Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn haws i Fusnesau Bach a Chanolig Cymru ennill mwy o gontractau'r sector cyhoeddus

Yr wythnos hon, bydd arweinwyr busnesau bach ledled Cymru yn dysgu sut mae cael mwy o fusnes drwy gontractau Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Arweinwyr busnesau bach yng Nghymru yn cael gwybod sut y gall y sector ennill mwy o鈥檙 contractau gwerth 拢187 biliwn sy鈥檔 cael eu cynnig gan y Llywodraeth ganolog bob blwyddyn

Dim ond 13% o fusnesau bach Cymru sy鈥檔 bwriadu ymgeisio am gontractau鈥檙 sector cyhoeddus yn y 12 mis nesaf

Cynhelir tri chyfarfod bwrdd crwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Llanrwst a鈥檙 Drenewydd wrth i waith ymchwil newydd gan y llywodraeth ddangos mai dim ond 13% o fusnesau bach yng Nghymru sy鈥檔 bwriadu ymgeisio am gontract sector cyhoeddus yn y 12 mis nesaf.

Mae llywodraeth y DU yn gwario 拢187 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau yn ganolog bob blwyddyn ac mae wedi bod yn ymdrechu i ehangu ei chontractau i gwmn茂au llai sy鈥檔 aml yn rhoi gwasanaethau mwy arloesol am bris gwell i drethdalwyr.

Mae am i 25% o wariant y llywodraeth ganolog ddeillio o fusnesau bach a chanolig eu maint erbyn 2015 鈥� sy鈥檔 golygu ymhell dros 拢10 biliwn o fusnes i鈥檙 sector bob blwyddyn 鈥� a gyda 218,000 o gwmn茂au bach yng Nghymru yn cyflogi tua 629,000 o bobl, nodir y cyfleoedd i ennill contractau鈥檙 sector cyhoeddus.

Cynhelir y cyfarfodydd hyn cyn Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU yng Nghymru yr wythnos nesaf (21 Tachwedd) a fydd yn dangos i arweinwyr busnes byd-eang pam y mae Cymru鈥檔 wlad mor wych i fuddsoddi ynddi.

Dan arweiniad dau o Weinidogion Swyddfa Cymru, sef y Farwnes Randerson ac Alun Cairns, bydd y cyfarfodydd yn amlygu sut y gall cwmn茂au yng Nghymru fanteisio ar ymrwymiadau鈥檙 llywodraeth i chwalu鈥檙 rhwystrau sy鈥檔 eu hatal rhag ymgeisio a鈥檜 helpu i ennill contractau, megis cael gwared 芒 Holiaduron Cyn-gymhwyso yng nghyswllt pob contract gwerth isel sy鈥檔 fwrn ar gwmn茂au sydd 芒 llai o adnoddau.

Dywedodd Francis Maude, Gweinidog dros Swyddfa鈥檙 Cabinet:

Fel rhan o鈥檔 cynllun economaidd hirdymor, rydym yn rhoi diwygiadau radical ar waith i helpu BBaCh i dendro am fusnes a鈥檌 ennill. Nhw yw anadl einioes ein heconomi ond yn y gorffennol roedd yn llawer rhy anodd iddynt ennill contractau gyda chyrff llywodraeth leol a鈥檙 llywodraeth ganolog.

Rwyf yn falch bod Gweinidogion Swyddfa Cymru a chynrychiolwyr o鈥檙 llywodraeth ganolog wedi dod i Gymru i drafod gydag arweinwyr busnesau bach ac rwyf yn edrych ymlaen at yr adborth a gawn a fydd yn helpu i lywio ein gwaith yn y dyfodol.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, sy鈥檔 cyfarfod ag arweinwyr busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Llanrwst:

Busnesau bach yw curiad calon economi Cymru. Dyna pam rydym yn cefnogi BBaCh ac yn ei gwneud yn haws iddynt greu swyddi, sicrhau buddsoddi a llwyddo mewn marchnadoedd newydd.

Drwy symleiddio ein proses gaffael a chael gwared 芒 biwrocratiaeth ddiangen, rydym yn ei gwneud yn haws i BBaCh yng Nghymru gystadlu am fusnes y llywodraeth, a鈥檌 ennill.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, sy鈥檔 cyfarfod ag arweinwyr busnes yn Y Drenewydd:

Mae diwylliant o entrepreneuriaeth yn ffynnu yng Nghymru ac mae鈥檔 lle gwych i sefydlu a thyfu busnes.

Rydym am roi bob cyfle posibl i BBaCh uchelgeisiol yng Nghymru ffynnu a chystadlu 芒 chwmn茂au mwy. Dyna pam rydym yn gwella ein proses gaffael er mwyn sicrhau bod BBaCh yn y sefyllfa orau bosibl i gystadlu am gontractau鈥檙 llywodraeth sydd werth biliynau o bunnoedd.

Bydd arbenigwyr o Swyddfa鈥檙 Cabinet a Swyddfa Cymru yn ymuno 芒鈥檙 Gweinidogion yn y sesiynau ochr yn ochr ag arweinwyr busnes lleol a swyddogion Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru, a sefydlwyd i sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gallu cydweithio鈥檔 agosach wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau.

Mae鈥檙 gwelliannau a wnaed er mwyn ehangu鈥檙 farchnad i gwmn茂au bach yn cynnwys y canlynol:

Gwneud rhai contractau yn llai Symleiddio鈥檙 broses ymgeisio Cyflymu鈥檙 system dalu Gwneud prynwyr yn fwy atebol

Yn y Flwyddyn Newydd, bydd fersiwn newydd o wefan Contracts Finder y Llywodraeth hefyd yn ei gwneud yn haws i ddod o hyd i holl hysbysebion tendro a chyfleoedd busnes llywodraeth ganolog y DU yn ogystal 芒 nifer fawr o rai Cymru.

Hwylusir y cyfarfodydd gan Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru, Siambrau Masnach De Cymru, Siambrau Masnach Canolbarth Cymru a Gr诺p Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru.

Dywedodd Graham Morgan, Cyfarwyddwr Siambr Fasnach De Cymru a Siambr Fasnach Canolbarth Cymru:

Mae鈥檔 bleser gennym gydweithio 芒 Llywodraeth y DU i gynnal y digwyddiadau hyn yn Ne a Chanolbarth Cymru. Fel sefydliad busnes rydym yn awyddus i ehangu gymaint o gyfleoedd 芒 phosibl i fusnesau Cymru. Mae gan lawer ohonynt y gallu nid yn unig i ymgeisio am gontractau鈥檙 llywodraeth ond hefyd i鈥檞 hennill.

Mae鈥檙 cyfarfodydd bwrdd crwn hyn, lle caiff busnesau gyfle i drafod diwygiadau i鈥檙 broses yn uniongyrchol gyda Gweinidogion, yn enghraifft dda o Lywodraeth y DU yn ymdrechu i ymgysylltu 芒 busnesau Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn yn agor drysau i fusnesau Cymru fod yn rhan o broses gaffael y sector cyhoeddus.

Dywedodd Colin Brew, Cyfarwyddwr Gweithredol Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru:

Mae Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru yn falch iawn o fod yn cydweithio gyda Swyddfa鈥檙 Cabinet a Swyddfa Cymru i gynnig cyfle i鈥檞 haelodau gyfarfod 芒 Gweinidogion i drafod y newidiadau sydd ar y gweill yng nghyswllt y broses gaffael ac ym mha ffyrdd y gall mentrau bach a chanolig eu maint ymgeisio am gontractau鈥檙 llywodraeth.

Mae鈥檔 galondid i weld y llywodraeth yn neilltuo amser i wrando ar farn busnesau ac i sefydlu cysylltiadau gwell. Mae鈥檙 trafodaethau bwrdd crwn hyn yn gyfle i fusnesau ddweud eu dweud a chyflawni r么l uniongyrchol yn y gwaith o ddiwygio parhaus. Mae鈥檙 Siambr yn croesawu unrhyw gyfle o鈥檙 fath ac yn deall mor fuddiol yw bod busnesau yn cael gwell dealltwriaeth o鈥檙 amryw ffyrdd y gallent gael eu cynnwys yn system gaffael y sector cyhoeddus.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Tachwedd 2014