Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn mwy na dyblu'r cyllid sydd ar gael i gefnogi busnesau a gweithwyr dur ym Mhort Talbot

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi hwb o 拢15 miliwn i gronfeydd cymorth ar gyfer y diwydiant dur, gan fwy na dyblu鈥檙 cyllid sydd ar gael i gefnogi busnesau yn y cadwyn gyflenwi a gweithwyr y mae newidiadau yn safle Tata Steel ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt.

  • Cyfanswm y gronfa i gefnogi busnesau a gweithwyr yn mwy na dyblu i 拢30 miliwn.

  • Bydd mwy o fusnesau yn y gadwyn gyflenwi yn gymwys i wneud cais am gymorth mewn ymateb i ddiddordeb sylweddol gan fusnesau sy鈥檔 dibynnu ar Tata Steel Port Talbot.

  • Bellach, mae busnesau yn gallu hawlio grantiau o hyd at 拢250,000 i fuddsoddi mewn offer, eiddo a thechnoleg.

Wrth gadeirio cyfarfod diweddaraf y Bwrdd Pontio heddiw (19 Rhagfyr) bydd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens yn cyhoeddi bod cyfanswm cronfa a gr毛wyd i gefnogi busnesau lleol sy鈥檔 dibynnu鈥檔 fawr ar Tata Steel yn mwy na dyblu i 拢30 miliwn. 聽

Bydd meini prawf cymhwysedd newydd yn golygu y bydd mwy o fusnesau nawr yn gallu gwneud cais am arian, a bydd gwerth grantiau unigol hefyd yn cynyddu i hyd at 拢250,000 er mwyn i fusnesau allu buddsoddi mewn offer, eiddo a thechnoleg. 聽聽

Daw hyn yn dilyn galw sylweddol ar y gronfa sydd eisoes yn bodoli, gyda bron i 40 o fusnesau sy鈥檔 cyflogi 2,000 o bobl yn mynd drwy鈥檙 broses ymgeisio ar hyn o bryd. Disgwylir i grantiau gwerth miliynau o bunnoedd gael eu rhyddhau yn y flwyddyn newydd.

Mae鈥檙 arian, a ddaw o gronfa gwerth 拢80 miliwn Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot Llywodraeth y DU, yn cefnogi busnesau sydd yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel i droi at farchnadoedd a chwsmeriaid newydd lle bo hynny鈥檔 angenrheidiol i amddiffyn swyddi a鈥檙 economi leol.

Mae鈥檙 arian hefyd ar gael i weithwyr sy鈥檔 cael eu heffeithio gan y newid i鈥檞 helpu i ddod o hyd i swyddi newydd, gael mynediad at hyfforddiant a sicrhau sgiliau a chymwysterau mewn sectorau ble mae swyddi ar gael. 聽

Mae鈥檙 cynnydd mewn cyllid a gyhoeddwyd y mis hwn yn ymateb i鈥檙 disgwyliad y bydd mwy o bobl yn gadael Tata yn gynnar yn 2025 drwy gynllun diswyddo gwirfoddol y cwmni.

Meddai Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens:聽聽

Mae鈥檙 llywodraeth hon yn gweithredu鈥檔 bendant i gefnogi gweithwyr a busnesau ym Mhort Talbot.聽聽聽

Rydym yn dyblu鈥檙 arian sydd ar gael i fusnesau a gweithwyr ac yn ymestyn y gallu i gael mynediad at grantiau i sicrhau ein bod yn cefnogi gymaint o bobl 芒 phosibl.

Mewn dim ond pedwar mis rydym wedi cyhoeddi gwerth mwy na 拢40 miliwn o fuddsoddiadau. Mi ddywedasom y byddem yn cefnogi gweithwyr a busnesau sy鈥檔 cael eu heffeithio gan y newidiadau ym Mhort Talbot, ac rydym yn gwneud hynny.

Er bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i weithwyr Tata, eu teuluoedd a鈥檙 gymuned, rydym yn benderfynol o gefnogi gweithwyr a busnesau yn y diwydiant dur yng Nghymru, beth bynnag fydd yn digwydd.

Mae cwmni peirianneg Gr诺p JES sydd wedi鈥檌 leoli ym Mhort Talbot yn ail-hyfforddi cyn weithwyr dur ym Mhort Talbot i fod yn weldwyr, ac mae rhai ohonynt wedi gallu cael arian gan gronfa鈥檙 Bwrdd Pontio.

Meddai Curtis Reece, Hyfforddwr Weldio ar gyfer Academi JES:

Mae鈥檙 sector adnewyddu yn datblygu鈥檔 gyflym, ac nid oes yna ddigon o bobl ar gael gyda鈥檙 sgiliau angenrheidiol.

Mae JES yn gobeithio y gallwn helpu cymaint o bobl 芒 phosibl o Tata i gael swyddi newydd.

Mae weldio yn swydd alwedigaethol werth chweil ac yn yrfa dda a all arwain at gymaint o wahanol lwybrau.

Dyma鈥檙 trydydd tro i鈥檙 Bwrdd Pontio gyhoeddi bod arian ar gael. Ynghyd 芒鈥檙 cyhoeddiad cychwynnol am gefnogi busnesau yn y gadwyn gyflenwi i ddod o hyd i farchnadoedd newydd ac i weithwyr yr effeithir arnynt gael eu hail-hyfforddi, sydd heddiw wedi cael ei ddyblu, ym mis Tachwedd mi wnaeth Ysgrifennydd Cymru gyhoeddi y byddai cronfa dechrau, tyfu a chadernid busnes gwerth 拢13 miliwn yn cynnwys:

  • Cronfa dechrau busnes a fydd yn galluogi gweithwyr Tata Steel, aelodau agos o鈥檜 teuluoedd, a phobl yn y gadwyn gyflenwi i gael cymorth ac arweiniad, ac i gael mynediad at grantiau. Bydd pobl sy鈥檔 awyddus i sefydlu cwmn茂au newydd yn gallu cael mynediad at grantiau nad oes rhaid iddynt eu had-dalu o hyd at 拢50,000.聽聽

  • Cronfa newydd ar gyfer tyfu busnes i gefnogi cwmn茂au sydd eisoes wedi鈥檜 sefydlu ac sy鈥檔 ceisio tyfu yn yr economi leol. Bydd grantiau rhwng 拢25,001 a 拢300,000 ar gael, wedi鈥檜 teilwra i anghenion penodol pob busnes.

  • Cronfa cadernid busnes sy鈥檔 darparu cymorth wedi鈥檌 dargedu i fusnesau lleol y mae鈥檙 newidiadau parhaus yn Tata Steel yn effeithio arnynt, er mwyn eu galluogi i arallgyfeirio i farchnadoedd newydd, creu swyddi newydd a dod o hyd i gyfleoedd mewn sectorau newydd gyda grantiau鈥檔 amrywio o 拢2,500 i 拢50,000.

Mae鈥檔 golygu bod cyfanswm o 拢42.8 miliwn o gymorth wedi鈥檌 neilltuo yn awr gan y Bwrdd Pontio ers mis Gorffennaf.

Gall busnesau neu unigolion sydd 芒 diddordeb mewn gwneud cais am arian ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar a gallant anfon neges e-bost i [email protected]. Mae鈥檙 Hwb Gwybodaeth hefyd yn cynnwys manylion mathau eraill o gymorth sydd ar gael i weithwyr a busnesau sy鈥檔 cael eu heffeithio gan y newidiadau.

Ar ben y cymorth ariannol sydd wedi鈥檌 gyhoeddi, mae mwy na 50 busnes hyd yma wedi llofnodi addewid i gefnogi unrhyw weithwyr sy鈥檔 cael eu gorfodi i adael eu swyddi yn y gwaith dur.聽聽

Mae鈥檙 busnesau, sy鈥檔 cynnwys Fintech Wales, Y Bathdy Brenhinol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, RWE Energy, Ledwood Mechanical Engineering a Pro Steel Engineering, wedi ymrwymo i roi cefnogaeth ymarferol i weithwyr sy鈥檔 amrywio o gwarantu y bydd unrhyw un sydd wedi colli swydd yn cael cyfweliad am swydd, i ddarparu hyfforddiant.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2024