithredwr newydd Gareth Davies, bydd yr Arglwydd Bourne yn ystyried sut y gall y rhanbarth oresgyn rhwystrau rhag tyfu a sicrhau bargen twf sy鈥檔 gweithio i ganolbarth Cymru.
Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Bourne:
Yn awr, yn fwy nag erioed, mae鈥檔 hanfodol ein bod yn symud pwerau o Lundain a Chaerdydd at arweinyddion lleol sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau sy鈥檔 effeithio ar eu cymunedau. Dyna pam yr wyf wedi ymrwymo i gydweithio鈥檔 AGOS 芒鈥檙 cwmn茂au a鈥檙 grwpiau sydd wedi ymroi i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol economaidd y rhanbarth.
Trwy lansio鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol fodern, mae Llywodraeth y DU yn gweithio i greu鈥檙 amodau gorau ar gyfer ffyniant rhanbarthol, ond rhaid i鈥檙 sector preifat gymryd y camau angenrheidiol i hybu鈥檙 weledigaeth hon ar gyfer twf yng Nghanolbarth Cymru.
Gyda Llywodraeth y DU eisoes yn llofnodi cytundeb Penawdau鈥檙 Telerau ar gyfer Bargeinion Dinesig yng Nghaerdydd ac Abertawe a chyda negodiadau ar waith gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol ar gyfer bargen twf i Ogledd Cymru, byddai bargen twf llwyddiannus i Ganolbarth Cymru yn gweld Cymru gyfan yn elwa ar fargen ddinesig neu dwf Llywodraeth y DU.