Llywodraeth y DU yn buddsoddi 拢2.5 biliwn o gyllid ffyniant bro yng Nghymru
Mae buddsoddi ym mhob rhan o Gymru yn tyfu鈥檙 economi ac yn sicrhau manteision amlwg i gymunedau

Mae cymunedau ledled Cymru yn elwa ar fwy na 拢2.5 biliwn o gyllid ffyniant bro gan Lywodraeth y DU i drawsnewid eu hardaloedd lleol; sy鈥檔 cyfateb i fwy na 拢800 i bob person yng Nghymru.
Fel rhan o鈥檙 hwb ariannol enfawr hwn, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol i gyflawni prosiectau sy鈥檔 trawsnewid cymunedau, yn creu miloedd o swyddi ac yn tyfu鈥檙 economi.聽 Yn 2023, roedd hyn yn cynnwys dau Barth Buddsoddi newydd gwerth 拢160 miliwn yng ngogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Cymru, Porthladd Rhydd yn Ynys M么n, Aberdaugleddau a Phort Talbot, yn ogystal 芒 拢319 miliwn arall o Gyllid Ffyniant Bro ar gyfer prosiectau ledled Cymru; gan gynnwys 拢20 miliwn i drawsnewid y glannau yn Noc y Barri, a 拢18.8 miliwn i wella cyfleusterau i ymwelwyr yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yng Ngwynedd.
Mae鈥檙 buddsoddiad o 拢2.5 biliwn gan Lywodraeth y DU hefyd yn cynnwys 拢790 miliwn mewn Bargeinion Dinesig a Thwf, sydd bellach yn cwmpasu pob rhan o Gymru ac yn darparu swyddi a thwf lleol. Mae Arena Abertawe, a ariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, bellach ar agor i fusnes ac mae ganddi raglen lawn o ddigwyddiadau.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:
Roedd 2023 yn flwyddyn wych o safbwynt graddfa a chyflymder y buddsoddiadau newydd a wnaed yng Nghymru, ac rydw i鈥檔 falch iawn o weld bod 拢2.5 biliwn a mwy o gyllid ffyniant bro wedi鈥檌 fuddsoddi mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae wedi bod yn wych gweld prosiectau lle mae gwaith wedi鈥檌 gwblhau ac mae鈥檙 gymuned eisoes yn gweld budd ohono, gan gynnwys Canolfan Dechnoleg Bae Baglan ym Mhort Talbot, sydd bellach ar agor i fusnes. Yr adeilad arloesol hwn yw鈥檙 cyntaf o鈥檌 fath yng Nghymru, ac mae wedi鈥檌 ariannu鈥檔 rhannol gan fuddsoddiad Llywodraeth y DU ym Margen Ddinesig Bae Abertawe. Mae鈥檔 cynnig swyddfeydd modern ac unedau labordy i lu o gwmn茂au arloesol.
Rydw i hefyd wedi gweld nifer o brosiectau eraill lle mae gwaith eisoes ar y gweill, neu bron 芒 chael ei gwblhau. Mae鈥檙 gwaith o adeiladu canolfan iechyd a llesiant Pentre Awel yn Llanelli yn datblygu鈥檔 gyflym, a chyn bo hir bydd yn creu dros 1,800 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi mewn cyfleuster ymchwil meddygol o鈥檙 radd flaenaf.
Uchafbwynt arall oedd gweld y gwaith adeiladu鈥檔 dechrau ar y ganolfan Peirianneg Gwerth Uchel ym Mlaenau Gwent. Bydd y ganolfan newydd hon yn darparu lle i 600 o fyfyrwyr ennill sgiliau newydd gwerthfawr, ac mae wedi cael gwerth 拢9 miliwn o gyllid yn uniongyrchol gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Mae鈥檙 buddsoddiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau, ac rydw i鈥檔 edrych ymlaen at weld llawer mwy o brosiectau trawsnewidiol ledled Cymru dros y flwyddyn nesaf.
Yn ogystal 芒 darparu cyllid ar raddfa fawr, mae Llywodraeth y DU hefyd yn gweithio鈥檔 uniongyrchol gyda chymunedau lleol i ddiogelu鈥檙 lleoedd sy鈥檔 bwysig iddyn nhw. Mae鈥檙 Gronfa Perchnogaeth Gymunedol wedi buddsoddi 拢4 miliwn a mwy mewn amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys tafarndai a siopau sy鈥檔 cael eu rhedeg gan y gymuned, a鈥檙 gwaith o adnewyddu neuaddau pentref, capeli a chanolfannau cymunedol.
Cyfarfu Ysgrifennydd Cymru 芒 llawer o鈥檙 bobl a fu鈥檔 chwarae rhan allweddol yn y gwaith o achub yr asedau cymunedol pwysig hyn. Ychwanegodd:
Mae鈥檔 bleser mawr cwrdd 芒 derbynwyr Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU, fel y bobl sy鈥檔 gyfrifol am achub Siop Bentref Llandyrnog yn Sir Ddinbych, a Llety鈥檙 Barnwr yn Llanandras.
Maen nhw鈥檔 arwyr yn eu hardaloedd lleol, ac yn llawn syniadau a brwdfrydedd. Mae鈥檔 wych ein bod ni鈥檔 gallu eu helpu i sicrhau dyfodol parhaol i鈥檙 llefydd poblogaidd hyn.
Eleni, bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa o fwy fyth o brosiectau newydd, gan gynnwys y ganolfan drafnidiaeth newydd yn Y Porth a鈥檙 ffordd ddeuol newydd yng Nghoed El谩i, ger Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf. Bydd y ddau gynllun hyn yn helpu pobl i gael mynediad at weithleoedd a chyfleusterau hamdden yn haws, yn gwella cysylltedd ar draws y rhanbarth, ac yn tyfu鈥檙 economi.
DIWEDD
Mae鈥檙 tabl isod yn nodi buddsoddiadau Llywodraeth y DU yng Nghymru.
(拢 miliwn) | Cymru |
---|---|
Cronfa Ffyniant Bro (3 rownd) | 440 |
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU | 585 |
Cronfa Perchnogaeth Gymunedol | 4.2 |
Cronfa Adfywio Cymunedol | 47 |
Porthladdoedd Rhydd | 52 |
Parthau Buddsoddi | 320 |
Cynllun Tymor Hir ar gyfer Trefi | 80 |
Cronfa Cyfleusterau Chwaraeon Llawr Gwlad | 14 |
Cronfa Cryfder mewn Lleoedd | 47 |
Bargeinion Dinesig a Thwf | 790 |
Launchpad | 7.5 |
Cronfa Buddsoddi Rhanbarthol | 130 |
CYFANSWM | 2516.7 |